CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ar gyfer pwy y mae’r fframwaith hwn

Esbonio ar gyfer pwy y mae’r fframwaith hwn.

Bwriedir y fframwaith hwn ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant a’i weithlu.

Pan gyfeiriwn at y sector, yr hyn rydyn ni’n ei olygu yw awdurdodau lleol, lleoliadau a sefydliadau annibynnol neu breifat a thrydydd sector sy’n darparu gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar neu ofal plant.

Pan gyfeiriwn at weithlu, yr hyn rydyn ni’n ei olygu yw pobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Mae’r gweithlu hwn yn cynnwys amrywiaeth mawr o rolau gyda gwahanol lefelau o gyfrifoldeb. Mae’r gweithlu yn cynnwys pobl sy’n hunangyflogedig, fel gwarchodwyr plant a chynorthwywyr personol. Fe allai rhai bod yn wirfoddolwyr, a rhai yn gyflogedig.

Ceir tri chategori yn y fframwaith hwn, gyda chamau gweithredu penodol ar gyfer:

  • sefydliadau (y cyflogwyr)
  • rheolwyr (rheolwyr sydd â chyfrifoldeb dros staff)
  • aelodau staff unigol (yn y gweithlu).