CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Safonau diogelu grŵp A

Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol - grŵp A.

Pwyntiau pwysig i’w nodi

Mae’r safonau hyn yn cyfeirio at rai rolau enghreifftiol, ond nid ydynt yn nodi’r holl rolau a chyfrifoldebau ar draws y sector. Felly, dyletswydd sefydliadau yw nodi o fewn eu gweithlu eu hunain, pa rolau sy’n gweddu i grwpiau penodol.

Wrth bennu hyfforddiant, dysgu a datblygu priodol ar gyfer pob aelod staff, bydd angen i’r sefydliad sicrhau bod yr aelod staff wedi ei osod yn y grŵp sy’n briodol ar ei gyfer.

Os yw sefydliadau neu reolwyr yn ansicr pa grŵp yw’r un priodol, ac os yw’r rôl yn perthyn i fwy nag un grŵp, disgwylir i’r ymarferydd gael ei hyfforddi yn y grŵp uwch. Er enghraifft, os yw gweithiwr yn perthyn i grŵp B ac C, dylid ei hyfforddi ar lefel grŵp C.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae ymarferwyr grŵp A i gyd yn staff sy'n ymuno â sefydliad neu asiantaeth yn y sector cyhoeddus neu'r sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae'r safonau hyfforddi hefyd yn addas ar gyfer y rhai mewn lleoliadau sector preifat, gwirfoddolwyr ac aelodau etholedig awdurdodau lleol.

Nod y safonau yw rhoi dealltwriaeth i chi o ddiogelu a'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud mewn achosion o niwed neu gamdriniaeth wirioneddol neu bosibl.

Wrth edrych ar y safonau ar draws y grwpiau, efallai y bydd yn edrych fel eu bod yn cael eu hailadrodd. Fodd bynnag, bydd angen i ymarferwyr mewn gwahanol grwpiau gael gwybodaeth a dealltwriaeth fanylach oherwydd y cyfrifoldebau sydd ganddynt. Felly, bydd yr hyfforddiant, dysgu a datblygu a ddarperir ar gyfer pob grŵp yn archwilio'r un pynciau yn fanylach. Bydd y fframwaith hyfforddi, dysgu a datblygu yn helpu i ddangos hyn.

Dylai ymarferwyr sydd wedi'u cynnwys yng ngrŵp A fod yn ymwybodol o faterion diogelu ac felly mae'r safonau yn y grŵp hwn wedi'u pennu i adlewyrchu'r lefel ofynnol o wybodaeth ac ymarfer sydd eu hangen ar gyfer eu rôl. Er enghraifft, bydd ymarferydd grŵp A yn ymwybodol bod yna gyfraith sy'n diogelu pobl.

Modiwl hyfforddiant diogelu grŵp A

Egwyddorion cofiadwy
  • Rwy’n gwybod beth yw ystyr y term diogelu
  • Rwy’n gwybod beth i gadw llygad arno
  • Rwy’n gwybod pwy ddylai gael gwybod.

Safonau hyfforddi, dysgu a datblygu (grŵp A)

a) Sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag cael eu cam-drin, eu niweidio a'u hesgeuluso.

  1. Beth mae’r term 'diogelu’ yn ei olygu.
  2. Y prif gategorïau o gamdriniaeth ac esgeulustod.
  3. Arwyddion a symptomau cyffredin sy'n gysylltiedig â cham-drin, niwed ac esgeulustod.
  4. Meysydd risg[1] sefyllfaol eraill a allai arwain at gam-drin, niweidio ac esgeulustod.
  5. Trosolwg o'r fframwaith cyfreithiol a'r hyn y mae'n ei olygu'n ymarferol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o Ran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’u polisi asiantaethol eu hunain.
  6. Sut mae'r fframwaith cyfreithiol yn cefnogi hawliau pobl i gael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin, eu niweidio a’u hesgeuluso.
  7. Rolau asiantaethau amrywiol ac eraill sy'n ymwneud â diogelu lles pobl, yng nghyd-destun y lleoliad.
  8. Rôl a chyfrifoldebau ymarferwyr ym maes diogelu.
  9. Cynnal hawliau pobl, teuluoedd a gofalwyr.

b) Y ffactorau, y sefyllfaoedd a'r camau gweithredu a allai arwain neu gyfrannu at achosion o gam-drin, niweidio neu esgeulustod.

  1. Pam y gall rhai pobl fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso.
  2. Sut y gall sefyllfa rhywun gynyddu'r risg o gael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso, er enghraifft, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
  3. Pam nad yw camdriniaeth, o bosibl, yn cael eu datgelu gan bobl, teulu, ffrindiau neu ymarferwyr, yn cynnwys gwirfoddolwyr.

c) Sut i ymateb a chofnodi a rhoi gwybod am bryderon neu honiadau sy'n ymwneud â diogelu.

  1. Pam ei bod yn bwysig rhoi gwybod am unrhyw bryderon am achosion posibl o gam-drin, niweidio neu esgeuluso ac yn ddyletswydd ar bawb i wneud hyn.
  2. Sut a phryd y dylid rhoi gwybod am bryderon – dylech ddeall proses neu fecanweithiau adrodd eich asiantaeth neu’ch cyflogwr.
  3. Beth yw’r pethau y dylid rhoi gwybod amdanynt a'u cofnodi.
  4. Sut i ymateb i amheuon, datgeliadau neu honiadau o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.
  5. Camau i'w cymryd a chamau i'w hosgoi os oes amheuon, datgeliadau neu honiadau o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.
  6. Ffiniau cyfrinachedd[2] mewn perthynas â diogelu a gwybodaeth y mae'n rhaid ei rhannu.
  7. Pethau sy’n gallu rhwystro rhywun rhag rhoi gwybod neu godi pryderon.
  8. Camau i'w cymryd pan fo pryderon parhaus am gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod neu os nad yw pryderon wedi cael sylw ar ôl rhoi gwybod amdanynt.
  9. Beth mae'r term 'chwythu'r chwiban' yn ei olygu.

[1] Gall meysydd risg gynnwys e-ddiogelwch a cham-drin domestig.

[2] Caldicott Principles: Eight principles to make sure people's information is kept confidential and used appropriately. National Data Guardian, 2020

Cyhoeddwyd gyntaf: 28 Hydref 2022
Diweddariad olaf: 2 Hydref 2023
Diweddarwyd y gyfres: 2 Hydref 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (29.9 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (32.6 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch