CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Trosolwg

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym ar 6 Ebrill 2016.

Mae’r Ddeddf yn rhoi’r fframwaith cyfreithiol i wella llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr sydd angen cymorth arnynt, ac am drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Darllenwch y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Gallwch hefyd darllen cynnwys y Ddeddf drwy ddefnyddio fersiwn hawdd i’w ddarllen a chrynodeb i bobl ifanc.

Mae'r ddogfen gwybodaeth hanfodol yn rhoi trosolwg o'r Ddeddf a'i fframwaith cyfreithiol ehangach.

Mae gwybodaeth ar gael am y rheoliadau a chodau ymarfer ac arweiniad statudol sydd yn cefnogi'r Ddeddf.

Darllenwch y diweddariad a gyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2016 gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar weithredu'r Ddeddf.

Cefndir

Amlygodd y Papur Gwyn, Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, a gyhoeddwyd yn 2011, nifer o heriau sy’n wynebu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau demograffig, disgwyliadau uwch gan bobl sy’n derbyn gofal a chymorth yn ogystal â realiti’r wasgfa economaidd.

Mae’r Ddeddf yn bwriadu dod i’r afael â’r materion uchod. Wrth wneud hynny, bydd yn rhoi mwy o ryddid i bobl i benderfynu ar wasanaethau tra’n hyrwyddo gwasanaethau cyson, o safon uchel ledled y wlad.

Bydd hi’n drawsnewid y ffordd mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu, gan hyrwyddo annibyniaeth pobl i roi llais cryf a rheolaeth iddynt.

Darganfyddwch ddolennau i'r holl ddeddfwriaeth sylfaenol allweddol sy'n ymwneud a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar y wefan Cyfraith Cymru.

Egwyddorion

Egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw:

Llais a rheolaeth – rhoi unigolyn a’u hanghenion wrth wraidd eu gofal, a rhoi llais a rheolaeth iddyn nhw er mwyn cyrraedd y canlyniadau sy’n creu llesiant.

Atal ac ymyrryd yn gynnar – cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn cymunedau er mwyn lleihau’r dirywiad i anghenion brys

Llesiant – cynorthwyo pobl i greu eu llesiant eu hunain a mesuro llwyddiant gofal a chymorth.

Cydgynhyrchu – annog unigolion i gymryd mwy o ran mewn cynllunio a throsglwyddiad gwasanaethau.

Troi’r Bil yn Ddeddf

Dilynwch hynt y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), o’i chyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol 28 Ionawr 2013 i bryd daeth hi’n Ddeddf ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol 1 Mai 2014. Yma, cewch weld y Memorandwm Eglurhad, sy’n rhoi esboniad bras o’r ddeddfwriaeth, gan gynnwys y rhannau gwahanol i gyd.

Plant a phobl ifanc

Ar 30 Mehefin 2015, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford datganiad ysgrifenedig sy'n trafod sut bydd y Ddeddf yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc.

Yn y fideo hwn, a ffilmiwyd yn y Gynhadledd Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol yng Nghaerdydd yn Ionawr 2016, mae Ruth Henke QC yn rhoi cyflwyniad ar gyfrifoldebau awdurdodau lleol o dan y Ddeddf dros blant sy'n cael eu lletya (Saesneg yn unig)

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yma, gan gynnwys dolenni i ffilm animeiddiedig fer sy'n esbonio effaith gadarnhaol y Ddeddf, fersiwn hawdd ei ddeall a fersiwn ar gyfer pobl ifanc, a dogfen yr hanfodion.

Y Ddeddf a'r GIG

Darllenwch Gylchlythyr Iechyd Cymru Llywodraeth Cymru o fis Mai 2016 sy'n edrych ar oblygiadau'r Ddeddf i Fyrddau Iechyd Prifysgol ac Ymddiriedolaethau'r GIG.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru nodyn cyngor ym mis Gorffennaf 2017 yn edrych ar oblygiadau Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar weithio mewn partneriaeth o fewn y Byrddau Iechyd Prifysgol ac Ymddiriedolaethau GIG.