CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ar gyfer pwy mae'r fframwaith hwn

Mae'r dudalen hon esbonio pwy ddylai defnyddio'r fframwaith.

Mae'r fframwaith hwn ar gyfer:

  • Byrddau Diogelu Rhanbarthol
  • ymarferwyr diogelu sydd â chyfrifoldebau polisi
  • pobl sy'n comisiynu hyfforddiant diogelu, gan gynnwys:
    • timau datblygu'r gweithlu neu bobl
    • adrannau hyfforddi.
  • pobl sy'n cynnal hyfforddiant diogelu gan gynnwys ymarferwyr a hyfforddwyr proffesiynol
  • cyrff rheoleiddio, megis Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn
  • Swyddogion Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldebau diogelu
  • pobl sy'n comisiynu gwasanaethau gofal a chymorth
  • Unigolion Cyfrifol
  • rheolwyr gwasanaethau gofal a chymorth
  • ymarferwyr diogelu arbenigol.

Bwriedir i’r fframwaith gael ei ddefnyddio a chyfeirio ato ym mhob sefydliad statudol (gan gynnwys iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, yr heddlu a’r gwasanaeth prawf) a’r sector gwirfoddol ac annibynnol.