CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Grŵp A

Trosolwg

Mae ymarferwyr Grŵp A i gyd yn staff sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn sefydliad neu asiantaeth sector cyhoeddus neu wirfoddol yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys:

  • y rhai mewn lleoliadau sector preifat
  • gwirfoddolwyr
  • aelodau etholedig awdurdodau lleol.

Y cymhwysedd ar gyfer y grŵp hwn yw i bob ymarferwr a gwirfoddolwr:

  • feddu ar ddealltwriaeth am ddiogelu
  • wybod beth sydd angen iddyn nhw, ac eraill, ei wneud
  • wybod eu cyfrifoldeb i rannu pryderon am niwed, cam-drin neu esgeulustod gwirioneddol neu bosibl.

Dylid cwblhau hyfforddiant Grŵp A cyn hyfforddiant ar gyfer y grwpiau eraill, oni bai bod cynnwys llawn hyfforddiant grŵp A wedi’i gynnwys yn yr hyfforddiant a ddarperir mewn ffyrdd eraill.

Egwyddorion cofiadwy

  • Rydw i’n gwybod beth mae'r term diogelu yn ei olygu.
  • Rydw i’n gwybod beth i gadw llygad amdano.
  • Rydw i’n gwybod pwy i’w hysbysu.

Yn ôl y safonau, dylai pobl yng ngrŵp A wybod:

  • sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
  • am y ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • sut i hysbysu, ymateb a chofnodi pryderon neu honiadau sy'n ymwneud â diogelu.

Canlyniadau dysgu

Gellir cyflawni canlyniadau dysgu mewn un modiwl neu sesiwn.

Ar ddiwedd gweithgaredd dysgu, fe fyddan nhw’n:

  • gallu esbonio'r term 'diogelu'
  • adnabod camdriniaeth, neu risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • gwybod bod ganddynt ddyletswydd i hysbysu am gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • gwybod beth sydd angen iddynt ei wneud os ydynt yn dyst i neu’n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod neu os bydd rhywun yn dweud wrth yr ymarferydd eu bod yn cael eu cam-drin.

Hyfforddiant, dysgu a datblygu

  • Rhaid safoni deunyddiau hyfforddi Grŵp A.
  • Gellir darparu cyfleoedd hyfforddi, dysgu a datblygu wyneb yn wyneb fel bod pob ymarferwr yn cael hyfforddiant diogelu. (Mae gan rai meysydd gwaith fynediad cyfyngedig neu ddim mynediad i hyfforddiant ar-lein.)

Nid yw e-ddysgu yn rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer gwaith aml-asiantaeth neu drafodaeth.

Ond, oherwydd y dylai hyfforddiant grŵp A fod yn codi ymwybyddiaeth gyffredinol, mae'r modiwl e-ddysgu yn addas ar gyfer y grŵp hwn.

Mae'r modiwl e-ddysgu ar gael ar ein gwefan:

Modiwl e-ddysgu diogelu Grŵp A – Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r modiwl e-ddysgu ar gyfer yr holl staff sy’n gweithio i:

  • gofal cymdeithasol
  • gofal iechyd
  • adrannau awdurdodau lleol
  • addysg
  • blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • y trydydd sector a'r sector gwirfoddol, gan gynnwys gwirfoddolwyr
  • contractwyr annibynnol (gwasanaethau a gomisiynir)
  • y trydydd sector a'r sector gwirfoddol, gan gynnwys gwirfoddolwyr
  • sefydliadau cyfiawnder troseddol, fel yr heddlu a gwasanaethau prawf.

Pethau i'w hystyried

Mae'r e-ddysgu wedi'i gynllunio i adlewyrchu'r wybodaeth a'r cymhwysedd y dylai fod gan ymarferwyr grŵp A. Mae'n cynnwys:

  • senarios achos lle gall fod pryderon diogelu, a sut i ymateb
  • cwestiynau neu asesiadau sylfaenol wedi'u hintegreiddio trwy gydol y modiwl i brofi faint y mae'r dysgwr wedi’i ddeall
  • fideos, yn dangos straeon ac enghreifftiau o ddiogelu
  • cyfle i'r dysgwr roi adborth am y modiwl.

Faint o hyfforddiant, dysgu a datblygu?

  • Mae angen i ymarferwyr grŵp A newydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu cyn dechrau eu rôl, neu fel rhan o'u cyfnod sefydlu.
  • Mae’r modiwl e-ddysgu bob amser ar gael, a gallant ei ddefnyddio’n hyblyg fel eu bod yn hyderus yn eu rôl a’u cyfrifoldebau.
  • Os byddant yn aros yng ngrŵp A, bydd angen iddynt loywi eu dysgu:
    • o leiaf un i dair awr bob tair blynedd
    • pan fydd newidiadau i ddeddfwriaeth ac arferion diogelu
    • yn amlach os oes angen gan eu rheolwr neu asiantaeth.
  • Bydd e-ddysgu (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo) yn ddwy awr ar y mwyaf.