CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Fframwaith cymwyseddau ar gyfer eiriolwyr annibynnol

Mae'r fframwaith cymwyseddau ar gyfer eiriolwyr annibynnol yn offeryn i ddatblygu sgiliau eiriolwyr sydd am symud i rôl wahanol o fewn y sector.

Cymhwyster eiriolaeth annibynnol

Cafodd tystysgrif a diplomâu City and Guilds lefel 3 / 4 ar gyfer eiriolaeth annibynnol eu disodli ym mis Medi 2020 â chymhwyster newydd City and Guilds lefel 4: Ymarfer Proffesiynol mewn Eiriolaeth Annibynnol.

Gellir gweld y rhestr lawn o gymwysterau a argymhellir ar y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig. O fis Medi 2020, tystysgrif a diplomâu lefel 3 / 4 City and Guilds yw y gymwysterau rhagflaenol a restrir o dan y tab ‘cymwysterau eraill’. Bydd y rhain yn parhau i gael eu derbyn ar gyfer ymarfer, ac nid oes disgwyliad y bydd angen i’r rheiny sy’n dal un o’r cymwysterau tystysgrif neu ddiplomâu lefel 3 / 4 gwblhau cymhwyster newydd lefel 4.

Beth sydd wedi newid?

Mae cymhwyster newydd lefel 4 yn cynnwys 2 uned orfodol sy’n ymdrin â phob math o eiriolaeth annibynnol, gan gynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth yn gysylltiedig â’r canlynol:

  • Iechyd meddwl
  • Galluedd meddwl
  • Oedolion
  • Plant a phobl ifanc

Mae rhwng 70 a 79% o gyfanswm y cynnwys bellach yn dod o dan yr unedau gorfodol. Yn ogystal â chyflawni’r cynnwys gorfodol, bydd dysgwyr yn cwblhau un o’r unedau ‘llwybr’ sy’n adlewyrchu eu rôl ar yr adeg y byddant yn ymgymryd â’r cymhwyster, naill ai:

  • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA)
  • Eiriolaeth Galluedd Meddwl Annibynnol (IMCA)
  • Eiriolaeth annibynnol gydag oedolion
  • Eiriolaeth annibynnol gyda phlant a phobl ifanc.

O dro i dro, mae eiriolwyr annibynnol yn symud i wahanol rolau yn y sector eiriolaeth, e.e. o IMHA i IMCA. Roedd tystysgrif a diplomâu lefel 3 / 4 yn cynnwys darpariaeth i ddysgwyr ymgymryd ag unedau atodol ar eu pen eu hunain; caiff cymhwyster newydd lefel 4 ei asesu mewn ffordd wahanol, ac nid yw unedau atodol ar gael mwyach.

Pwy ddylai ddefnyddio'r fframwaith cymwyseddau?

Disgwylir bod pob cyflogwr yn cefnogi gweithwyr sy’n symud i rôl newydd i ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni swyddogaethau eu rôl – mae hyn yr un mor berthnasol i eiriolwyr annibynnol.

Datblygwyd y fframwaith cymwyseddau hwn trwy ddefnyddio cynnwys unedau llwybr lefel 4 o’r cymhwyster eiriolaeth annibynnol. Mae’n berthnasol i’r holl eiriolwyr annibynnol sy’n symud rolau, p’un a ydynt yn dal un o’r hen gymwysterau lefel 3 / 4 neu gymhwyster newydd lefel 4.

Mae’n offeryn y gall cyflogwyr ei ddefnyddio ochr yn ochr â’u prosesau sefydlu a phrawf eu hunain; gellir defnyddio’r cofnod cynnydd a’r slip cwblhau fel tystiolaeth i gomisiynwyr gwasanaethau a rheoleiddwyr gwasanaethau fod yr eiriolwr wedi cael ei gefnogi i ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau priodol ar gyfer ei rôl.

Mae adran ychwanegol wedi'i datblygu ar gyfer yr eiriolwyr annibynnol hynny sy'n symud i weithio yng Nghymru o un o genhedloedd eraill y DU, bydd hyn yn sicrhau bod gan bob eiriolwr annibynnol ddealltwriaeth dda o'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol yng Nghymru.

Sut i ddefnyddio’r fframwaith cymwyseddau

Mae’r fframwaith cymwyseddau yn cynnwys adran ar gyfer pob un o’r rolau eiriolaeth annibynnol. Mae tabl ym mhob adran sy’n amlinellu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r ymarfer y dylai’r eiriolwr annibynnol eu harddangos fel prawf o’i gymhwysedd.

  • Caiff deilliannau dysgu a meini prawf eu cymryd yn uniongyrchol o’r unedau llwybr o fewn y cymhwyster
  • Mae camau gweithredu awgrymedig yn amlinellu ffyrdd y gellir cynorthwyo’r eiriolwr annibynnol i gyflawni’r meini prawf. Efallai yr hoffech chi ychwanegu at y rhain, e.e. cwrs hyfforddi mewnol, e-ddysgu, ac ati
  • Mae ffynonellau tystiolaeth awgrymedig yn amlinellu sut gallai cyflogwyr farnu p’un a yw’r eiriolwr annibynnol wedi bodloni’r meini prawf, eto, efallai yr hoffech chi ychwanegu at y rhain
  • Mae colofn nodiadau i gyflogwyr gofnodi unrhyw gamau gweithredu neu arfer da
  • Dylid nodi dyddiad a blaenlythrennau ar bob maen prawf, gan ei fod yn cael ei lofnodi fel cofnod o gynnydd

Mae tystysgrif gwblhau ar ddiwedd pob adran, a dylai’r cyflogwr a’r eiriolwr annibynnol ei llofnodi a’i dyddio.

Efallai yr hoffech chi barhau i ddefnyddio eich fframwaith sefydlu a phrawf eich hun. Os felly, rydym ni’n awgrymu y dylid croesgyfeirio ato i sicrhau bod yr holl feini prawf a restrir yn cael eu cwmpasu.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.