CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Arolwg yn canfod bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ond nid trwy eu cyflog
Newyddion

Arolwg yn canfod bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ond nid trwy eu cyflog

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl a'r teuluoedd y maent yn eu cefnogi. Ond maen nhw hefyd yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol gan y cyhoedd ac nad ydyn nhw'n cael digon o dâl am y gwaith maen nhw'n ei wneud, yn ôl ein harolwg o'r gweithlu cofrestredig.

Er bod 76 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y rhai y maent yn gofalu amdanynt, dim ond 44 y cant sy'n dweud yr un peth am y cyhoedd yn gyffredinol, a 48 y cant am asiantaethau partner fel staff iechyd a'r heddlu.

Dim ond 26 y cant o bobl gofrestredig sy’n fodlon ar lefel gyfredol eu cyflog, a dywed 33 y cant eu bod yn ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol.

Gweithion ni gyda chwmni o’r enw Opinion Research Services (ORS) i dreialu’r arolwg, a oedd yn gofyn cwestiynau am bethau fel iechyd a llesiant, tâl ac amodau, a beth mae pobl yn ei hoffi am weithio yn y sector.

Cynhaliwyd yr arolwg rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023. Ymatebodd cyfanswm o 3,119 o weithwyr gofal cymdeithasol (chwech y cant o'r gweithlu cofrestredig), o ystod eang o rolau.

Fe wnaethon ni bwysoli'r canlyniadau i weld beth y gallent ei ddweud wrthym am farn y gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig cyfan yng Nghymru.

Dywed y rhan fwyaf eu bod wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl (63 y cant), ond mae mwy na chwarter yn honni eu bod yn debygol o adael y sector yn y 12 mis nesaf (26 y cant).

Y rheswm mwyaf cyffredin a roddir dros ddisgwyl gadael yn y 12 mis nesaf yw cyflog isel (66 y cant), tra bod teimlo’n orweithio (54 y cant) ac amodau cyflogaeth neu waith gwael (40 y cant) hefyd yn ffactorau arwyddocaol.

Er gwaethaf yr heriau y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, dywed 65 y cant fod eu morâl yn dda naill ai drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser.

Roedd rhai o’r prif ganfyddiadau eraill yn cynnwys:

  • mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu cydweithwyr (78 y cant) a’u rheolwr (66 y cant) o leiaf y rhan fwyaf o’r amser
  • mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo eu bod yn cael yr hyfforddiant cywir i wneud eu gwaith yn dda (79 y cant) ac yn meddwl bod cyfleoedd hyfforddi ar gael iddynt (75 y cant)
  • mae hanner (50 y cant) o’r holl bobl gofrestredig nad ydynt eisoes mewn sefyllfa arwain yn credu y byddai’n bosibl iddynt fod yn arweinydd. Mae hyn yn uwch na’r gyfran a ddywedodd yr hoffent fod mewn sefyllfa arweinyddiaeth ar ryw adeg yn y dyfodol (36 y cant)
  • mae mwy na hanner yn cytuno bod arweinwyr mewn gofal cymdeithasol yn dod o gefndiroedd gwahanol (53 y cant)
  • mae gan 45 y cant rywfaint o allu yn y Gymraeg
  • mae 82 y cant yn ei chael hi 'ychydig' neu 'lawer' anoddach i'w ymdopi’n ariannol na blwyddyn yn ôl
  • mae 44 y cant yn teimlo o leiaf yn ‘eithaf tebygol’ o adael y sector yn y pum mlynedd nesaf
  • dywed y rhai mewn rolau uwch neu reoli mai argaeledd staff (72 y cant) ac ansawdd yr ymgeiswyr sy'n ymgeisio (72 y cant) yw'r heriau mwyaf a adroddwyd wrth recriwtio.

Fe wnaethon ni ddarganfod hefyd fod 37 y cant o bobl gofrestredig wedi profi bwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu yn y gwaith. Rydyn ni'n gweithio i ddarganfod mwy am natur y profiadau hyn a sut y gallwn ni a'n partneriaid ddarparu cymorth orau.

Rhannwyd y canlyniadau cyffredinol yn dri grŵp yn seiliedig ar rolau i weld sut ymatebodd pob un. Gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol oedd y grwpiau.

Fe wnaeth yr arolwg darganfod bod:

  • 38 y cant o weithwyr cymdeithasol yn anfodlon â'u swydd bresennol
  • 77 y cant o weithwyr cymdeithasol yn dweud bod cael gormod o waith neu beidio â chael digon o amser i'w wneud yn achosi straen yn y gwaith
  • y rhan fwyaf o weithwyr gofal (66 y cant) yn dweud bod eu swydd yn rhoi teimlad o waith wedi'i wneud yn dda iddynt
  • dim ond hanner o weithwyr gofal yn derbyn tâl salwch
  • tua hanner o reolwyr gofal cymdeithasol (49 y cant) yn gweithio 40 awr neu fwy yr wythnos.

Gallwch weld trosolwg o'r canfyddiadau wedi'u grwpio ar ein tudalen benodol.

Yr arolwg hwn oedd y cyntaf o’i fath ac, o’i gyfuno â’n casgliadau data'r gweithlu, mae’n rhoi cipolwg i ni ar weithio ym maes gofal cymdeithasol nad ydym wedi’i gael o’r blaen.

Byddwn yn defnyddio’r canfyddiadau i lywio’r cymorth a’r gwasanaethau a gynigiwn, yn ogystal â gwaith sefydliadau partner.

Byddwn yn cynnal yr arolwg eto y flwyddyn nesaf fel y gallwn fonitro tueddiadau dros amser.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Mae ymrwymiad eithriadol ein gweithlu gofal cymdeithasol wedi disgleirio drwy gydol yr arolwg. Fodd bynnag, mae canfyddiadau’r arolwg yn cadarnhau bod llawer mwy i’w wneud i sicrhau bod ein gweithlu’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn cael y cymorth gorau posibl.

“Rydyn ni’n gwybod mai gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yw’r prif ysgogiad i’r gweithlu ac rydw i’n drist eu bod nhw’n teimlo nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi gan rai. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i weithio mewn partneriaeth â’r sector i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad, gan gynnwys gwella tâl, telerau ac amodau a mynd i’r afael â materion recriwtio a chadw.”

Dywedodd Sue Evans, ein prif weithredwr: “Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn amlygu ymrwymiad gwych ein gweithlu gofal cymdeithasol i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ond mae’r arolwg hefyd yn dangos y pwysau anhygoel sydd ar y gweithlu. Mae hyn yn cael ei waethygu gan ddiffyg cydnabyddiaeth canfyddedig a chyflogau isel.

“Rwy’n credu bod hwn yn alwad i bob un ohonom ym maes gofal cymdeithasol i wneud mwy i gefnogi ein gweithlu hanfodol.

“Mae llawer yn cael ei wneud gan y Llywodraeth, ein hunain ac eraill, ond mae angen inni ddysgu o’r canlyniadau hyn i wella ein cefnogaeth i’r grŵp hanfodol hwn o weithwyr.”

Darganfyddwch fwy

Darllenwch fwy o'n canfyddiadau a lawrlwythwch yr adroddiad llawn.