CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ymrwymiad 2: triniaeth deg, urddas a pharch i bawb

Cyngor ac adnoddau er mwyn triniaeth deg, urddas a pharch i bawb.

Mae gweithle cadarnhaol yn holl bwysig i’n llesiant. Dylai cyflogwyr greu diwylliant cadarnhaol gyda thriniaeth deg, urddas a pharch i’r bobl maent yn eu cyflogi a’r bobl a gefnogant.

Rhaid i bob gweithiwr, heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil neu gred, rhyw, a thueddfryd rhywiol gael eu trin ag urddas, parch a thegwch a rhaid iddynt beidio â dioddef aflonyddu, gwahaniaethu, camdriniaeth, na thriniaeth ddiraddiol annynol.

Mae hyn yn cysylltu â’r

Mewn sefydliad, mae hyn yn golygu:

  • bod staff yn deall gwerthoedd y sefydliad
  • trin staff ag urddas a pharch
  • trin staff yn gyfartal
  • gweithio gyda staff i adolygu a gwella’r ffordd rydyn ni’n gweithio
  • mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso
  • mae staff yn teimlo eu bod yn uchel eu parch
  • ei fod yn lle diogel i godi pryderon.

I wneud hyn, fe all sefydliadau:

  • sicrhau bod eu gwerthoedd yn gwbl glir ac yn cael eu mynegi wrth eich gweithlu
  • lle bo’n bosibl, creu strategaeth ar gyfer y sefydliad sydd wedi’i sefydlu ar y gwerthoedd hyn
  • dangos eich ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth, hawliau a pharch, drwy bolisïau neu ffyrdd o weithio
  • cydnabod a helpu staff sydd â chyflyrau corfforol neu feddyliol hirdymor i wneud eu gwaith
  • darparu goruchwyliaeth ystyrlon, sy’n seiliedig ar gryfderau staff fel eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn myfyrio ac yn tyfu
  • herio ymddygiadau yn eich gweithlu nad ydynt yn adlewyrchu eich gwerthoedd craidd a chefnogi eich staff i wneud yr un peth.

Fel rheolwr rwyf:

  • yn arwain drwy esiampl drwy weithio yn y ffordd yr hoffwn i eraill weithio a drwy drin pobl eraill fel yr hoffwn i gael fy nhrin
  • herio fy arweinwyr neu fy rheolwyr os nad wyf yn cael fy nhrin yn unol â gwerthoedd y sefydliad
  • sicrhau fy mod yn cael sesiynau goruchwylio rheolaidd imi fy hun a fy mod yn cynnal sesiynau goruchwylio rheolaidd i’m staff.
  • gofyn am yr un oruchwyliaeth gan fy rheolwr os nad yw hyn wedi’i drefnu ar fy nghyfer i
  • cefnogi staff wrth herio ymarfer neu ymddygiadau gwael.

Fel unigolyn rwyf:

  • yn gweithio mewn ffordd sy’n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad
  • yn trin fy nghydweithwyr a’r bobl a gefnogwn ag urddas a pharch
  • yn deall ein cyfrifoldebau a’r hyn mae hynny’n ei olygu i ni a’r bobl a gefnogwn
  • yn ymwybodol o’r codau ymarfer ac yn gweithio’n unol â nhw
  • yn cael fy ngrymuso i herio ymarfer gwael, bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.

Ble allaf fi weld esiamplau?

Ar gyfer sefydliadau
Ar gyfer rheolwyr
Ar gyfer pawb