CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Sut bydd gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi’r broses o gyflawni Ymlaen

Trosolowg o’n gweithgareddau bydd yn cyfrannu at gyflawni Ymlaen.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru eisoes wedi ymrwymo i wneud gwaith a fydd yn cyfrannu at y broses o gyflawni Ymlaen.

Mae'r camau hyn wedi'u rhestri yn ein cynllun busnes drafft ar gyfer 2023 i 2024.

Yma, rydyn ni wedi grwpio rhai o’r gweithgareddau hynny ochr yn ochr â’r pum prif thema sydd wedi’u cynnwys yn Ymlaen - y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella newydd ar gyfer gofal cymdeithasol.

Pennu cyfeiriad

Cysylltu

  • Gweithio gyda phobl ar draws y sector i gyflwyno seremoni Y Gwobrau, sy’n cydnabod llwyddiannau pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
  • Cydlynu a chyflwyno'r fframwaith datblygu arweinyddiaeth cenedlaethol.
  • Cefnogi pobl gyda mewnwelediad i’r gweithlu drwy gyfuno ein data ar y gweithlu a'n ymchwil, a chynnal digwyddiadau rheolaidd i rannu ein canfyddiadau.
  • Datblygu cymunedau, ar-lein ac all-lein, sy'n rhoi cyfle i bobl gysylltu, dysgu a chydweithio ar heriau cyffredin.
  • Trosi ymchwil a data i fformatau sy'n addas i'n cynulleidfaoedd.
  • Gweithredu fel llysgennad ar gyfer ADR Cymru, Banc Data SAIL a chysylltiadau data â rhanddeiliaid a chefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau ymchwil data cysylltiedig.

Galluogi

Cefnogi

  • Cyflwyno mentrau newydd i gefnogi llesiant y gweithlu fel rhan o’r broses o hyrwyddo ac adolygu ein fframwaith iechyd a llesiant.
  • Cynnig cymorth i gyflogwyr a darparwyr dysgu o ran gweithrediad parhaus y cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Hyrwyddo dealltwriaeth a mabwysiadu arweinyddiaeth dosturiol.
  • Gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddatblygu safle ar y cyd sy’n cefnogi rheolwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn eu dewisiadau datblygu proffesiynol.
  • Mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, datblygu a chyhoeddi casgliad o ddogfennau hyfforddi ategol i'w defnyddio ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Cefnogi a gweithio gyda thimau, darparwyr a rheolwyr gwaith cymdeithasol i ymwreiddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau neu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
  • Cefnogi’r broses o weithredu porth llywodraethu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ym mhob awdurdod lleol.
  • Datblygu sgiliau a galluoedd arloesi drwy roi cefnogaeth anogaeth a gwerthuso i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
  • Cefnogi cymunedau drwy’r prosiect Partneriaeth Cymunedau Dyfeisgar.

Amharu

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ymlaen@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech wybod mwy am unrhyw un o'r prosiectau a restrir.

Byddwn ni hefyd wrth ein bodd yn clywed gennych chi os ydych yn teimlo y gallai gwaith eich sefydliad ein helpu i gyflawni'r strategaeth.