CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Safonau diogelu grŵp C

Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol - grŵp C.

Pwyntiau pwysig i’w nodi

  1. Mae’r safonau hyn yn cyfeirio at rai rolau enghreifftiol, ond nid ydynt yn nodi’r holl
    rolau a chyfrifoldebau ar draws y sector. Mae dyletswydd, felly, ar sefydliadau i nodi ymysg eu gweithluoedd eu hunain, pa rolau sy’n gweddu i grwpiau penodol. Wrth bennu hyfforddiant priodol ar gyfer pob aelod staff unigol, bydd angen i’r sefydliad fodloni ei hun pa grŵp y bydd pob aelod staff yn briodol ar ei gyfer. Os yw sefydliadau neu reolwyr yn ansicr pa grŵp yw’r un priodol, ac os yw’r rôl yn perthyn i fwy nag un grŵp, y disgwyl yw y bydd yr ymarferydd yn cael ei hyfforddi i’r grŵp uwch, er enghraifft os yw gweithiwr yn perthyn i grŵp B a C, yna dylid ei hyfforddi ar lefel grŵp C.
  2. Drwy’r safonau cyfan, bydd disgwyl i unrhyw ymarferydd sy’n cychwyn mewn rôl
    newydd o grŵp B ymlaen, fod wedi cwblhau hyfforddiant yn y grwpiau blaenorol cyn cychwyn y rôl. Os ddim, dylid ei gefnogi i gwblhau’r hyfforddiant yn ystod chwe mis cyntaf ei gyfnod sefydlu.
  3. Yn grwpiau C i E, mae disgwyl y bydd ymarferwyr yn gwneud hyfforddiant cyffredinol a hyfforddiant sy’n benodol i’r rôl. Bydd y rhan cyffredinol yn cynnwys hyfforddiant y bydd angen i bob ymarferydd yn y grwpiau hyn ei gwblhau beth bynnag fo’r rôl neu’r sefydliad. Yn ychwanegol at yr hyfforddiant cyffredinol, fodd bynnag, bydd angen cytuno’n ffurfiol ar yr hyfforddiant sy’n benodol i’r rôl fel rhan o gynllun hyfforddi a datblygu personol yr unigolyn a bydd yn adlewyrchu elfennau penodol ei rôl a’i gyfrifoldebau.

Rolau a chyfrifoldebau

Ymarferwyr grŵp C yw pobl sy’n uniongyrchol gyfrifol am ddiogelu pobl:

  • sydd â rôl asesu sy'n gysylltiedig â'r broses ddiogelu a / neu
  • sy'n gweithredu ar lefel lle gallant roi cyngor ar ddiogelu i'r rhai yng ngrŵp A a grŵp B a / neu
  • sydd mewn lleoliad y maent yn gweithio ynddo neu'n ei reoli a / neu
  • y maent yn treulio llawer o amser gyda nhw heb oruchwyliaeth a lle gallai pryderon diogelu godi.

Mae ymarferwyr grŵp C hefyd yn cynnwys person diogelu dynodedig y sefydliad a phobl sy'n cymryd rhan fwy amlwg mewn penderfyniadau diogelu, gan gynnwys rhai sydd â rôl weithredol mewn grwpiau craidd a gweithgareddau cynllunio diogelu.

Gallai ymarferwyr grŵp C o bosibl gyfrannu at asesu, cynllunio, ymyrryd ac adolygu anghenion pobl lle mae pryderon ynghylch diogelu, neu gallent gymryd rhan lawn yn y gwaith hwnnw.

Mae’r Fframwaith Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol yn rhoi manylion am hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr grŵp C. Mae’r fframwaith yn cydnabod y gallai fod gan ymarferwyr yn y grŵp hwn gyfrifoldebau diogelu penodol ychwanegol ar gyfer eu rôl. I rai ymarferwyr, gall eu corff rheoleiddio / proffesiynol ddiffinio'r hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer y rôl.

Wrth fwrw golwg ar safonau ar draws y grwpiau i gyd, gallant ymddangos yn ailadroddus. Ond, mae angen i ymarferwyr mewn gwahanol grwpiau gael gwybodaeth a dealltwriaeth fanylach oherwydd y cyfrifoldebau sydd ganddynt. Felly, bydd yr hyfforddiant a ddarperir ar gyfer pob grŵp yn archwilio'r un pynciau yn fanylach. Bydd y fframwaith dysgu a datblygu yn helpu i ddangos hyn.

Ar gyfer ymarferwyr grŵp C, mae eu dyletswyddau diogelu yn fwy a bydd ganddynt benderfyniadau i'w gwneud ynghylch cadw pobl yn ddiogel a phryd y mae angen iddynt roi prosesau amddiffyn ar waith. Bydd angen i'r ymarferwyr hyn gael yr holl wybodaeth a dealltwriaeth o safonau grwpiau A a B yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol i sicrhau eu bod yn cyflawni eu rôl yn unol â'r gyfraith. Er enghraifft, bydd ymarferwyr grŵp C yn gallu deall y gyfraith a'i chymhwyso i'w hymarfer diogelu ac amddiffyn beunyddiol.

Mae hyfforddiant diogelu grŵp C generig y mae'n rhaid i bawb yng ngrŵp C ei wneud.

Bydd angen hyfforddiant ychwanegol sy’n berthnasol i rolau a chyfrifoldebau penodol ymarferwyr ar ôl cwblhau’r hyfforddiant grŵp C generig.

Bydd hyn yn wahanol i ymarferwyr unigol hyd yn oed o fewn asiantaethau a sefydliadau er enghraifft o fewn iechyd bydd angen hyfforddiant, dysgu a datblygu arbenigol ar rai pediatregwyr o fewn grŵp C mewn cynnal archwiliadau meddygol amddiffyn plant ac adrodd arnynt. Bydd yr hyfforddiant, dysgu a datblygu arbenigol hwn yn aml yn cael ei ddiffinio ac yn ofynnol gan gyrff proffesiynol a/neu reoleiddiol a bydd yn cael ei ddiffinio ar lefel genedlaethol neu lefel asiantaeth. Efallai y bydd cytundebau lleol hefyd ar gyfer gofynion hyfforddi, dysgu a datblygu penodol.

Egwyddorion cofiadwy:
  • Rwy’n deall fod rhoi llais a rheolaeth i bobl yn rhan hanfodol o'r broses o wneud penderfyniadau – ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn/person
  • Rwy’n deall rolau a chyfrifoldebau pawb yn y broses ddiogelu
  • Mae gen i’r gallu i wneud penderfyniadau clir a chymesur.

Safonau hyfforddi, dysgu a datblygu (grŵp C)

(Yn cyfateb i Lefel 3 mewn iechyd)

Bydd angen i bawb yn y grŵp hwn wybod popeth yng ngrwpiau A a B.

a) Deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol mewn perthynas â diogelu.

  1. Deddfwriaeth, canllawiau statudol, polisïau cenedlaethol a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sy'n ymwneud â diogelu pobl – oedolion a phlant a phobl ifanc – a beth mae'r rhain yn ei olygu'n ymarferol. Trowch at y rhestr gyflawn o ddeddfwriaeth sydd ar gael yn adran y cyflwyniad.
  2. Gwybodaeth am Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a’i chymhwyso’n ymarferol yn y cyd-destun diogelu (pum egwyddor statudol), lle bo'n berthnasol.
  3. Cymhwyso'r prawf galluedd dau gam[1] yn effeithiol, hynny yw, y prawf penodol ar gyfer sut mae unigolyn yn cofio ac yn deall y digwyddiad diogelu, lle bo'n berthnasol.
  4. Sut mae cyfreithiau, canllawiau cenedlaethol a lleol, a pholisïau sefydliadol yn effeithio ar arferion diogelu.
  5. Sut mae fframweithiau deddfwriaethol yn cefnogi hawl pobl i gael eu diogelu rhag eu cam-drin, eu niweidio a’u hesgeuluso.
  6. Rôl gwahanol asiantaethau ac ymarferwyr eraill sy'n ymwneud â diogelu.
  7. Bod yn agored ac yn onest gyda phobl os yw pethau'n mynd o chwith3 neu os gallent fod wedi mynd o chwith.

b) Sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag cael eu cam-drin, eu niweidio a'u hesgeuluso.

  1. Rôl a chyfrifoldebau penodol ymarferwyr mewn perthynas â'r broses amddiffyn plant neu amddiffyn oedolion.
  2. Y gwahanol fathau o eiriolaeth a sut maent yn berthnasol i'r broses ddiogelu.
  3. Meithrin perthynas sy'n hyrwyddo ymddiriedaeth pobl, teuluoedd a gofalwyr, a sicrhau bod cryfderau a risgiau yn cael yr un pwyslais yn y broses ddiogelu.
  4. Hyrwyddo llais a rheolaeth y person yn amlwg a chlir ym mhob un o’r camau.
  5. Caniatáu i bobl wneud penderfyniadau ynghylch pethau sy'n bwysig iddyn nhw a chadw rheolaeth ar eu bywydau cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys esbonio penderfyniadau nad ydynt yn eu hoffi neu nad ydynt yn cytuno â nhw.
  6. Cynnal hawliau pobl, teuluoedd a gofalwyr, gan sicrhau eich bod yn cyflawni eich dyletswydd gofal, a dangos dealltwriaeth o’r pwyslais ychwanegol a roddir ar rai hawliau yn fwy nag eraill yn y broses ddiogelu.
  7. Sut i gefnogi pobl i gydbwyso eu hawliau a'u cyfrifoldebau gan sicrhau eich bod yn cynnal eich dyletswydd gofal, a sicrhau nad yw arferion gwrth-risg yn cyfyngu ar allu person i fwynhau bywyd.
  8. Galluogi pobl i deimlo'n ddiogel a hyderus wrth rannu eu pryderon a'u teimladau drwy ddarparu lle diogel a negeseuon cyson.
  9. Codi ymwybyddiaeth person o sut i gadw ei hun yn ddiogel rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod drwy roi gwybodaeth berthnasol a phenodol iddo.
  10. Codi ymwybyddiaeth person o'r peryglon sy'n gysylltiedig â defnyddio cyfryngau cymdeithasol, y rhyngrwyd a ffonau symudol, a defnyddio ffyrdd priodol o esbonio'r risgiau hynny.
  11. Gweithio mewn ffyrdd sy'n eich cadw chi ac eraill yn ddiogel rhag cael eich cam-drin, eich niweidio neu eich esgeuluso, ac wrth weithio ar eich pen eich hun.
  12. Defnyddio rhwydweithiau goruchwylio a chefnogi wrth ystyried eich arferion diogelu, eich sgiliau a'ch cymhwysedd, a'ch dealltwriaeth o gryfderau a risgiau pob unigolyn / teulu rydych chi'n gweithio gyda nhw, gan gynnwys eu profiad byw bob dydd.
  13. Gwybod ble i fynd am gyngor a chymorth os oes angen, gan gynnwys yn uniongyrchol gan y gwasanaethau cymdeithasol.

c) Y ffactorau, y sefyllfaoedd a'r gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod.

  1. Pam y gallai rhai pobl fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso.
  2. Sut y gall sefyllfa person gynyddu'r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod, er enghraifft, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
  3. Pam nad yw pobl o reidrwydd yn dweud wrth eraill eu bod wedi gweld neu brofi camdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
  4. Gweithredoedd, ymddygiadau neu sefyllfaoedd sy’n cynyddu'r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
  5. Gallu person a’i ddealltwriaeth o’r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  6. Effeithiau ymddygiad rhiant neu ofalwr a ffactorau teuluol ar oedolion a phlant sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso[2].
  7. Nodweddion ymddygiad y cyflawnwr a meithrin perthynas amhriodol yn cynnwys bwlio, rheoli trwy orfodaeth ac ymddygiad rheolaethol.
  8. Dysgu o adolygiadau ymarfer ac adroddiadau ar fethiannau difrifol i ddiogelu pobl rhag niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.

ch) Sut i ymateb, cofnodi a rhoi gwybod am bryderon neu honiadau sy'n ymwneud â diogelu.

  1. Rhoi adroddiad cywir a hyderus am unrhyw bryderon am gam-drin, niwed neu esgeulustod posibl a dyletswydd pawb i wneud hyn.
  2. Cydnabod sut a phryd y dylid rhoi gwybod am unrhyw bryderon am gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod honedig a chynghori eraill fel sy’n briodol.
  3. Camau i'w cymryd a chamau i'w hosgoi os oes amheuon, datgeliadau neu honiadau o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
  4. Gallu uwchgyfeirio a gweithredu pan fo pryderon parhaus am niwed, camdriniaeth neu esgeulustod, lle nad yw pryderon wedi cael sylw ar ôl rhoi gwybod amdanynt.
  5. Gallu adrodd a chofnodi'n effeithiol a gwybod pryd y dylai hyn ddigwydd a sut mae gwybodaeth yn cael ei storio.
  6. Sut i gofnodi gwybodaeth ysgrifenedig sy'n gywir, yn glir ac yn berthnasol gyda lefel briodol o fanylder.
  7. Y gwahaniaeth rhwng ffaith, safbwynt a barn, a pham mae deall hyn yn bwysig wrth gofnodi ac wrth adrodd gwybodaeth.
  8. Deall ffiniau cyfrinachedd mewn perthynas â diogelu.
  9. Deall pwysigrwydd rhannu gwybodaeth yn gyfreithlon ac yn gymesur.
  10. Gwybod beth yw ystyr y term 'chwythu'r chwiban' a sut i ddefnyddio polisi 'chwythu'r chwiban' eich sefydliad yn effeithiol.

Hyrwyddo’r gwaith o ddiogelu pobl

d) Hyrwyddo ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn / person.

  1. Cefnogi diwylliant cynhwysol ac yn seiliedig ar gryfderau.
  2. Cydnabod effaith cefndir diwylliannol a chrefyddol teulu wrth asesu risg a rheoli pryderon.
  3. Gweithio gyda'r person, y rhai sy'n agos ato ac ymarferwyr perthnasol i ddatblygu cynllun amddiffyn.
  4. Asesu gallu'r person i wneud penderfyniadau am risg, gan gydbwyso ei hawliau a'i gyfrifoldebau.
  5. Cynnal, cyfrannu at a chefnogi asesiadau neu ymholiadau rhyngasiantaethol, gan gynnwys casglu barn y person am berygl a rheoli risg gan atgyfeirio at asiantaethau eraill pan fo'n briodol.
  6. Dadansoddi canlyniad ymchwiliad, maint y risg i’r unigolyn, i’w rwydwaith agos neu estynedig, neu i’r gymuned[3].
  7. Trafod y sefyllfa gyda'r person neu'r plentyn, gan gofnodi ei ddymuniadau a'i farn.
  8. Cyfrannu at a / neu gydlynu cynlluniau amddiffyn, datrys ac adfer mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
  9. Gwneud trefniadau pontio diogel ar gyfnodau allweddol bywyd pan fyddwch yn ystyried canlyniadau cadarnhaol gyda phobl[4].
  10. Dilyn ac adolygu gweithdrefnau ar gyfer mynd ar drywydd plant a phobl ifanc neu oedolion ‘na ddygir’ i apwyntiadau neu na chânt eu casglu o leoliadau, a / neu na chaniateir iddynt gael mynediad i ymweliadau cartref, yn rhagweithiol.

dd) Cymryd rhan mewn prosesau diogelu.

  1. Cymryd rhan mewn adolygiadau ymarfer plant neu oedolion, adolygiadau lladdiadau arfau domestig / iechyd meddwl / ymosodol, yn y dyfodol, i'w dwyn ymlaen fel yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl[5], ac unrhyw adolygiadau rheoli achos, pan fo angen.
  2. Cyflwyno gwybodaeth yn briodol mewn cyfarfodydd ac mewn adroddiadau ysgrifenedig yn unol â'r gofynion cyfreithiol.
  3. Deall prosesau ar gyfer nodi a yw oedolyn, plentyn neu berson ifanc yn hysbys i weithwyr proffesiynol mewn gofal cymdeithasol ac asiantaethau eraill.
  4. Deall y fframweithiau a’r prosesau asesu sydd gan eich sefydliad sy'n ategu ymarfer seiliedig ar gryfderau.
  5. Deall a chyfrannu at fesur effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau.
  6. Gwybod sut i reoli a monitro honiadau o gam-drin yn erbyn ymarferwyr mewn sefyllfa o ymddiriedaeth, gan gynnwys uwchgyfeirio a cheisio cymorth.

e) Cefnogi eraill i ddiogelu pobl (ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldeb goruchwylio).

  1. Cefnogi eraill i gyflawni eu dyletswyddau diogelu.
  2. Gwybod pryd i ofyn am a chynnig cefnogaeth mewn amgylchedd gwaith cadarnhaol.
  3. Deall yr effaith bersonol bosibl a gaiff gwaith diogelu neu amddiffyn plant arnoch chi eich hun ac ar eraill.
  4. Creu a chefnogi amgylchedd gwaith sy'n caniatáu i bobl ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ym maes diogelu.
  5. Goruchwylio a chefnogi staff a chymheiriaid eraill.
  6. Cynghori eraill ynghylch rhannu gwybodaeth yn briodol.

f) Gweithio gydag eraill i ddiogelu pobl.

  1. Gweithio gydag eraill i leihau'r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod yn rhagweithiol.
  2. Nodi risgiau a chyfrannu at asesiadau risg.
  3. Gweithio gyda phawb sy'n rhan o’r sefyllfa pan fo pryderon diogelu, a defnyddio barn ystyriol i reoli risgiau a hyrwyddo diogelwch.
  4. Cydnabod y pŵer sy'n dod o weithio gyda phobl a gofalwyr a’i ddefnyddio'n sensitif ac yn gyfrifol.
  5. Gwybod pryd i gysylltu ag asiantaethau eraill ynghylch asesu a rheoli cynlluniau diogelu.
  6. Tynnu sylw at anawsterau o ran adnoddau neu anawsterau gweithredol a allai fod yn rhwystr i ddarparu gofal a chymorth diogel.
  7. Gallu cymryd rhan a / neu chadeirio cyfarfodydd adolygu cymheiriaid a chyfarfodydd amlddisgyblaethol yn ôl yr angen.
  8. Deall pryd mae angen cymorth a help mewn sefyllfaoedd sydd angen mwy o arbenigedd a phrofiad.

ff) Cynnal atebolrwydd proffesiynol.

  1. Deall pwrpas a phroses Adolygiadau Ymarfer Plant neu Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Dynladdiad Domestig, Adolygiadau Dynladdiad Iechyd Meddwl ac Adolygiadau Dynladdiad Arfau Sarhaus (Bydd yr adolygiadau hyn i gyd yn dod yn rhan o’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl)
  2. Cynnal adolygiadau rheolaidd wedi'u dogfennu o'ch arferion diogelu chi (a/neu arferion diogelu eich tîm).
  3. Cymhwyso'r gwersi a ddysgwyd o archwiliadau, adolygiadau ymarfer, adolygiadau dynladdiad domestig ac adolygiadau rheoli achos i wella ymarfer.
  4. Deall rhannu gwybodaeth, cyfrinachedd a chydsyniad.
  5. Bod yn ymwybodol o rôl a chylch gwaith y byrddau diogelu rhanbarthol.
  6. Deall y cysylltiadau rhwng diogelu a systemau cyfiawnder troseddol.
  7. Deall rôl gwahanol fathau o dystion.
  8. Deall egwyddorion goruchwylio diogelu a chymorth gan gymheiriaid effeithiol.
  9. Deall fframweithiau cenedlaethol a lleol ar gyfer asesu risg a niwed.
  10. Cadw eich ymwybyddiaeth o'r ystod o adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi teuluoedd yn gyfredol.

g) Safonau penodol i ymarferwyr sy'n darparu gwasanaethau sylweddol i blant a phobl ifanc.

  1. Deall y prosesau a'r ddeddfwriaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys gwasanaethau ar gyfer plant â phrofiad o ofal, fel sy'n briodol i'ch rôl.
  2. Deall y defnydd o warchodwyr[6].
  3. Deall y ffordd y rheolir proses Ymateb Gweithdrefnol Iechyd Cyhoeddus Cymru i Farwolaethau Annisgwyl yn ystod Plentyndod (PRUDIC[7]) ar gyfer marwolaeth annisgwyl plentyn neu berson ifanc.
  4. Deall salwch ffug neu salwch wedi'i achosi gan eraill.
  5. Cydsyniad a chyfrinachedd mewn perthynas â phobl ifanc o dan 16 oed, gan gynnwys cysyniadau Cymhwysedd Gillick a Chanllawiau Fraser.

ng) Safonau sy'n benodol i ymarferwyr sy'n darparu gwasanaethau sylweddol i oedolion.

  1. Esbonio sut mae rheoli marwolaeth oedolyn mewn cyd-destun diogelu.
  2. Deall egwyddorion cydsyniad a chyfrinachedd mewn perthynas ag oedolion.
  3. Cymhwyso'r prawf galluedd dau gam, sef y prawf penodol ar gyfer sut mae’r person yn cofio ac yn deall y digwyddiad diogelu.

[1] Y Ddeddf Galluedd Meddyliol (MCA) Mae'n berthnasol i bobl 16 oed a throsodd

[2] Gall ymddygiad rhieni neu ofalwyr a ffactorau teuluol gynnwys camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig, straen a chydymffurfiaeth gelwyddog.

[3] Ystyrir graddau'r risg i'r gymuned o ran buddiannau diogelwch y cyhoedd.

[4] Mae pontio yn berthnasol i unrhyw gyfnod ym mywyd person lle mae newidiadau'n digwydd a allai effeithio ar ei anghenion gofal a chymorth. Efallai y bydd ystyriaethau diogelu ychwanegol hefyd.

[5] Mae'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a’r nod yw y bydd yn disodli'r holl adolygiadau cyfredol.

[6] Hebryngwr: Gweler yr Eirfa.

[7] Mae'r PRUDiC yn berthnasol i bob marwolaeth annisgwyl mewn plant o'u genedigaeth tan eu pen-blwydd yn 18 oed, boed hynny o achosion naturiol, annaturiol, hysbys neu anhysbys, gartref, yn yr ysbyty neu yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys gwrthdrawiadau traffig ffordd, hunanladdiadau ymddangosiadol a llofruddiaethau. Nid yw hyn yn cynnwys marw-enedigaethau a marwolaeth babanod cyn-hyfyw a anwyd cyn 24 wythnos. Ymateb Gweithdrefnol Iechyd Cyhoeddus Cymru i Farwolaethau Annisgwyl yn ystod Plentyndod (PRUDiC)

Cyhoeddwyd gyntaf: 19 Hydref 2022
Diweddariad olaf: 2 Hydref 2023
Diweddarwyd y gyfres: 2 Hydref 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (42.0 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (32.6 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch