Rydyn ni’n lansio ein harolwg Dweud Eich Dweud diweddaraf ym mis Ionawr 2024.
Yn ddiweddar, wnaethon ni cyhoeddi canlyniadau ein harolwg peilot o’r gweithlu cofrestredig.
Dangosodd canlyniadau arolwg eleni fod gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi gan y bobl a’r teuluoedd y maen nhw’n cefnogi. Ond maen nhw hefyd yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol gan y cyhoedd ac nad ydyn nhw'n cael digon o dâl am y gwaith maen nhw'n ei wneud.
Gofynnodd yr arolwg gwestiynau am bethau fel iechyd a llesiant, tâl ac amodau, a beth mae pobl yn ei hoffi am weithio yn y sector.
Hwn oedd yr arolwg cyntaf o’i fath ac, ynghyd â’n casgliad data'r gweithlu, rhoddodd gipolwg i ni ar weithio ym maes gofal cymdeithasol nad ydyn ni wedi’i gael o’r blaen.
Rydyn ni nawr yn paratoi i gynnal yr arolwg eto fel y gallwn ddechrau monitro tueddiadau dros amser.
Rydyn ni hefyd eisiau darganfod mwy am rai o’r themâu a ddaeth i’r amlwg o’r arolwg eleni, er mwyn rhoi darlun mwy manwl i ni o’r hyn sy’n digwydd yn y sector. Un o’r ffyrdd y byddwn ni’n gwneud hyn yw drwy gynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda gweithwyr a chyflogwyr.