CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Geirfa

Esbonio termau sydd yn y fframwaith.

Allbwn

Rhywbeth sy’n cael ei gynhyrchu drwy’r hyn sydd wedi digwydd

Amcan

Yr hyn rydych eisiau ei gyflawni.

Asedau

Peth neu berson defnyddiol neu werthfawr. Gall asedau cymunedol gynnwys:

  • adeiladau a chyfleusterau
  • pobl, gyda’u sgiliau, eu gwybodaeth, eu rhwydweithiau cymdeithasol a pherthnasoedd.

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Dod â byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector ynghyd i fodloni anghenion gofal a chymorth pobl yn yr ardal.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Gwneud hi’n haws i bob gwasanaeth cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru i gydweithio

Caffael

Prynu nwyddau neu wasanaethau gan ddefnyddio meini prawf.

Clystyrau gofal sylfaenol

Dwyn ynghyd yr holl wasanaethau iechyd a gofal ledled ardal fach.

Comisiynu

Deall beth sydd ei angen, beth sydd ar gael neu ar goll, a datblygu gwasanaethau newydd neu bresennol i gau unrhyw fylchau.

Cyd-ddylunio

Dylunio prosiect gyda defnyddwyr a rhanddeiliaid ar bob cam datblygu. Mae’n golygu gweithio gyda phawb sydd â diddordeb.

Cyngor Gwirfoddol Sirol (CGS)

Sefydliad sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth i grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar wirfoddoli, ffynonellau arian ac ystod eang o faterion.

Cynllunio Strategol

Cynllunio a phenderfynu ar lefel uchel. Mae Cynghorau Sir, byrddau iechyd a’r llywodraeth oll yn cynllunio’n strategol

Datblygu Cymunedol ar sail Asedau (ABCD)

Defnyddio’r asedau sydd ar gael mewn cymunedau a dwyn unigolion, cymdeithasau a sefydliadau ynghyd i greu cymuned gryfach.

Dyfeisgarwch

Sut gall pobl ddefnyddio gwybodaeth, sgiliau a pherthnasoedd i helpu ei gilydd mewn ffyrdd cadarnhaol ac ymarferol.

Economi Sylfaenol

Gwasanaethau a chynnyrch hanfodol sy’n cadw ni’n ddiogel ac yn ategu ein lles bob dydd.

Fframwaith

Strwythur i ddangos ffordd o weithio a all helpu i gyflawni pethau.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Gweithio gyda phobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a sefydliadau i arwain gwelliant ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gwasanaethau statudol

Gwasanaethau y mae’r llywodraeth yn talu amdanynt yn gyfreithiol. Er enghraifft y GIG, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Gwydnwch

Sut mae rhywbeth neu rhywun yn dal ati pan fydd pethau’n mynd o chwith

Methodoleg

Sut gall darn penodol o ymchwil gael ei gyflawni

Polisi

Syniadau neu gynlluniau a ddefnyddir ar gyfer gwneud penderfyniadau

Rhanddeiliad

Unigolyn, grŵp, sefydliad neu ardal leol sydd â diddordeb mewn pwnc ac a all un ai gael eu heffeithio neu gael effaith ar y pwnc.

Trydydd Sector

Elusennau, sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol, cymdeithasau tai. Fel arfer yn sefydliadau anllywodraethol

Ymchwil Gweithredu

Proses gylchol o weithredu, myfyrio a newid

Ymchwilio’n fanwl

Archwiliad trylwyr a dadansoddiad o bwnc, archwilio beth a sut mae pethau’n gweithio

Ymyrraeth

Camau gweithredu sy’n mynd i’r afael â phroblemau neu fylchau, sy’n digwydd yn y gymuned.

Ymyrraeth amlsector

Diddordeb gweithredol gan sefydliadau lleol, canol, cymorth a strategol.