CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Grŵp F

Trosolwg

Ymarferwyr Grŵp F yw'r bobl uchaf mewn sefydliad.

Maen nhw’n gyfrifol am sicrhau bod diogelu yn gyson ar draws asiantaethau neu ranbarthau gwahanol yng Nghymru a’r DU.

Mae ymarferwyr Grŵp F yn cynnwys:

  • aelodau etholedig ar gyfer awdurdodau lleol
  • cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol y bwrdd
  • aelodau o bob sefydliad partner
  • prif swyddogion gweithredol
  • Gweinidogion Llywodraeth Cymru
  • Prif Gwnstabliaid a Phrif Gwnstabliaid Cynorthwyol.

Un person mewn sefydliad sector cyhoeddus fydd yn gyfrifol yn y pen draw am ddiogelu.

Bydd hyn fel arfer yn ymwneud â diogelu corfforaethol, ac nid yw hyn yr un peth â bod y penderfynwr uchaf yn y broses ddiogelu.

Dylai fod gan bob ymarferydd Grŵp F fynediad at gyngor ac arbenigedd diogelu gan weithwyr proffesiynol dynodedig neu benodol.

Nid oes angen yr un wybodaeth fanwl am ddiogelu ar ymarferwyr Grŵp F ag ymarferwyr grŵp E oherwydd nid oes angen iddynt feddu ar yr un lefel o arbenigedd a sgiliau.

Mae angen i ymarferwyr Grŵp F fod â’r un ymwybyddiaeth sylfaenol o ddiogelu â grŵp A.

Bydd angen iddynt hefyd wneud rhywfaint o hyfforddiant, megis hyfforddiant ymwybyddiaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).

Egwyddorion cofiadwy

  • Rydw i’n darparu arweinyddiaeth sy'n amgylchynnu diogelu yn y sector cyhoeddus ac sy'n hyrwyddo gweithio aml-asiantaeth.
  • Rydw i’n deall elfennau craidd diogelu a pham mae hwn yn faes pwysig.
  • Byddaf yn cael arweiniad a sicrwydd gan ymarferwyr grŵp E ar feysydd sy'n peri pryder.

Yn ôl y safonau, mae angen i bobl yng ngrŵp F wybod:

  • y cymwyseddau craidd ar gyfer rolau arbenigol ac arweinwyr sector
  • sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
  • y ffactorau, sefyllfaoedd a chamau gweithredu a allai arwain at, neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • sut i hysbysu, ymateb i a chofnodi pryderon neu honiadau diogelu
  • sut i gefnogi eraill i ddiogelu pobl.

Canlyniadau dysgu

Byddant eisoes wedi cwblhau dysgu grŵp A.

Ar ddiwedd gweithgaredd dysgu, fe fyddant yn:

  • gallu esbonio'r term 'diogelu'
  • gallu adnabod camdriniaeth neu risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • gwybod bod ganddynt ddyletswydd i hysbysu am gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • gwybod beth i'w wneud os ydynt yn dyst neu'n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud wrth yr ymarferydd eu bod yn cael eu cam-drin
  • gallu hybu diwylliant yn y sefydliad:
    • sy'n diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion
    • lle mae diogelu ac amddiffyn yn digwydd ledled y sefydliad
    • lle mae adnoddau ar gael i gefnogi ac ymateb i ddiogelu
    • lle mae adnoddau ar gyfer strategaeth hyfforddi a goruchwylio diogelu.
  • deall y rôl rhianta corfforaethol a chyfrifoldebau eu sefydliad
  • deall achosion a chanlyniadau posibl esgeulustod difrifol
  • deall y rhwymedigaethau statudol i weithio gyda'r bwrdd diogelu rhanbarthol ac asiantaethau diogelu eraill, gan gynnwys y sector gwirfoddol
  • cefnogi'r bwrdd diogelu i gael cyngor arbenigol ar ddiogelu ac amddiffyn gan weithwyr proffesiynol dynodedig
  • deall y risg ar lefel bwrdd ynghylch diogelu
  • deall bod angen trefniadau i roi gwybod i bobl am ddigwyddiadau difrifol ac ymateb yn gyflym iddynt, gan gynnwys yr angen cyfreithiol i hysbysu am ddyletswyddau i'r heddlu.

Hyfforddiant, dysgu a datblygu

Rydym yn argymell yn gryf ar y ffordd gyfun o ddysgu.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • hyfforddiant ar-lein sylfaenol
  • ystafell ddosbarth rithwir
  • addysgu a dysgu wyneb yn wyneb.

Pethau i'w hystyried

Mae angen i ymarferwyr Grŵp F:

  • gwblhau e-ddysgu grŵp A a hyfforddiant pwrpasol perthnasol (fel y gyfres arweinyddiaeth VAWDSV), dysgu a datblygu fel rhianta corfforaethol
  • wneud hyfforddiant, dysgu a datblygu rôl-benodol ar gyfer grwpiau A i E yn ôl yr angen ar gyfer portffolio
  • fynychu digwyddiadau hyfforddi a dysgu a datblygu cenedlaethol rhithwir i rwydweithio â chydweithwyr a chael gwybodaeth gyffredin am bynciau diogelu ac adolygiadau ymarfer
  • ddefnyddio adroddiadau gan swyddogion a Byrddau Diogelu Rhanbarthol i gynnal ymwybyddiaeth o themâu cyfredol a themâu sy'n dod i'r amlwg sy'n berthnasol i ddiogelu
  • ddatblygu perthnasoedd cryf ag arbenigwyr mewn meysydd diogelu arbenigol.

Faint o hyfforddiant, dysgu a datblygu?

Mae angen i ymarferwyr grŵp F sydd newydd eu penodi gwblhau e-ddysgu grŵp A cyn dechrau gweithio, yn y cyfnod sefydlu neu yn ystod eu chwe mis cyntaf.

Mae angen i ymarferwyr Grŵp F gwblhau e-ddysgu grŵp A ac ailymweld â hyfforddiant, dysgu a datblygu gloywi pwrpasol perthnasol am o leiaf chwe awr bob tair blynedd.