CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Safonau diogelu grŵp E

Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol - grŵp E.

Pwyntiau pwysig i’w nodi

  1. Mae’r safonau hyn yn cyfeirio at rai rolau enghreifftiol, ond nid ydynt yn nodi’r holl rolau a chyfrifoldebau ar draws y sector. Felly, dyletswydd sefydliadau yw nodi
    o fewn eu gweithlu eu hunain, pa rolau sy’n gweddu i grwpiau penodol. Wrth
    bennu hyfforddiant priodol ar gyfer pob aelod staff, bydd angen i’r sefydliad
    sicrhau bod yr aelod staff wedi ei osod yn y grŵp sy’n briodol ar ei gyfer. Os yw
    sefydliadau neu reolwyr yn ansicr pa grŵp yw’r un priodol, ac os yw’r rôl yn perthyn i fwy nag un grŵp, disgwylir i’r ymarferydd gael ei hyfforddi yn y grŵp uwch, er enghraifft os yw gweithiwr yn perthyn i grŵp B ac C, dylid ei hyfforddi ar lefel grŵp C.
  2. Drwy’r safonau i gyd, disgwylir i bob ymarferydd sy’n cychwyn mewn rôl newydd o grŵp B ymlaen fod wedi cwblhau hyfforddiant yn y grwpiau blaenorol cyn cychwyn y rôl. Fel arall, dylid ei gefnogi i gwblhau’r hyfforddiant yn ystod chwe mis cyntaf ei gyfnod sefydlu.
  3. Yn y grwpiau C i E, disgwylir i ymarferwyr wneud hyfforddiant cyffredinol
    a hyfforddiant sy’n benodol i’r rôl. Bydd yr adran gyffredinol yn cynnwys hyfforddiant y dylai pob ymarferydd yn y grwpiau hyn ei gwblhau beth bynnag yw eu rôl neu’r sefydliad. Yn ogystal â’r hyfforddiant cyffredinol, fodd bynnag, bydd angen cytuno’n ffurfiol pa hyfforddiant sy’n benodol i’r rôl fel rhan o gynllun hyfforddi a datblygu personol yr unigolyn a bydd yn adlewyrchu elfennau penodol o’i rôl a’i gyfrifoldebau.

Rolau a chyfrifoldebau:

Rolau grŵp E yw'r rhai sydd â'r 'penderfyniad terfynol neu’r gair olaf’ am benderfyniadau diogelu yn ystod y broses ddiogelu. Gallant roi cyngor ar sefyllfaoedd cymhleth, lefel uchel a chael y gair olaf mewn unrhyw benderfyniadau diogelu sydd angen eu gwneud.

Mae rhai penderfyniadau na ellir eu gwneud yn y broses ddiogelu o dan y lefel hon. Mae'r rhain yn cynnwys y lefelau uwch o becynnau gofal a chymorth (lleoliadau) sydd eu hangen weithiau oherwydd pryderon diogelu. Efallai na fydd gan rai asiantaethau bobl sy'n gweithredu ar y lefel hon oherwydd y lefel uchel o arbenigedd, gwybodaeth a phwerau gwneud penderfyniadau – sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r broses ddiogelu – sydd eu hangen.

Byddai'r bobl sy'n gweithredu ar y lefel hon hefyd yn cynghori asiantaethau eraill ar eu maes arbenigedd a byddent yn gallu arwain gwaith diogelu ar lefel rhanbarth, Cymru a'r DU yn y maes hwn. Byddent yn ymwneud fel mater o drefn â grwpiau rhanbarthol neu genedlaethol sy'n edrych ar faterion diogelu, gan gynnwys mentrau cenedlaethol ac adolygiadau cymhleth.

Ni fyddai ymarferwyr grŵp E o reidrwydd yn bobl ar y lefelau uchaf mewn sefydliadau, gan mai grŵp F fyddai’r rheiny (yn cynnwys aelodau etholedig, aelodau bwrdd a phrif weithredwyr). Mae gan bobl grŵp F bwerau penderfynu lefel uwch cyffredinol, ni fyddent yn trin manylion y broses ddiogelu ac yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r broses hon. O bosibl, ni fyddai ganddynt chwaith y wybodaeth angenrheidiol i roi cyngor ac arweiniad arbenigol ar faterion diogelu.

Egwyddorion cofiadwy:
  • Rwy’n goruchwylio’n strategol yr holl faterion diogelu yn y sefydliad
  • Byddaf yn ceisio sicrhau bod gennym ddigon o adnoddau i gyflawni dyletswyddau diogelu'r sefydliad
  • Byddaf yn defnyddio fy ngwybodaeth a'm dylanwad i wella arferion diogelu yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Grŵp E: Rolau arbenigol neu arweinwyr sector

a) Cymwyseddau craidd (arweinwyr sector).

Gall pobl gyflawni'r tasgau hyn neu eu dirprwyo i eraill a byddant yn goruchwylio’r gwaith ac yn atebol amdano.

  1. Fel sydd wedi ei nodi yn grŵp A i D.
  2. Darparu cymorth a sicrhau eich bod yn cyfrannu at arfarnu’r gwaith o ddiogelu gan ddarparu goruchwyliaeth briodol ar gyfer diogelu ar draws y sefydliad.
  3. Sicrhau bod staff ar draws y sefydliad yn gallu manteisio ar y cyfleoedd datblygu a hyfforddi angenrheidiol ar ddiogelu, a bod amser wedi'i neilltuo ar gyfer dysgu. Dylid sicrhau bod gwerthuso a monitro'n digwydd, sy'n gysylltiedig â chanfyddiadau ac argymhellion o adolygiadau ymarfer.
  4. Hyrwyddo'r ddelfryd bod yr holl hyfforddiant diogelu yn hyfforddiant amlasiantaethol, lle bynnag y bo'n bosibl, o grŵp B i fyny.
  5. Bod yn atebol am sicrhau ansawdd a gwella diogelu er mwyn sicrhau bod yna brosesau cadarn a sicrhau arloesedd a newid er mwyn gwella diogelu ar draws y sefydliad.
  6. Cymryd arweiniad strategol a phroffesiynol ar draws y sefydliad ar bob agwedd ar ddiogelu.

b) Cymwyseddau craidd (rolau arbenigol).

  1. Parhau i gynnal eich sgiliau a'ch arbenigedd yn eich maes gwybodaeth penodol i gefnogi'r broses ddiogelu.
  2. Rhoi cyngor ac arweiniad strategol ac arbenigol, gyda'r nod o wella ansawdd gweithgarwch diogelu yn barhaus er mwyn gwella canlyniadau i'r rhai y nodwyd bod ganddynt bryderon diogelu.
  3. Darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i fyrddau a swyddogion gweithredol sefydliadau comisiynwyr ar bob mater sy'n ymwneud â diogelu, gan gynnwys rheoleiddio ac arolygu, a rheoli eu disgwyliadau.
  4. Rhoi cyngor strategol ac arbenigol i gynllunwyr a chomisiynwyr gwasanaethau, gan sicrhau bod yr holl wasanaethau a gomisiynir yn bodloni'r gofyniad statudol i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl.

Gwybodaeth, sgiliau, agweddau a gwerthoedd

Dylai ymarferwyr grŵp E feddu ar y wybodaeth, y sgiliau, yr agweddau a'r gwerthoedd a nodir yn y grwpiau A i D.

c) Gwybodaeth.

  1. Gwybodaeth fanwl am bolisïau perthnasol cenedlaethol yng Nghymru a’r DU ac yn rhyngwladol, a’u goblygiadau ar gyfer ymarfer.
  2. Deall yr holl ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i ddiogelu fel y mae wedi ei nodi yn y Cyflwyniad.
  3. Gwybod pryd mae angen cyngor cyfreithiol mewn perthynas â materion llys a gallu defnyddio'r cyngor hwn i benderfynu ar gamau gweithredu, os oes angen.
  4. Arwain y gwaith o weithredu canllawiau cenedlaethol ac archwilio effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau ar draws y sefydliad yn erbyn safonau ansawdd.
  5. Ymwybyddiaeth gadarn o wahanol arbenigeddau a rolau proffesiynol yn eich sefydliad ac asiantaethau eraill.

ch) Sgiliau.

  1. Arwain (neu ddirprwyo) cyfraniad y sefydliad at adolygiadau diogelu (fel adolygiadau ymarfer plant, adolygiadau ymarfer oedolion neu adolygiadau dynladdiad domestig), dod i gasgliadau a datblygu cynllun gweithredu y cytunwyd arno i fynd i'r afael â'r gwersi a ddysgwyd.
  2. Arwain a chydweithio â chydweithwyr mewn rhwydweithiau diogelu lleol, ` rhanbarthol a chenedlaethol .
  3. Goruchwylio, arfarnu a chefnogi ymarferwyr grŵp D.
  4. Arwain (neu ddirprwyo) adolygiadau tîm amlddisgyblaethol.
  5. Gwerthuso a diweddaru gweithdrefnau a pholisïau lleol yng ngoleuni materion a datblygiadau perthnasol cenedlaethol yng Nghymru a’r DU ac yn rhyngwladol.
  6. Datrys safbwyntiau gwahanol ymhlith staff yn eich sefydliad ac asiantaethau eraill, gan gynnwys gweithredu os derbynnir cwyn gan asiantaeth bartner am arferion diogelu.
  7. Ymdrin yn rhagweithiol â chyfathrebu strategol a'r cyfryngau (os oes angen yn ôl eu rôl) ar ddiogelu ar draws y sefydliad.
  8. Arwain, dadansoddi a dirprwyo asesiadau cadarn o anghenion y boblogaeth ym maes diogelu sy'n sefydlu gofynion gwasanaethau ar draws y sefydliad ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
  9. Dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch heriau buddsoddi mewn gwasanaethau a chyfleoedd i ddiogelu pobl a chyflwyno sail dystiolaeth i swyddogion gweithredol.
  10. Rhoi cyflwyniadau strategol lefel uchel i ddylanwadu ar ddatblygiad sefydliadol.
  11. Gweithio mewn partneriaeth ar brosiectau strategol gydag uwch swyddogion a chydweithwyr diogelu yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

d) Agweddau a gwerthoedd.

Fel mae grwpiau A i D yn nodi.

Cyhoeddwyd gyntaf: 20 Hydref 2022
Diweddariad olaf: 2 Hydref 2023
Diweddarwyd y gyfres: 2 Hydref 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (30.0 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (32.6 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch