CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cyflwyniad

Mae’r canllaw hwn ar gyfer pobl sydd eisiau deall a gweithio gyda chymunedau i ddatblygu syniadau, partneriaethau a phrosiectau.

Ei nod yw cael ei ddefnyddio gan weithwyr cyrff cyhoeddus megis cynghorau, byrddau iechyd a sefydliadau sy’n cefnogi sydd eisiau gweithio gyda chymunedau.

Cafodd ‘Gweithio gyda Chymunedau’ ei greu gan Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Bartneriaeth Ddyfeisgarwch Cymunedol.

Mae’r gwaith wedi cael ei lywio gan brosiect Ymchwil Gweithredu sydd wedi profi Gweithio gyda chymunedau mewn dwy gymuned yng Nghymru.

Mae’r canllaw hwn wedi cael ei lywio gan beth mae cymunedau yn meddwl sy’n gweithio, ac yn gwybod sy’n gweithio.