CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Arolwg Dweud Eich Dweud 2024

Bydd ein harolwg o'r gweithlu cofrestredig yn mynd yn fyw ym mis Ionawr 2024.

Rydyn ni’n lansio ein harolwg Dweud Eich Dweud diweddaraf ym mis Ionawr 2024.

Yn union fel yn 2023, rydyn ni’n gofyn i bob gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig ateb cwestiynau am bethau fel iechyd a llesiant, tâl ac amodau, a beth ydych chi'n ei hoffi am weithio yn y sector.

Rydyn ni'n gobeithio bydd y nifer mwyaf posibl yn cwblhau'r arolwg byr, o ystod eang o rolau gofal cymdeithasol.

Bydd yr arolwg ar gael ar-lein am chwech wythnos, a byddwn ni’n ysgrifennu atoch chi i roi mwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan pan fydd yn mynd yn fyw ym mis Ionawr. Bydd y ddolen ar gael hefyd ar y dudalen hon.

Bydd rhannu eich meddyliau yn helpu i lunio'r gefnogaeth rydyn ni a'n partneriaid yn ei gynnig, felly peidiwch â cholli'ch cyfle i ddweud eich dweud.

Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill un o 25 taleb siopa gwerth £20.

Dilyn tueddiadau'r gweithlu

Rydyn ni’n cynnal yr arolwg hwn eto fel y gallwn ni ddechrau monitro tueddiadau o ran beth mae pobl yn ei feddwl am weithio ym maes gofal cymdeithasol.

Hyd yn oed os ydych wedi gadael y sector, hoffen ni glywed am eich profiadau os ydych yn dal i fod wedi cofrestru. Bydd cyfle yn ystod y broses i chi rannu eich meddyliau.

Rydyn ni hefyd eisiau darganfod mwy am rai o'r themâu a ddaeth i'r amlwg o arolwg eleni i roi darlun sy’n fwy manwl i ni o'r hyn sy'n digwydd.

Un o'r ffyrdd y byddwn ni’n gwneud hyn yw drwy gynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda gweithwyr a chyflogwyr. Os hoffech chi gymryd rhan yn y cyfweliadau neu'r grwpiau ffocws, gallwch chi gysylltu â'r ymchwilydd sy’n arwain ar y gwaith, yr Athro Jermaine Ravalier, ar j.ravalier@bathspa.ac.uk.

Gweithio gyda phartneriaid

Bydd Prifysgol Bath Spa a Chymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW) yn gweithio gyda ni i gynnal yr ymchwil hwn.

Bydd eich holl atebion yn ddienw a byddwn ni’n rhannu'r canfyddiadau ar ein gwefan ar ôl dadansoddi'r canlyniadau.

Beth oedd canlyniadau arolwg 2023?

Yn ddiweddar, wnaethon ni cyhoeddi canlyniadau arolwg peilot 2023, a ddangosodd fod gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi gan y bobl a'r teuluoedd y maen nhw’n eu cefnogi. Ond maen nhw hefyd yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol gan y cyhoedd ac nad ydyn nhw'n cael digon o dâl am y gwaith maen nhw’n yn ei wneud.

Os hoffech chi gael gwybod mwy am arolwg y gweithlu 2023, gallwch chi ddarllen yr adroddiad llawn yma.

Angen mwy o wybodaeth?

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am arolwg Dweud Eich Dweud 2024, mae rhai atebion ar gael ar ein tudalen cwestiynau cyffredin.

Gallwch chi hefyd gysylltu trwy e-bostio'r Athro Jermaine Ravalier ar j.ravalier@bathspa.ac.uk.