CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ymrwymiad 4: blaenoriaethu diwylliant o ddatblygu a dysgu’n barhaus

Cyngor ac adnoddau er mwyn blaenoriaethu diwylliant o ddatblygu a dysgu’n barhaus.

Fe all teimlo’n fodlon yn ein gwaith wella ein llesiant. Rydym yn sylweddoli bod gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn swydd sgilgar ac mae ar ein gweithlu angen cael ei gefnogi er mwyn dysgu a thyfu a theimlo’n hyderus ac yn gymwys yn y gwaith a wnânt.

Mae pobl yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd. Fe allwn greu amgylcheddau dysgu cadarnhaol lle caiff staff eu meithrin, cael ymdeimlad o bwrpas a pherthyn.

Fel gweithlu cofrestredig, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi staff i gael eu hyfforddi a chael cynnig cyfleoedd i barhau â’u datblygiad proffesiynol.

Mae hyn yn cysylltu â’r

Mewn sefydliad, mae hyn yn golygu:

  • gweithle sy’n ysbrydoli, lle’r ydym yn dathlu’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn dda
  • diwylliant o gynllunio ar gyfer datblygu a dysgu’n barhaus
  • creu amgylchedd dysgu cadarnhaol, lle gall staff ddysgu oddi wrth ei gilydd
  • hyfforddi staff yn ddigonol ac yn briodol i wneud eu gwaith o’r dechrau
  • cefnogi staff a rheolwyr pan maent yn newid rolau, gan gynnwys symud i rolau rheoli
  • mynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu priodol
  • bod pobl sydd eisiau symud ymlaen yn cael eu cefnogi a’u hyfforddi i wneud hynny.

Fel rheolwr rwyf:

  • yn ysbrydoli pobl eraill i ddysgu drwy ddysgu fy hun
  • yn annog pobl i ddysgu a datblygu drwy neilltuo amser iddynt wneud hynny
  • yn gofyn am amser ar gyfer fy nysgu a’m datblygiad fy hun.

Fel unigolyn rwyf:

  • yn cymryd y cyfleoedd i ddysgu pan allaf i
  • yn rhannu’r hyn rwyf wedi’i ddysgu gydag eraill yn fy nhîm neu fy sefydliad
  • yn gwybod beth mae gofyn imi ei wneud i ddal i fod yn gymwys a gwybodus.

Ble allaf fi weld esiamplau?

Ar gyfer sefydliadau
  • Y pum ffordd o weithio – DEEP Cymru
    Yn eich helpu chi i greu gwell amgylcheddau dysgu
  • Mae fframwaith SENSES (Saesneg yn unig) yn helpu i feithrin amgylcheddau dysgu cadarnhaol
Ar gyfer rheolwyr
Ar gyfer gweithwyr
Ar gyfer pawb