CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Grŵp D

Trosolwg

Ymarferwyr Grŵp D yw’r rhai sy’n gweithredu ar lefel uwch yn y broses ddiogelu.

Mae’n rôl strategol fel arfer, ond efallai y caiff rhai cyfrifoldebau eu dirprwyo i ymarferwyr arbenigol Grŵp C.

Maent yn rhoi cyngor, arweiniad a goruchwyliaeth (pan fo angen) i eraill yn eu sefydliad.

Efallai y bydd gan rai ymarferwyr grŵp D gyfrifoldebau sy’n rhan o safonau grŵp E.

Os yw hyn yn wir, mae angen i ymarferwyr hyfforddi i safonau grŵp E fel y gallant baratoi ar gyfer eu rôl.

Bydd ymarferwyr Grŵp D yn:

  • meddu ar lefel uchel o wybodaeth ac arbenigedd ym maes diogelu yn eu maes gwaith
  • cyfrannu at Adolygiad Diogelu Unedig Sengl a chadeirio adolygiadau pan fo angen
  • gweithredu fel adolygydd neu aelod o banel ar gyfer Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl
  • gallu rhoi cyngor diogelu i asiantaethau partner a deall pwysigrwydd gweithio aml-asiantaeth
  • gallu cyfiawnhau eu penderfyniadau gan ddefnyddio deddfwriaeth, prosesau a gweithdrefnau, gan wneud yn siŵr bod pawb yn osgoi gwneud rhagdybiaethau
  • ymwybodol o bwysigrwydd ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn/person a'r effaith gadarnhaol y gall ei chael ar y broses ddiogelu
  • sicrhau bod llais y person yn cael ei glywed a'i hybu mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

Bydd asiantaethau statudol fel arfer yn nodi ymarferwyr grŵp D gan fod ganddynt bwerau gwneud penderfyniadau lefel uwch ar gyfer diogelu.

Mae rhai o'r rolau yn cynnwys:

  • rheolwyr llinell gweithredol (rheolwyr gwasanaeth)
  • rolau diogelu arbenigol
  • rolau cadeirydd ar gyfer gwaith diogelu. (Er enghraifft: ar adolygiadau.)

Dylid rhoi pwyslais ar waith aml-asiantaeth a gweithio gydag eraill, gan nad oes rôl gyfatebol mewn llawer o asiantaethau.

Mae'r rôl yn cynnwys:

  • deall yr hyn sydd ei angen o ymateb strategol, aml-asiantaeth
  • gallu cydweithio ag asiantaethau eraill, a'u cynghori ynghylch prosesau ac arferion diogelu, amddiffyn plant ac oedolion
  • nodi a chyfrannu at brosesau Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd (MAPPA) a Chynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol (MARAC), a'r ystod o gyfranogiad arbenigol amlasiantaethol
  • gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i nodi a lledaenu dysgu a chodi ymwybyddiaeth o arfer gorau, priodol
  • helpu i ddatblygu a hyrwyddo cymunedau ymarfer diogelu aml-asiantaeth
  • cefnogi, hyrwyddo ac eiriol dros hyfforddiant priodol, safonau hyfforddi, dulliau darparu hyfforddiant, mewn gweithluoedd aml-asiantaeth yn y maes y maent yn gweithio ynddo
  • gweithio gyda'r byrddau diogelu a chefnogi nodau diogelu rhanbarthol, aml-asiantaeth
  • bod yn rhan o drefniadau llywodraethu rhanbarthol aml-asiantaeth, sicrhau ansawdd, monitro perfformiad a chydymffurfio.

Egwyddorion cofiadwy

  • Byddaf yn arwain agenda diogelu’r sefydliad.
  • Byddaf yn sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed ar bob cam o’r broses.
  • Byddaf yn defnyddio fy ngwybodaeth a'm harbenigedd i wella arferion diogelu.

Yn ôl y safonau, mae angen i bobl yng ngrŵp D:

  • wybod sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
  • hyrwyddo arfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn a'r person
  • gymryd rhan mewn prosesau diogelu
  • gefnogi eraill i ddiogelu pobl
  • weithio gydag eraill i ddiogelu pobl
  • gynnal atebolrwydd proffesiynol.

Canlyniadau dysgu

Byddant eisoes wedi cwblhau dysgu grŵp A, B ac C.

Ar ddiwedd cyfnod o ddysgu a datblygu sy’n benodol i’w rôl diogelu, rhaid iddynt allu:

  • myfyrio ar sefyllfaoedd diogelu unigol a dod o hyd i gamau gweithredu a dysgu i'w rhannu ag eraill, megis:
    • dysgu o adolygiadau ymarfer plant ac oedolion (Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig)
    • gwersi ac argymhellion wedi'u hymgorffori i wella arfer.
  • tystiolaethu bod llais y plentyn a/neu’r oedolyn yn cael ei glywed a’i ystyried drwy gydol y broses ddiogelu
  • cymryd rôl cadeirio neu rôl cydlynydd arweiniol
  • cynghori eraill am brosesau diogelu
  • defnyddio sesiynau goruchwylio neu sesiynau un-i-un i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, myfyrio a chwilfrydedd proffesiynol gweithwyr, gan ddefnyddio gwahanol ddulliau
  • gweithio mewn partneriaeth ac arwain cyfarfodydd aml-asiantaeth
  • cynghori cydweithwyr am ganllawiau, polisïau a gweithdrefnau i ddiogelu pobl
  • dwysáu materion i gael datrysiadau
  • cynrychioli'r asiantaeth ar lefelau uwch, a gweithio gyda phartneriaid neu randdeiliaid allweddol
  • arwain arfer i gefnogi egwyddorion a gwerthoedd chwilfrydedd proffesiynol
  • lledaenu dysgu o adolygiadau
  • defnyddio gwahanol ddulliau i weithredu ar argymhellion.

Hyfforddiant, dysgu a datblygu

Bydd angen i staff Grŵp D sy'n newydd i'w rôl ddangos hyfforddiant a dysgu blaenorol.

Mae angen iddynt fod wedi cwblhau hyfforddiant grŵp C eisoes.

Bydd angen iddynt hefyd ddangos bod ganddynt ddealltwriaeth effeithiol a thrylwyr o ddiogelu pan fyddant yn dechrau yn eu swydd.

Mae'n rhaid i hyfforddiant ar y lefel hon gael ei anelu at gynulleidfa aml-asiantaeth, gyda hwyluso aml-asiantaeth.

Pwrpas hyfforddiant aml-asiantaeth a hyfforddwyr ar y lefel hon yw darparu cyfleoedd i gyfoedion ddysgu gyda'i gilydd.

Dylent allu trafod, myfyrio a dadansoddi astudiaethau achos, adolygiadau neu ddysgu o adolygiadau diogelu.

Dylid defnyddio gwahanol fathau o hyfforddiant ar gyfer grŵp D.

I gynnwys mwy o bobl, efallai y bydd angen i hyfforddiant weddu i wahanol arddulliau dysgu.

Gall y dull hyfforddi hefyd ddibynnu ar gyswllt uniongyrchol.

Rydym yn argymell ffordd gyfunol o ddysgu, a ddylai gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • gweithdai senario
  • hyfforddiant a dysgu wyneb yn wyneb
  • adolygiadau neu gyfarfodydd diogelu chwarae rôl
  • esbonio termau
  • defnyddio deddfwriaeth a'i chymhwyso
  • dysgu hunangyfeiriedig
  • adolygiad gan gymheiriaid gydag ymagwedd aml-asiantaeth
  • sesiynau wedi'u hwyluso i annog rhyngweithio
  • dysgu myfyriol.

Dylai ymarferwyr Grŵp D gadw cofnodion DPP ffurfiol i gadw golwg ar gyfleoedd dysgu y tu allan i hyfforddiant (er enghraifft: mynychu cyfarfodydd strategol).

Gallai hyfforddiant grŵp D gynnwys gwahanol ffyrdd o ddysgu, a disgwylir i ymarferwyr fod yn gyfrifol am eu dysgu eu hunain a dod o hyd i unrhyw fylchau yn eu hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth.

Bydd cyfleoedd dysgu a datblygu y tu allan i gyrsiau hyfforddi penodol.

Mae’n ymwneud ag arddangos cymwyseddau a defnyddio gwahanol ffyrdd o ddysgu i ennill gwybodaeth a sgiliau.

Pethau i'w hystyried

Dylai dysgu:

  • gynnwys sesiynau gwybodaeth byrrach wedi'u targedu
  • gynnwys myfyrio
  • gynnwys ymarfer dadansoddol
  • ganolbwyntio ar ymchwil
  • fod yn seiliedig ar ganlyniadau.

Dylai hyfforddiant ar lefel grŵp D ganolbwyntio ar ffyrdd adfyfyriol o ddysgu a chaiff ei wneud yn aml mewn sesiynau wedi'u hwyluso i annog rhyngweithio, myfyrio a dysgu.

Dylai ymarferwyr Grŵp D gadw cofnodion DPP ffurfiol i gadw golwg ar gyfleoedd dysgu eraill y tu allan i hyfforddiant (er enghraifft: mynd i gyfarfodydd strategol).

Faint o hyfforddiant, dysgu a datblygu?

  • Mae angen i ddatblygiad proffesiynol fod wedi dechrau fel rhan o'r cyfnod sefydlu, neu cyn gynted â phosibl ar ôl dechrau yn y swydd. Bydd datblygiad proffesiynol, a gwella, dysgu ac ennill mwy o ddealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd, yn ofyniad parhaus.
  • O leiaf wyth awr o hyfforddiant o fewn cyfnod prawf rôl newydd, ynghyd â hyfforddiant ar bynciau diogelu sy'n benodol i'r rôl. Mae hyn yn cynnwys:
    • amser dosbarth rhithwir
    • darllen cyn y cwrs
    • camau dilyniant gyda'r rheolwr neu'r goruchwyliwr
    • atgyfnerthu ar ôl y cwrs, lle mae ymarferwyr yn rhoi dysgu ar waith.
  • Bydd ymarferwyr yn cwblhau o leiaf 24 awr o hyfforddiant gloywi ym mhob cyfnod o dair blynedd.
  • Mae angen i bob sefydliad ystyried y gofynion yn y fframwaith.