CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Yr achos dros newid

Pam mae'n bwysig i weithio gyda chymunedau.

Gall gweithio gyda chymunedau dalu ar ei ganfed a bod yn broses gynaliadwy a buddiol i bawb.

Mae gan brosiectau a gweithgareddau botensial mawr i gefnogi llesiant cymunedol. Gallant hefyd fynd i’r afael â bylchau mewn cymdeithas a gwasanaethau cymunedol.

Mae llawer o ddulliau newydd ac ystyrlon o ran helpu cymunedau a chryfderau, gwybodaeth, sgiliau a pherthnasoedd y bobl, a chymorth ar y cyd mewn ffyrdd ymarferol a phositif.

Mae cyrff cyhoeddus a sefydliadau cymorth yn asesu ac yn gofyn i gymunedau beth sydd ei angen arnynt.

Er hyn, mae tystiolaeth yn dangos nad ydynt yn aml yn archwilio nac yn deall beth sydd ei angen ar gymunedau i weithredu hyn.

Nid yw'r sefydliadau hyn yn cydnabod bob amser sut y gall cymunedau fod yn bartneriaid effeithiol.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi cyfrifoldeb statudol ar wasanaethau cyhoeddus a phartneriaid i ddatblygu gwasanaethau sy’n hyrwyddo llesiant unigolion. Mae hyn fel bod modd i bobl fyw’n annibynnol yn eu cymunedau eu hunain.

Yn hyn o beth, mae angen i wasanaethau cyhoeddus a phartneriaid adeiladu ar gryfder pobl a chryfder y gymuned, defnyddio ei chryfderau i helpu grey gwasanaethau a gweithgareddau sy'n helpu unigolion i ffynu heb wasanaethau targedig.

Mae’r fframwaith hwn yn egluro sut i adeiladu cymunedau, gweithio a siarad gyda nhw.