CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Grŵp C

Trosolwg

Mae gan ymarferwyr Grŵp C gyfrifoldeb uniongyrchol am ddiogelu pobl:

  • sydd â rôl asesu sy'n gysylltiedig â'r broses ddiogelu
  • sy'n gweithredu ar lefel lle gallant roi cyngor ar ddiogelu i'r rhai yng ngrwpiau A a B
  • mewn lleoliad y maent yn gweithio ynddo neu'n ei reoli
  • y maent yn treulio llawer o amser gyda nhw heb oruchwyliaeth mewn lleoliad lle mae risg uwch o bryderon diogelu.

Yn ogystal, gall ymarferwyr Grŵp C:

  • fod yn berson diogelu dynodedig sefydliad
  • gymryd rhan fwy blaenllaw mewn penderfyniadau diogelu
  • chwarae rhan weithredol mewn grwpiau craidd a gweithgareddau cynllunio amddiffyn.

Dylai fod rhywfaint o hyblygrwydd i ddyrchafu rhai staff i grŵp D os ydynt o’r farn bod eu rôl yn gwarantu hyfforddiant mwy dwys. Gweler: Safeguarding Children Intercollegiate Document (2019) (Saesneg yn unig).

Mae dyletswyddau diogelu yn fwy ar gyfer ymarferwyr grŵp C.

Bydd yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau ynghylch cadw pobl yn ddiogel, a phryd y mae angen iddynt roi prosesau amddiffyn ar waith.

Bydd angen i’r ymarferwyr hyn feddu ar yr holl wybodaeth a dealltwriaeth o’r safonau yng ngrwpiau A a B ynghyd â gwybodaeth ychwanegol i sicrhau eu bod yn cyflawni eu rôl yn unol â’r gyfraith.

Mae hyfforddiant diogelu grŵp C generig y mae’n rhaid i bawb yng ngrŵp C ei wneud.

Pan fydd gan ymarferwyr rolau neu gyfrifoldebau diogelu ychwanegol, bydd angen iddynt wneud hyfforddiant perthnasol penodol ar ôl iddynt gwblhau’r hyfforddiant grŵp C generig.

Bydd hyn yn wahanol i ymarferwyr unigol hyd yn oed o fewn asiantaethau a sefydliadau.

Er enghraifft: ym maes iechyd, bydd angen hyfforddiant arbenigol ar rai pediatregwyr grŵp C ar gynnal profion meddygol amddiffyn plant ac hysbysu amdanynt.

Bydd yr hyfforddiant arbenigol hwn yn aml yn cael ei ddiffinio ac yn ofynnol gan gyrff proffesiynol neu reoleiddiol ar lefel genedlaethol neu lefel asiantaeth.

Efallai y bydd cytundebau lleol hefyd ar gyfer gofynion hyfforddi penodol.

Efallai y bydd gan rai ymarferwyr grŵp C gyfrifoldebau sy’n rhan o safonau grŵp D.

Os yw hyn yn wir, dylai’r ymarferydd hyfforddi i fodloni safonau grŵp D fel ei fod yn barod ar gyfer ei rôl.

Mae angen i ymarferwyr o grŵp C ymlaen fod yn ymwybodol na all y fframwaith hwn gwmpasu pob rôl neu swydd.

Yr ymarferydd sy’n gyfrifol am asesu eu hanghenion dysgu eu hunain.

Mae angen i sefydliadau nodi gofynion ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), sy'n berthnasol i'w sector.

Egwyddorion cofiadwy

  • Rydw i’n deall bod llais a rheolaeth pobl yn allweddol i wneud penderfyniadau – ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn a/neu'r person.
  • Rydw i’n deall rolau a chyfrifoldebau pawb yn y broses ddiogelu.
  • Rydw i’n dangos y gallu i wneud penderfyniadau clir a chymesur.

Yn ôl y safonau, dylai pobl yng ngrŵp C wybod:

  • am ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol mewn perthynas â diogelu
  • sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
  • am y ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • sut i hysbysu, ymateb a chofnodi pryderon neu honiadau sy'n ymwneud â diogelu
  • sut i hyrwyddo ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn a/neu'r person
  • sut i gymryd rhan mewn prosesau diogelu
  • sut i gefnogi eraill i ddiogelu pobl (ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldeb goruchwylio)
  • sut i weithio gydag eraill i ddiogelu pobl
  • sut i gynnal atebolrwydd proffesiynol.

Canlyniadau dysgu

Gellir ystyried yr holl ganlyniadau dysgu, ond bydd rhai cyrsiau yn canolbwyntio ar y meysydd dysgu pwysig ac yn fwy manwl.

Byddant eisoes wedi cwblhau dysgu grŵp A a B.

Ar ddiwedd gweithgaredd dysgu, fe fyddant yn:

  • gallu cymhwyso deddfwriaeth, polisïau a chodau ymddygiad perthnasol i'w hymarfer o ddydd i ddydd a chynghori eraill ar y rhain
  • gallu diogelu ac amddiffyn pobl ar sail y dystiolaeth sydd ar gael ar y pryd a chodi pryderon i'r lefel nesaf
  • gallu myfyrio ar ffactorau, sefyllfaoedd a chamau gweithredu a all gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod a darparu sail resymegol dros weithredu ac ymateb yn briodol i bryderon
  • gwybod sut, pryd ac i bwy i hysbysu am wahanol fathau o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed
  • dilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac unrhyw broses gwneud penderfyniadau rhanbarthol, a chynghori cydweithwyr eraill ar y rhain pan fo angen
  • dilyn protocol y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ar gyfer ‘datrys gwahaniaethau proffesiynol’
  • tystiolaethu bod llais y plentyn neu oedolyn yn ganolog i benderfyniadau diogelu drwy gydol y broses ddiogelu
  • gallu egluro rôl eiriolaeth
  • deall eu rôl a'u cyfrifoldebau a chyfrannu at fforymau a phrosesau diogelu perthnasol
  • deall yr hyn a olygir gan ‘chwilfrydedd proffesiynol’ ac atebolrwydd proffesiynol
  • deall egwyddorion goruchwyliaeth effeithiol a chefnogaeth cymheiriaid
  • gwybod sut i gynghori a chefnogi eraill i ddiogelu pobl
  • deall sut i weithio mewn partneriaeth mewn ffordd aml-asiantaeth, a bod yn glir ynghylch rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill
  • gallu cymryd cyfrifoldeb personol am ymarfer a datblygiad a datblygiad proffesiynol parhaus.

Hyfforddiant, dysgu a datblygu

Bydd ymarferwyr Grŵp C yn parhau â’u taith ddysgu diogelu wrth weithio mewn rôl grŵp C.

Bydd eu dysgu a’u datblygiad yn cynnwys, ac yn adeiladu ar, yr hyfforddiant a’r dysgu sydd eu hangen ar gyfer grwpiau A a B.

Nid oes angen gwneud hyfforddiant gloywi yn grŵp A a grŵp B yn ogystal â hyfforddiant grŵp C.

Bydd y grŵp hwn yn defnyddio llawer o wahanol fathau o ddeunyddiau dysgu a datblygu.

Dylai dysgu a datblygu gynnwys cyfleoedd dysgu a hyfforddi aml-asiantaeth lle bo'n briodol.

I fyfyrio ar eu dysgu, eu datblygiad a’u hymarfer, bydd ymarferwyr grŵp C yn defnyddio:

  • wyneb-yn-wyneb
  • dulliau astudiaeth achos cymhleth
  • arfer myfyriol a
  • Cyfnodolion neu logiau DPP.

Dylai ymarferwyr ddefnyddio logiau DPPCPD ffurfiol neu lyfrynnau cymhwysedd i gadw cofnod a dangos tystiolaeth o’u hyfforddiant a’u datblygiad.

Dylai hyfforddiant a datblygiad gynnwys ymarfer myfyriol a chyfleoedd eraill y tu allan i ddulliau hyfforddi arferol. Er enghraifft:

  • mynd i gyfarfodydd strategol
  • dysgu o arfer uniongyrchol.

Mae ymarferwyr Grŵp C yn gyfrifol am eu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain, a all fod yn hunangyfeiriedig.

Gallant ddefnyddio logiau DPP neu lyfrynnau cymhwysedd i brofi bod eu dysgu a’u datblygiad yn bodloni gofynion cyrff rheoleiddio.

Gall ymarferwyr Grŵp C ddefnyddio:

  • goruchwyliaeth
  • cefnogaeth gan gymheiriaid
  • myfyrio
  • setiau dysgu gweithredol
  • cyfarfodydd tîm

i:

  • fyfyrio ar ddysgu
  • gymhwyso dysgu i'w gwaith o ddydd i ddydd
  • rannu syniadau ac arfer da ar ôl gweithgaredd dysgu
  • helpu i ganfod pa gefnogaeth neu ddatblygiad pellach sydd ei angen.

Pethau i'w hystyried

Dylai gwahanol ddulliau hyfforddi, dysgu a datblygu fod ar gael, i gefnogi gwahanol arddulliau dysgu.

Rydym yn argymell yn gryf ffordd gymysg o ddysgu. Gallai hyn gynnwys:

  • hyfforddiant ar-lein sylfaenol
  • ystafell ddosbarth rithwir
  • addysgu a dysgu wyneb yn wyneb
  • dysgu hunangyfeiriedig a myfyrio.

Bydd dysgu a datblygu yn cynnwys:

  • gweithdai wedi'u harwain gan senarios
  • cynadleddau aml-asiantaeth gyda chwestiynau ac atebion,
  • chwarae rôl i efelychu adolygiadau neu gyfarfodydd diogelu.

Dylai'r dysgu, lle bo hynny'n bosibl neu'n berthnasol, gael ei wneud gydag ymagwedd aml-asiantaeth.

Mae angen gwneud dysgu arbenigol ac asiantaeth sengl yn ogystal â dysgu cyffredinol ac aml-asiantaeth.

Faint o hyfforddiant, dysgu a datblygu?

Mae’n rhaid i’r rheolwr a’r ymarferydd gytuno ar ofyniad sylfaenol cyn-hyfforddi sydd ei angen ar yr ymarferydd cyn iddo ddechrau rôl newydd.

Rhaid i ymarferwyr Grŵp C:

  • wneud lleiafswm o wyth awr o hyfforddiant o fewn cyfnod prawf rôl newydd, ynghyd â hyfforddiant ar bynciau diogelu sy’n benodol i’r rôl, gan gynnwys:
    • amser dosbarth rhithwir
    • darllen cyn y cwrs
    • camau dilynol gyda rheolwr neu oruchwyliwr
    • atgyfnerthu ar ôl y cwrs, lle mae dysgwyr yn rhoi'r dysgu ar waith.
  • cael hyfforddiant gloywi ar yr hyfforddiant generig (o leiaf wyth awr bob tair blynedd)
  • gwneud o leiaf 18 awr (chwe awr y flwyddyn) o hyfforddiant ychwanegol, gan gynnwys hyfforddiant manwl ar bynciau diogelu penodol neu brosesau mewnol
  • gwneud hyfforddiant ychwanegol sy'n berthnasol i rolau a dyletswyddau penodol, a ddylai:
    • adlewyrchu unrhyw newidiadau i arferion a chymhwysiad
    • gynnwys hyfforddiant y mae angen ei wneud yn gynt na thair blynedd (er enghraifft: dulliau diagnostig newydd mewn meysydd gofal iechyd).