CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ymrwymiad 1: creu amgylcheddau gweithio diogel sy’n gwella’n barhaus ac sy’n gefnogol i iechyd a llesiant

Cyngor ac adnoddau er mwyn creu amgylcheddau gweithio diogel sy’n gwella’n barhaus ac sy’n gefnogol i iechyd a llesiant.

Mae’n bwysig cymryd agwedd eang i gefnogi iechyd a diogelwch corfforol, iechyd meddwl, a llesiant ariannol pobl.

Dylai sefydliadau ddarparu amgylcheddau gweithio diogel i weithwyr.

Dylai sefydliadau gynnig cymorth, neu gyfeirio at wasanaethau a all ddarparu cymorth. Gallai hyn gynnwys cwnsela, rhaglen cymorth i weithwyr neu wasanaethau iechyd galwedigaethol. Dylai sefydliadau annog staff i gael arfer hunanofal da sy'n cynnwys agwedd iach at ddiet, gweithgaredd corfforol, ymlacio a chysgu. Dylai fod gan staff fynediad da at wasanaethau a all helpu gyda chyngor ariannol.

Mae’n bwysig bod rheolwyr yn benodol yn cael yr arweiniad parhaus sydd ei angen i gefnogi eu timau, fel y gallant gael sgyrsiau sensitif ag unigolion a chyfeirio at gymorth arbenigol lle bo angen. Bydd unrhyw unigolyn sy'n rhannu gwybodaeth am gyflwr iechyd yn cael ei drin yn deg a chyda thrugaredd, a gyda chyfleoedd gyrfa gyfartal.

Mae hyn yn cysylltu â’r

Mewn sefydliad, mae hyn yn golygu:

  • diwylliant o lesiant
  • deall bod yr hyn sy’n digwydd inni yn ein bywydau yn effeithio arnom yn ein gwaith
  • adnabod yr arwyddion bod rhywun wedi ymlâdd a dan straen oherwydd gwaith
  • cydnabod staff sydd â chyflyrau hirdymor a’u helpu i wneud eu gwaith
  • hybu llesiant, ar gyfer staff a’r bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw, drwy bolisïau, gweithdrefnau a ffyrdd o weithio
  • mynediad i iechyd galwedigaethol
  • darparu’r offer iawn ar gyfer y gwaith
  • cyfeirio ymlaen neu ddarparu cefnogaeth emosiynol, gan gynnwys cefnogaeth gan gymheiriaid
  • prosesau iechyd a diogelwch clir, i staff a’r bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw, gan gynnwys asesiadau risg
  • bod llwythi gwaith yn rhesymol ac yn gyraeddadwy ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.

I wneud hyn, fe all sefydliadau:

  • sefydlu polisïau pobl a pholisïau iechyd a diogelwch sy’n amlwg i’ch gweithlu, a’u hadolygu yn rheolaidd
  • adlewyrchu llesiant mewn ffyrdd o weithio a pholisïau sefydliadol
  • cyfeirio staff ymlaen at gefnogaeth ar gyfer problemau sy’n effeithio ar eu llesiant, megis llesiant ariannol
  • cynnig addasiadau ac asesiadau iechyd galwedigaethol priodol, i atal iechyd corfforol gwael
  • cynnig addasiadau i gefnogi gweithwyr sydd â chyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol hirdymor i wneud eu gwaith
  • creu llefydd ar gyfer llesiant a chefnogaeth gan gydweithwyr
  • canfod ffyrdd o asesu a yw rhywun dan straen ac wedi ymlâdd
  • sefydlu asesiadau risg a threfniadau rheoli risg clir sy’n amlwg i’ch gweithlu eu gweld
  • darparu i staff yr offer mae arnynt eu hangen i wneud y gwaith
  • cefnogi cynlluniau gweithlu sy’n golygu llwyth gwaith rhesymol i staff.

Fel rheolwr rwyf:

  • yn ymgysylltu â chefnogaeth i ofalu amdanaf fy hun a fy staff
  • yn cydnabod beth mae ar fy staff ei angen i wella eu llesiant ac yn cynnig cefnogaeth
  • yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael ac yn ei rhannu â’m staff
  • yn codi problemau cyffredin gyda’r uwch arweinyddiaeth

Fel unigolyn rwyf:

  • yn cefnogi fy nghydweithwyr ac maen nhw yn fy nghefnogi i
  • yn ymgysylltu â’r gefnogaeth mae fy sefydliad yn ei chynnig
  • yn darllen ac yn deall polisïau iechyd, diogelwch a risg fy sefydliad.

Ble allaf fi weld esiamplau?

Ar gyfer sefydliadau:
Ar gyfer rheolwyr
Ar gyfer pawb
  • Cymorth iechyd meddwl yn y gweithle – able futures
    Gwybodaeth ac adnoddau am ddim ar iechyd meddwl.
  • Cyngor ar iechyd meddwl – Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Adnoddau ac arweiniad i gefnogi iechyd meddwl yn y gweithle.
  • Adnoddau am y gweithle (Saesneg yn unig) – Skills for care
    Gweminarau ar debyg i beth yw llesiant da yn y gweithle, gan gynnwys awgrymiadau a syniadau ar roi cefnogaeth.
  • Adnoddau iechyd a llesiant – Gofal Cymdeithasol Cymru
    Adnoddau sydd ar gael i gefnogi llesiant.
  • Canopi – GIG Cymru
    Cymorth cyfrinachol ac am ddim ar iechyd meddwl i staff y GIG a staff gofal cymdeithasol ar draws Cymru.
  • Money helper (Saesneg yn unig)
    Cyngor a chymorth am ddim gydag arian.
  • Cymru Iach ar Waith – Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Gwybodaeth am faterion iechyd yn y gweithle.