CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Egwyddorion 'gweithio gyda'

Egwyddorion gweithio gyda chymunedau.

Darllenwch yr egwyddorion arweiniol hyn.

Meddyliwch sut y gallant eich helpu chi i weithio mewn cymunedau a’u cynnwys yn eich cynlluniau.

Pennu'r diwylliant cywir

1. Datblygu eich dealltwriaeth i gymunedau

Treuliwch ychydig amser yn dod i nabod y cymunedau yr hoffech weithio gyda nhw.

Archwiliwch yr hanes lleol, y cefndir a’r gwleidyddiaeth. Dysgwch beth sy’n digwydd, ac os oes grwpiau cymunedol neu sefydliadau’n rhedeg prosiectau.

2. Rhowch y gwaith wrth wraidd eich sefydliad

Mae’n bwysig rhoi llais a phrofiad pobl a chymunedau wrth wraidd eich gwaith.

Bydd hyn yn eich helpu chi a’ch parternaidi i ddeall:

  • beth sydd ei angen ar bobl
  • beth sy’n gweithio
  • beth all gael ei wella,
  • a sut i gydweithio er budd lles y gymuned.

Mae hyn wedi’i addasu o Understanding IntegrationThe King's Fund.

3. Byddwch yn glir fod y gwaith hwn yn perthyn i bawb

Nid rôl timau ymgysylltu cymunedol yw’r gwaith hyn yn unig. Mae angen i arweinwyr, timau rhaglenni a rhanddeiliaid ehangach wrando a gweithredu ar yr hyn maen nhw’n ei ddysgu.

I gael cyngor ar sut i wneud y gwaith, siaradwch â’r bobl sydd â phrofiad o weithio mewn cymunedau.

Mae hyn wedi’i addasu o Understanding IntegrationThe King's Fund.

4. Cydnabod yr her, a bod yn barod i wneud pethau'n wahanol

Dewch o hyd i grwpiau a gweithgareddau cymunedol, mannau cyfarfod, gwasanaethau lleol ac adeiladau. Mae’r rhain oll yn cyfrannu at gael cymuned fywiog a gwydn.

Dechrau arni

5. Canolbwyntio ar hyrwyddo llesiant pobl
Bydd dilyn y Pum Ffordd at Les yn hyrwyddo iechyd meddwl da i bawb.

6. Dechreuwch drwy fagu ymddiriedaeth a cydberthnasoedd
Gwrandewch, ymatebwch a gwerthfawrogwch gyfraniad pawb.

7.
Sicrhewch fod yr holl wybodaeth ar gael yn rhwydd, yn briodol ac yn rhydd rhag jargon

8. Annog a galluogi pawb i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol

Mae gweithgareddau cymunedol:

  • yn cynnwys pobl sydd heb eu cysylltu neu nad ydynt yn rhan o fywyd cymunedol, neu sy’n rhan o wasanaethau
  • rhoi synnwyr o berthyn a phwrpas i bobl
  • creu cyfeillgarwch
  • gwneud i bobl deimlo’n well ac yn fwy hyderus
  • yn ei gwneud hi’n haws i gael gwybodaeth, cymorth a help.

9. Cynnwys pobl er mwyn gwneud gwahaniaeth

Bydd cynnwys pobl a chydweithio yn sicrhau bod cymuned ynghlwm o’r cychwyn cyntaf.

Mae’n ffordd o annog y gymuned i fod yn berchen ar y prosiect, cael dweud eich dweud ar bolisi, a phenderfynu sut caiff gwasanaethau eu dylunio a’u rhedeg.

Byddwch yn greadigol, a pheidiwch ag ofni rhoi cynnig ar ffyrdd gwahanol i gynnwys pobl.

Datblygu

10. Cydnabod ac adeiladu ar asedau cymunedol presennol
Dylid cydnabod ac adeiladu ar asedau cymunedol presennol bob amser. Mae gan bawb sgiliau, a gwybodaeth y gallant ei rhannu a’r rhwydweithiau yw’r ased fwyaf mewn cymunedau lleol.

Efallai y bydd hefyd grwpiau cymunedol a gweithgareddau, mannau cyfarfod, gwasanaethau lleol ac adeiladau sy’n cyfrannu at gael cymuned fywiog a gwydn.

11. Creu rhagor o gyfleoedd i bobl gysylltu â'i gilydd

Sicrhau bod y cymunedau eisiau’r gweithgareddau sydd ar gael, a’u bod yn gallu rhedeg nhw eu hunain lle bo’n bosibl.

Dylai’r gweithgareddau fod yn seiliedig ar yr hyn y mae cymunedau yn dweud sydd eu hangen, ac nid beth mae’r ‘arbenigwyr’ yn credu sydd ei angen.

Dylent fod yn gost isel, yn hygyrch ac yn gynhwysol.

12. Gweithio gyda phobl mewn cymunedau

Gwrando ar y gymuned ac ymateb; dinasyddion sydd yn y sefyllfa orau i wybod beth sydd ei angen yn lleol.

Peidiwch â chynllunio ar eu rhan; chydweithiwch er mwyn bod â chymunedau gwydn.

13. Cefnogi perchnogaeth a phenderfyniadau lleol wrth ddylunio a chyflawni gwasanaethau

Annog cyd-gynhyrchu fel bod gan bobl y grym a’r cyfle i wneud eu penderfyniadau eu hunain am eu bywyd a’r gymuned.

Mae hyn yn golygu y byddant yn berchen ar y gwasanaethau maen nhw’n eu dylunio. Dysgwch ffyrdd newydd i weithwyr proffesiynol a chymunedau gydweithio.

14. Sicrhewch fod pawb yn cael cyfle i gael eu cynnwys

Dylech gadw addewidion i feithrin a chynnal ymddiriedaeth.

Bydd sicrhau bod pawb yn gwybod y diweddaraf, a rhannu’r gwersi a ddysgwyd a’r llwyddiannau yn syniad da hefyd. Bydd yn rhoi amser i chi fyfyrio, dysgu a gwella eich ymarfer.

Myfyrio, buddsoddi a rhannu

15. Datblygu ffyrdd priodol ac ystyrlon o gofnodi newid

Mae straeon yn ffyrdd pwerus o ddangos newid mewn cymunedau. Maen nhw’n dod â rhifau megis ‘faint’ neu ‘pa mor aml’ yn fyw.

Mesurwch beth sy’n bwysig, gan ddefnyddio targedau sy’n hyrwyddo ac yn canolbwyntio ar wneud y gymuned yn fwy gwydn.

16. Buddsoddwch i brosiectau cymunedol a sicrhewch eu cynaladwyedd

Dylid creu’r cysylltiad rhwng gwrando a gweithredu. Mae cyllid hirdymor a sefydlog yn cynyddu cynaliadwyedd prosiectau cymunedol a’r rhai sy’n darparu cymorth sgilgar.

Gall tyfu ar gyflymder naturiol a chynaliadwy annog ac ysbrydoli hyder mewn cymuned.

Ystyr cynaliadwyedd yw gadael hanes ble gall cymuned ddysgu a gwneud pethau dros ei hun.

17. Rhowch wybod am gynnydd a rhannwch y dysgu

Dylech gadw addewidion i feithrin a chynnal ymddiriedaeth.

Bydd sicrhau bod pawb yn gwybod y diweddaraf, a rhannu’r gwersi a ddysgwyd a’r llwyddiannau yn syniad da hefyd. Bydd yn rhoi amser i chi fyfyrio, dysgu a gwella eich ymarfer.

18. Edrychwch ar bobl eraill, defnyddiwch syniadau ac elwa

Mae enghreifftiau ardderchog o waith partneriaeth cymunedol ledled Cymru a thu hwnt. Ymwelwch, holwch a dysgwch gan bobl eraill.