CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cyflwyniad

Gwybodaeth am y fframwaith.

Nod y fframwaith hwn yw helpu sefydliadau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant i greu gweithle sy’n cefnogi llesiant y bobl sy’n gweithio iddyn nhw. Mae gweithle cadarnhaol yn arwain at ofal cadarnhaol.

Fe all gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gofal plant a’r blynyddoedd cynnar fod yn wobrwyol dros ben. Fel gweithlu, fe allwn newid bywydau er gwell.

Gallwn fod yno ar ddechrau bywyd i’r diwedd, gan helpu pobl i fyw’r bywyd gorau gallan nhw. Fe allwn wneud gwahaniaeth aruthrol i’r bobl a gefnogwn. Fel gyrfa, fe all yr ymdeimlad hwnnw o bwrpas a chyflawniad mewn rôl sy’n cael ei gwerthfawrogi wir wella ein llesiant.

Mae yna eisoes lawer yn y sector sy’n dda i iechyd a llesiant. Nod y fframwaith hwn yw adeiladu ar yr hyn rydych chi eisoes yn ei wneud a chreu diwylliant o les.

Rydyn ni’n gofyn i weithleoedd wneud pedwar ymrwymiad:

  1. creu amgylcheddau gweithio diogel sy’n gwella’n barhaus ac sy’n gefnogol i iechyd a llesiant
  2. triniaeth deg, urddas a pharch i bawb
  3. sefydlu diwylliannau gweithlu lle mae pawb yn cael eu cynnwys ac yn wybodus
  4. blaenoriaethu diwylliant o ddatblygu a dysgu’n barhaus.

Rydyn ni wedi datblygu’r fframwaith a’r ymrwymiadau drwy ymgysylltiad ac adborth. Byddwn yn dal i ddatblygu’r fframwaith hwn, gan ddefnyddio data ac ymchwil a gyhoeddir a drwy weithio gyda chi.

Cewch gysylltu â ni ar lles@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech fod yn rhan o’r siwrnai.