Nod yr adnoddau hyn yw rhoi trosolwg i chi o agweddau allweddol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas ag eiriolaeth, ac yn benodol, Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol. Datblygwyd gan Age Cymru, mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru, Prifysgol Abertawe a cyn-Brif Weithredwr Action for Advocacy Martin Coyle. Mae'r adnoddau hyn yn edrych ar Ran 10 y Ddeddf ar eiriolaeth a sut mae eiriolaeth yn cyfrannu at rannau eraill o’r Ddeddf. Maent hefyd yn ceisio meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyda’r sawl a allai weithio gyda gwasanaethau eiriolaeth neu atgyfeirio unigolion atynt.
Eiriolaeth broffesiynol annibynnol
-
Ymarfer – llesiant ac eiriolaethDOCX 1MB
Dull cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant eriolaeth statudol
Mae TGP Cymru wedi datblygu'r hyfforddiant isod, sy'n medru cael ei ddefnyddio gan weithwyr proffesiynol mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol.