CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ar beth ddylid canolbwyntio

Y pethau dylech chi ystyried wrth weithio gyda chymunedau.

Risg

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Defnyddio dull cytbwys o ran risgiau, hawliau a chyfrifoldebau. Dylech feddwl am y risgiau a’r effeithiau o beidio â gweithredu, yn ogystal â’r risgiau o fynd ati.
  • Gwaredu’r ofn o gael eich beio os bydd pethau’n mynd o chwith.
  • Annog diwylliant agored sy’n cydnabod ac yn dysgu o gamgymeriadau
  • Defnyddio cofrestrau risg sy’n cofnodi’r cyfleoedd yn deillio o’r risg.
  • Siarad ag eraill o fentrau tebyg am eu taith nhw, a beth maen nhw wedi’i ddysgu o’r llwyddiannau a’r camgymeriadau.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

  • Agwedd gadarnhaol at risg – Gofal Cymdeithasol Cymru
    Mae’n nodi’r hyn a ddisgwylir gan ymarferwyr o ran cydbwyso hawliau, cyfrifoldebau a risgiau tybiedig.
  • Risgiau cadarnhaol a gwneud penderfyniadau ar y cyd – Gofal Cymdeithasol Cymru
    Mae’n egluro’r heriau a’r cyfleoedd i gymryd risgiau cadarnhaol a gwneud penderfyniadau ar y cyd, gan gynnwys enghreifftiau o arferion da.

Meddwl yn strategol

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus, megis:
    • byrddau gwasanaethau cyhoeddus
    • byrddau partneriaeth rhanbarthol
    • awdurdodau lleol
    • byrddau iechyd.
  • Cynllunio a chomisiynu ar gyfer gwerth cymdeithasol gan ddefnyddio’r Fframwaith Themâu, Deilliannau a Mesurau Cenedlaethol (TOMS) a’r Pecynnau Cymorth Gallu Gwneud
  • Gwneud hi’n haws defnyddio adnoddau mewn ffordd hyblyg
  • Buddsoddi i fusnesau lleol a chymdeithasol
  • Datblygu gweledigaeth a rennir ar sail lleoedd
  • Cytuno sut y gall gwasanaethau statudol, trydydd sector a’r sector preifat chwarae rhan er mwyn cyflawni
  • Dewis prosiect peilot i brofi’r dulliau newydd cyn cyfleu a rhannu’r hyn a ddysgwyd.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Arweinyddiaeth

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Nodi’r arweinwyr ‘naturiol’ a ‘penodedig’ yn y gymuned
  • Ystyried cymorth cyfoedion fel ffordd o gyflwyno mentora
  • Gosod targedau clir a rennir, a’r camau y byddwch chi’n eu rhoi ar waith i’w cyflawni
  • Newid y ffordd rydych chi’n gweithredu pan fo pethau’n anodd fel bod modd i chi fodloni eich targedau, a gweithio gyda phawb i lwyddo.
  • Dylunio neu ddod o hyd i’r help sydd ei angen arnoch i’ch helpu i fodloni eich targedau
  • Edrychwch ar y rheolau:
    • Ai nhw yw’r rheolau cywir?
    • Sut maen nhw’n cael eu dehongli a’u cymhwyso?
    • Ydyn nhw’n cael eu gweithredu yn ysbryd y fframwaith polisi, yn enwedig Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014?
  • Cefnogi sefydliadau cymunedol ym mhob ffurf os ydyn nhw’n cyflawni rôl arweinyddiaeth drwy alluogi mynediad i uwch-benderfynwyr a chynnig helpu
  • Rhannu eich siwrne gydag eraill fel bod modd iddynt elwa ar yr hyn a ddysgoch chi ar hyd y daith.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Polisi

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Meddyliwch sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu cymhwyso yn eich cymuned: a yw hynny yn ysbryd y deddfau?
  • Adolygu’n rheolaidd os yw eich gweithrediadau’n dilyn eich gweledigaeth
  • Ystyried sut mae modd ail-siapio comisiynu, caffael a chyllid i ddarparu mwy o sefydlogrwydd hirdymor i ddarparwyr gwasanaeth
  • Cyflwyno prosesau bidio cydweithredol i annog gweithio mewn partneriaeth a lleihau’r cystadlu ar gyfer cyllid
  • Gweithio gyda darparwyr gwasanaeth cyn tendro ar gyfer gwasanaethau i alinio’r weledigaeth a thargedau
  • Rhoi systemau ar waith i gasglu trafodaethau a thystiolaeth sy’n deillio o drafodaethau ar sail lleoedd, er enghraifft, systemau ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Symleiddio prosesau monitro a gwerthuso fel nad yw’n gohirio’r gwaith
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Gwleidyddiaeth

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Troi perthnasoedd anffurfiol yn gysylltiadau strategol ffurfiol
  • Sefydlu cyd-berthnasoedd rhwng yr awdurdod lleol a chynghorwyr cynghorau tref a chymuned. Dylai’r rhain fod yn seiliedig ar arweinyddiaeth bositif, ymddiriedaeth, agweddau a sgiliau.
  • Gwaredu’r rhwystrau hanesyddol i gydweithio
  • Defnyddio gwybodaeth a sgiliau aelodau etholedig a swyddogion wrth gynllunio ar sail lleoedd
  • Datblygu arweinyddiaeth dosturiol ar sail perthnasoedd
  • Sefydlu timau cymunedol ar sail lleoedd
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Comisiynu

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Sicrhau bod gennych arweinyddiaeth leol dda, ymddiriedaeth a chyfathrebu gyda darparwyr newydd a phresennol drwy gydol y cylch comisiynu. Bydd hyn yn helpu i alluogi comisiynu gwirioneddol hyblyg
  • Dylid defnyddio dulliau ansoddol (megis straeon personol, sydd wedi cael eu cyd-gynhyrchu) er mwyn mesur deilliannau neu werth am arian. Bydd hyn yn eich helpu i fesur pa mor effeithiol oedd y buddsoddiad i ddyfeisgarwch cymunedol.
  • Dysgu gwersi gan ardaloedd gwledig, ac ardaloedd anodd i’w cyrraedd, lle mae wedi bod angen rhagor o ddatrys problemau.
  • Dylai llunwyr polisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol barhau i ganolbwyntio ar ateb ‘beth ddylai polisi da wneud?’ er mwyn darparu’r canllawiau gorau i helpu twf cymunedol ac arloesedd i lwyddo.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Cyd-gynhyrchu

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Gwerthfawrogi pobl ac adeiladu ar eu cryfderau
  • Datblygu rhwydweithiau sy’n gweithredu ledled seilos
  • Canolbwyntio ar beth sy’n bwysig i’r bobl sydd ynghlwm
  • Adeiladu perthnasoedd yn llawn ymddiriedaeth a phŵer a rennir
  • Galluogi pobl i roi newidiadau ar waith.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Cydweithio

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Gosod egwyddorion a gwerthoedd o’r dechrau. Mae hyn yn bwysicach na phennu eich deilliannau. Os yw’r ymddygiad cydweithredol cywir ar waith, bydd y deilliannau’n disgyn i le
  • Buddsoddi amser ac adnoddau i adeiladu perthnasoedd
  • Datblygu dull a rennir er mwyn mesur effaith ystyrlon
  • Pennu a all sefydliadau trydydd sector rannu staff, megis staff swyddfa gefn a staff codi arian.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Adnoddau

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Datblygu’r strwythurau cywir, gan gynnwys prosesau ariannu, i sicrhau y gall sefydliadau cymunedol a gwirfoddol barhau i weithio yn y dyfodol
  • Rhoi cyngor, cymorth ac anogaeth i sefydliadau i geisio ystod eang o gyllid fel y gallant barhau i fod yn hyblyg ac yn gryf.
  • Mae cyllid yn gysylltiedig â’r gwahaniaeth y gall sefydliad ei wneud. Rhoi rhagor o bwyslais ar werth cymdeithasol buddsoddi
  • Dod o hyd i ffyrdd i sefydliadau ddatblygu cynigion a thendrau gyda’i gilydd - er enghraifft, gall sefydliadau edrych sut y gallant rannu staff codi arian
  • Symleiddio prosesau ymgeisio ac adrodd er mwyn lleihau’r baich ar sefydliadau i dderbyn cyllid craidd hirdymor. Mae’r alwad gyson ar gyfer arloesedd mewn ceisiadau grant yn gallu bod yn flinedig iawn, a niweidio cyllid.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Ymddiriedaeth

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Gosod egwyddorion a gwerthoedd o’r dechrau. Mae hyn yn bwysicach na phennu eich deilliannau. Os yw’r ymddygiad cydweithredol cywir ar waith, bydd y deilliannau’n disgyn i le
  • Buddsoddi amser ac adnoddau i adeiladu perthnasoedd
  • Datblygu dull a rennir er mwyn mesur effaith ystyrlon
  • Pennu a all sefydliadau trydydd sector rannu staff, megis staff swyddfa gefn a staff codi arian.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Tai

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Buddsoddi i adfywio sy’n blaenoriaethu lleoedd a phobl gyda’r anghenion mwyaf
  • Cefnogi buddsoddi i dai a’r seilwaith ehangach, ac mae’n cynnwys datblygu cymunedol
  • Dylunio strategaethau caffael gyda chymunedau i ymgorffori buddion cymunedol ehangach ac adeiladu cyfoeth.
  • Gadael i landlordiaid cymdeithasol fod yn hyblyg fel y gallant gael yr effaith fwyaf yn eu cymunedau lleol drwy:
    • adeiladu capasiti a sgiliau;
    • datblygu prosesau cytundebol a llywodraethol;
    • penderfynu ar y rolau y byddant yn eu cyflawni: e.e. Ydyn nhw’n ariannu, ydyn nhw’n arwain neu ydyn nhw’n mynd i mewn i bartneriaeth gyda sefydliadau eraill?
  • Cofrestru landlordiaid cymdeithasol, a chydweithio i’r un weledigaeth a strategaeth, gyda disgrifiad clir o ran sut fydd hyn yn pennu cynllunio ar sail lleoedd
  • Meddwl am ddatblygu hybiau neu glystyrau cymunedol gyda phartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i helpu i sicrhau bod gweithgareddau yn berthnasol i’r sefyllfa leol ac yn adeiladu capasiti’r sefydliadau partner.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Atal

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Datblygu dealltwriaeth a rennir o beth yw atal, a chefnogi atal
  • Cydnabod gwerth a chyfraniad:
    • Cymdogion anffurfiol sydd wedi camu i mewn i rolau gofalgar a chyfeillgarwch
    • Cymorth cymunedol a grwpiau gweithgareddau
    • Mannau gwyrdd
    • Asedau cymunedol eraill
  • Deall mai’r gymuned sy’n gwybod beth sydd orau iddi hi.
  • Casglu tystiolaeth ac ymchwil dros amser i fesur effaith atal
  • Bod â dull sy’n canolbwyntio ar y gymuned o ran iechyd a lles drwy:
    • Datblygu dull sy’n gweithio ledled y sector
    • Sicrhau bod cymunedau wirioneddol ynghlwm wrth y broses ddylunio a darpariaeth gwasanaethau
    • Mapio a defnyddio asedau lleol
    • Comisiynu mewn ffyrdd sy’n rhoi mynediad i bawb i weithgareddau sy’n cefnogi lles
    • Mesur deilliannau sy’n bwysig i gymunedau
    • Pwysleisio rhagor o weithgareddau atal mwy mewn cynllunio a chomisiynu strategol.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Deall cymunedau

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Treulio ychydig o amser i ddod i adnabod y cymunedau yr hoffech weithio ynddyn nhw a gyda nhw
  • Archwilio’r hanes lleol, y cefndir a’r wleidyddiaeth
  • Dysgu beth sy’n digwydd, a oes grwpiau cymunedol neu sefydliadau cymunedol sy’n cynnal prosiectau?
  • Gofyn wrth sefydliad lleol i roi sesiwn anwytho cymunedol, neu fynd am dro oddeutu’r dref
  • Siarad â phobl leol, gofyn iddyn nhw beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio, beth all gael ei wella
  • Edrych ar beth mae’r data yn ei ddweud am y gymuned
  • Edrych ar beth mae astudiaethau achos neu straeon yn ei gyfathrebu am y gymuned
  • Dysgu am asedau lleol yn y gymuned.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Economi sylfaenol

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Gweithio gyda busnesau lleol sy’n cyfrannu at yr economi sylfaenol. Maen nhw’n bartner pwysig, ac yn:
    • darparu gwasanaethau hanfodol lleol
    • cynnig swyddi
    • gallu darparu arweinyddiaeth ledled y gymuned.
  • Gall cwmnïau budd cymunedol (CICau) a micro-fusnesau gweithio ar lefel leol iawn i ddatblygu a gwella gwydnwch cymunedol. Ni all cwmnïau mawr fod mor hyblyg bob tro.
  • Dylai pob sefydliad fabwysiadu prosesau caffael TOMau (Themâu, Deilliannau, Mesurau) i ddangos gwerth cymdeithasol a chefnogi dyfeisgarwch cymunedol wrth gontractio gwaith.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Gweithredu cymunedol

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

  • Cynllunio i gynyddu nifer y bobl leol sydd ynghlwm wrth weithredu cymunedol a sicrhau eu bod nhw’n cael eu cynnwys wrth gynllunio, dylunio a darparu gwasanaethau lleol
  • Dysgu pa heriau penodol sy’n berthnasol i chi. Meddyliwch pa gamau gweithredu, sgiliau ac adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer bob her, gan gynnwys:
    • Beth sydd ei angen neu beth rydych chi eisiau o weithredu cymunedol?
    • Pa fath o bobl ydych chi angen ymgysylltu â nhw?
    • Ble maen nhw?
    • Faint o bobl sydd eu hangen arnoch?
    • Pryd mae hi’n amser da i ymgysylltu â phobl?
    • Sut ddylech chi fynd at bobl a all gymryd rhan?
    • Pwy sy’n mynd i ddod o hyd i bobl a sicrhau eu bod nhw’n cymryd rhan?
    • Beth sy’n digwydd os byddwch chi’n clywed ie, efallai, neu na?
    • Pa rwystrau allwch chi ddod ar eu traws? Sut byddwch chi’n eu goresgyn?
  • Dod o hyd i rwystrau a’u dileu, er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad i weithgareddau cymunedol
  • Gweithio gyda’r prif randdeiliaid i benderfynu ar weledigaeth a blaenoriaethau.
    • Dylech gytuno sut y byddwch chi’n gwneud hyn, a sicrhau bod partneriaid yn ymwybodol o’u rôl.
  • Egluro beth allai cyfathrebu digidol ei gynnig, a’i gyfyngiadau:
    • dod o hyd i unrhyw nodweddion ar eich platfform digidol nad ydynt yn hygyrch neu’n hawdd i’r gynulleidfa eu defnyddio, a sut byddwch chi’n mynd i’r afael â hyn?
    • a oes fformatau print, radio neu’r teledu o newyddion a gwybodaeth bwysig?
  • Dod o hyd i wirfoddoli yn y gymuned a chreu cyfle iddo ddatblygu
  • Dysgu:
    • sut mae gwirfoddoli wedi bod yn fuddiol i’r ardal?
    • sut rydych chi’n dod o hyd i wirfoddolwyr?
    • oes angen rhagor o adnoddau?
  • Deall amrywiaeth eich cymuned ac adnabod a yw’r adnoddau a’r gwasanaethau yn bodloni anghenion pawb.
  • Er enghraifft: meddyliwch am y Gymraeg, diwylliant, grwpiau oedran a demograffeg eraill. Dod o hyd i ffyrdd i gasglu a dysgu o’r holl waith da sy’n digwydd ar lefel gymunedol.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

  • Datblygu Gweithredu Cymunedol – Blwch Adnoddau Cymunedol
    Yn egluro sut mae llunio cynllun i gynnwys gwahanol randdeiliaid mewn cymunedau.
  • Adeiladu Dyfodol Gwell – CGGC
    Pecyn cymorth i helpu cymunedau, a’r bobl sy’n gweithio gyda nhw, i gynllunio dyfodol gwell.
  • Creu dyfeisgarwch cymunedol – Gofal Cymdeithasol Cymru
    Rhoi tystiolaeth ar gyfer cynllunio a datblygu mentrau cadernid cymunedol.

Gofal sylfaenol

Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?

Dylai clystyrau gofal sylfaenol:

  • barhau i adeiladu ar a datblygu perthnasoedd gwaith gyda chymunedau
  • dysgu sut mae gweithredu dan arweiniad y gymuned wedi helpu pobl, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus cyn ac ar ôl Covid-19
  • dysgu gan eraill a’r rhaglen strategol ar gyfer gofal cymdeithasol. Er enghraifft, gallai’r rhaglen Ddatblygu Clystyrau Uwch helpu i wneud i hyn ddigwydd yn gyflym ac yn gyson ledled Cymru
  • dysgu beth sy’n gweithio ar lefel leol pan fyddwch chi’n defnyddio neu ddatblygu modelau gofal iechyd a chymdeithasol
  • casglu gwybodaeth am gymunedau a’i defnyddio i wneud cynlluniau byrddau partneriaeth rhanbarthol, clystyrau gofal sylfaenol a byrddau iechyd hyd yn oed yn well
  • dod o hyd i dystiolaeth o fodelau cymdeithasol a gofal iechyd lleol er mwyn dysgu beth sy’n gweithio.
Dysgu mwy

Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.

Cynhwysion allweddol ar gyfer llwyddiant

  • Ysbryd cymunedol
  • Synnwyr o le: cyd-destun lleol
  • Bodloni anghenion
  • Mapio asedau
  • Amser i feithrin perthnasoedd
  • Ffordd o feddwl cymunedol positif
  • Arweinyddiaeth gymunedol: gwneud iddo ddod yn amlwg.

Cefnogwch y broses o benderfynu trwy:

  • pecynnau cymorth
  • canllawiau
  • pobl sy'n barod i helpu.