CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Pam defnyddio’r fframwaith hwn

Esbonio pam y dylech ddefnyddio'r fframwaith hwn.

Un o nodau allweddol y strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol yw cael gweithlu ymroddedig, iach a llawn cymhelliant.

Dengys gwaith ymchwil bod cael yr amgylchedd gweithio iawn yn dda i iechyd a llesiant staff. Mae staff sy’n teimlo’n gadarnhaol am eu gwaith a’u sefydliad yn darparu gwell gwasanaethau. I’r sector, mae hyn yn golygu diwylliant o drugaredd, gofal diogel ac o ansawdd uchel i bobl sydd angen cefnogaeth.

Mae staff sy’n cael cefnogaeth gyda’u llesiant hefyd yn fwy tebygol o aros gyda sefydliad.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae deddfwriaeth, polisïau a strategaethau wedi canolbwyntio mwy ar les. Rydyn ni’n deall bod gwell sgyrsiau gyda’r sector am les y gweithlu yn bwysig, a’u bod yn ein helpu i ddeall yr heriau a’r problemau.

Y neges glir a chadarn gan y sector yw bod ar y gweithlu angen teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi’n well, gyda’r materion canlynol yn ffactorau cyfrannog:

  • gwahaniaethau mewn telerau ac amodau – yn enwedig mewn swyddi â chyflogau isel
  • llwyth gwaith sydd allan o gyrraedd gweithwyr oherwydd problemau recriwtio a chadw staff
  • diffyg hyfforddiant neu weledigaeth ar gyfer atebion digidol yn y sector.

Rydym yn cydnabod bod angen atebion tymor hwy i roi sylw i’r materion hyn. Ni all y fframwaith hwn ddelio â’r materion hyn, ond mae yn cynnig syniadau i ddelio â’r pwysau hyn.

O wneud ymchwil pellach, gwelwyd dwy brif thema ar gyfer y fframwaith hwn:

  • creu amgylcheddau gweithio sy’n gefnogol i iechyd a llesiant
  • cefnogi’r gweithlu er mwyn cynnal a gwella eu hiechyd a’u llesiant.

Bydd y fframwaith hwn yn eich helpu i wneud newidiadau cadarnhaol yn eich sefydliad lle gallwch chi. Dylech ei ddefnyddio i wella iechyd a llesiant y gweithlu, gyda phwyslais ar ddiwylliant, cynhwysiant ac arweinyddiaeth dosturiol.

E-bostiwch lles@gofalcymdeithasol.cymru i gael rhagor o wybodaeth am sut gafodd model y fframwaith ei ddatblygu ac i weld disgrifiad o bob cam.