CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ymlaen: Y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol 2024 i 2029

Rydyn ni ar hyn o bryd yn gofyn am eich adborth ar y strategaeth ddrafft hon.

Mae pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn mynd gam ymhellach i ddarparu gwasanaethau sy'n gwella canlyniadau i bobl Cymru.

Drwy gefnogi unigolion a theuluoedd ym mhob cymuned, mae’r sector gofal cymdeithasol yn amddiffyn plant, oedolion ac oedolion hŷn a'u helpu i wneud yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae hyn yn digwydd yn erbyn cefndir o anghydraddoldeb cynyddol, galw cynyddol, costau cynyddol a phwysau recriwtio, sy'n golygu bod angen i ni barhau i ddatblygu gwasanaethau i ymateb i anghenion unigolion a chymunedau.

Rydyn ni’n gwybod y gall ymchwil, arloesi a gwella cefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol i wneud gwahaniaeth positif, nawr ac yn y dyfodol.

Cafwyd system gymorth gyfyngedig yn y meysydd hyn o’i gymharu â’r hyn a welwn mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill fel addysg ac iechyd. Diolch i waith ystod o sefydliadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf y gwnaed cynnydd ym maes gofal cymdeithasol, a bydd mwy o gyfleoedd yn y dyfodol drwy ymrwymiad partneriaid a datblygiadau polisi, gan gynnwys y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal Cymdeithasol.

Felly mae'n amserol i ni gael dull strategol ar y cyd i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol i gyflawni’r dyheadau a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Rydyn ni eisiau creu diwylliant lle mae tystiolaeth yn ganolog i’r broses gyflawni ac yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar bob lefel o ofal cymdeithasol, a lle mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u hysbrydoli a'u cefnogi i roi cynnig ar bethau newydd.

Ymlaen yw'r strategaeth rydyn ni wedi'i datblygu gyda'n gilydd i gyflawni'r nodau hynny.

Ein gweledigaeth

Mae pobl sy’n arwain, yn datblygu ac yn darparu gofal cymdeithasol yn teimlo’n hyderus, yn cael eu cefnogi a’u hysbrydoli i ddefnyddio tystiolaeth ac arloesedd i wneud gwahaniaeth positif i ofal a chymorth yng Nghymru.

I gyflawni’r weledigaeth hon, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i:

  • Pennu cyfeiriad: nodi blaenoriaethau cyffredin ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella fel y gallwn gyfeirio sylw, adnoddau a chamau gweithredu i’r mannau lle mae eu hangen fwyaf.
  • Cysylltu: ‘uno’r dotiau’ rhwng gwahanol fathau o gymorth ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella ym maes gofal cymdeithasol.
  • Galluogi: creu amodau sy’n galluogi newid positif a pharhaol ym maes gofal cymdeithasol
  • Cefnogi: rhoi cymorth uniongyrchol i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i annog ymchwil, arloesi a gwella.
  • Amharu: ysbrydoli ffyrdd newydd o weithio.

Cyd-destun

Yn 2018, cyhoeddodd Gofal Cymdeithasol Cymru strategaeth ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol 2018 i 2023 mewn partneriaeth ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dyma’r tro cyntaf i ni osod nodau a chamau clir i gefnogi ymchwil gofal cymdeithasol gwell ac i ddatblygu ymarfer sydd wedi'i gyfoethogi gan dystiolaeth ar lefel genedlaethol.

Rydyn ni wedi cyflawni llawer gyda’n partneriaid yn ystod oes y strategaeth gyntaf:

  • mae ymchwil newydd wedi’i ariannu
  • rydyn ni wedi gweithio gydag ymarferwyr a phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth i bennu blaenoriaethau ymchwil
  • rydyn ni wedi ei gwneud hi’n haws cael mynediad at ddata gofal cymdeithasol drwy ddod â’r cyfan at ei gilydd mewn un lle
  • rydyn ni wedi cefnogi pobl i wneud synnwyr o ymchwil a’i roi ar waith.

Ledled Cymru, mae ystod eang o sefydliadau, yn ogystal â chefnogi ymchwil ac ymarfer wedi’i gyfoethogi gan dystiolaeth, hefyd wedi bod yn cefnogi gwelliannau i wasanaethau ac arloesi ym maes gofal cymdeithasol.

Ond rydyn ni’n gwybod bod llawer i’w wneud o hyd i helpu i gyflawni’r dyheadau ar gyfer gofal a chymorth a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r Ddeddf yn nodi gweledigaeth ar y cyd lle mae gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda dinasyddion ac asiantaethau eraill i gefnogi llesiant unigolion ac ar y cyd, gan helpu i sicrhau bod cymorth yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

Datgelodd gwerthusiad o’r Ddeddf (2023) fod ganddi gefnogaeth gref o hyd ymhlith dinasyddion a phobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ond mae yna rwystredigaeth nad yw’r gweithredu wedi bod mor llwyddiannus â’r disgwyl.

Wrth ddatblygu’r strategaeth hon, clywsom fod pobl eisiau i ni fynd i’r afael â’r bwlch rhwng polisi, deddfwriaeth a strategaeth a’r hyn sy’n digwydd yn ymarferol. Maen nhw am i’r Ddeddf gael ei chyflwyno i bawb, ac i’n strategaeth newydd gyfrannu at y nod hwnnw. Mae angen i wella bywydau pobl fod yn ganolog.

Mae polisïau dilynol fel Cymru Iachach a Datgarboneiddio Gofal Cymdeithasol wedi atgyfnerthu ein huchelgeisiau ar gyfer llesiant, cynaliadwyedd amgylcheddol, atal, a chefnogi pobl yn eu cymunedau eu hunain. Mae hyn yn golygu cynyddu ein galluoedd mewn ailalluogi, adsefydlu a gofal canolraddol, gwell integreiddio rhwng ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol a chefnogi’r sector i gyflawni sero net erbyn 2030.

Mae datblygu a gweithredu’r strategaeth hon hefyd yn gyfle i helpu i wireddu ein dyheadau i Gymru fod yn wlad decach i bawb. Mae'r strategaeth hon yn cefnogi gwaith ystod eang o bartneriaid i gyfrannu at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Cynllun Gweithredu LHDTC+ a chynllun y Gymraeg Mwy na Geiriau i wneud newid mesuradwy i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Mae gwaith gwych yn digwydd ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni am gefnogi hyn drwy sefydlu dull ymchwil, arloesi a gwella sy'n canolbwyntio ar gydweithio. Mae cytuno ar flaenoriaethau gyda’n gilydd yn ein helpu i benderfynu ble y dylem ganolbwyntio ein hymdrechion ar y cyd.

Rydyn ni hefyd eisiau cryfhau’r ‘llais’ gofal cymdeithasol. Dywedodd pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wrthon ni nad ydyn nhw’n teimlo bod eu buddiannau’n cael eu cynrychioli'n dda yn y sector cyhoeddus. Gallwn fod yn llais awdurdodol wedi’i gefnogi gan ymgysylltiad a thystiolaeth i helpu i sicrhau bod y buddiannau hynny’n cael eu clywed a’u hystyried. Mae hyn yn hanfodol i gefnogi llesiant mewn cymunedau. Drwy hyrwyddo cyfraniad, pwysigrwydd a gwerthoedd gofal cymdeithasol, gallwn ddylanwadu ar newid.

Beth rydyn ni’n ei olygu wrth ymchwil, arloesi a gwella

Rydyn ni wedi cyfuno ymchwil, arloesi a gwella yn ein strategaeth newydd gan nad ydyn ni o reidrwydd yn meddwl amdanyn nhw fel pethau gwahanol. Rydyn ni’n fwy tebygol o feddwl am ffyrdd newydd o wneud pethau, gwneud rhywbeth sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, neu ddeall beth sy’n gweithio.

Mae ymchwil yn golygu ceisio casglu gwybodaeth newydd drwy fynd i'r afael â chwestiynau wedi’u diffinio gyda dulliau systematig a thrylwyr. Rydyn ni’n defnyddio diffiniad eang o ymchwil sy'n cynnwys ymchwil academaidd ond sydd hefyd yn cwmpasu ymchwil a gwerthuso sy'n seiliedig ar ymarfer. Rydyn ni eisiau i bobl deimlo'n hyderus i wneud eu hymchwil eu hunain, i werthuso eu ffyrdd o weithio ac i ddefnyddio tystiolaeth i lywio eu hymarfer. Rydyn ni hefyd eisiau cefnogi ein partneriaid ymchwil academaidd i wneud ymchwil o ansawdd uchel, a byddwn yn hyrwyddo hyn ar draws y maes gofal cymdeithasol.

Mae arloesi yn ymwneud â defnyddio gwybodaeth ffres i wella sut mae pethau'n cael eu gwneud mewn ffordd sy'n newydd i leoliad penodol, neu i ofal cymdeithasol. Mae arloesi’n digwydd mewn gwahanol ffyrdd, ac ar raddfeydd gwahanol. Gall fod yn fater o system sy’n haws gweithio ynddi, newid y ffordd y caiff gwasanaeth ei ddarparu, creu technolegau digidol newydd, neu gyflwyno ffyrdd newydd o fynd i’r afael ag ymarfer. Mae ymarferwyr gofal cymdeithasol yn aml yn arloesi yn eu gwaith bob dydd, drwy rannu’r hyn a ddysgwyd am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio a chynhyrchu arferion newydd.

Mae gwella yn anos i'w diffinio ac yn golygu llawer o bethau i wahanol bobl. Mae’n golygu newid positif sy’n cynyddu fesul cam, a chwilio am wahanol ffyrdd o gynllunio, rheoli a darparu gofal a chymorth. Mae’n wahanol i arloesi oherwydd ei fod yn cynnwys parhad – mae’r ffyrdd newydd o wneud pethau’n seiliedig ar fodelau sy’n bodoli’n barod.

Ein nod yw ymwreiddio prosesau gwneud penderfyniadau wedi’u cyfoethogi gan dystiolaeth ar draws pob lefel o ofal cymdeithasol. Rydyn ni’n gwerthfawrogi tystiolaeth o ffynonellau gwahanol, gan gynnwys:

  • ymchwil, gan ymarferwyr ac ymchwilwyr arbenigol
  • profiad a doethineb pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth a gofalwyr
  • data a gwybodaeth
  • gwybodaeth a doethineb ymarferwyr.

Siart yn dangos y wahanol ffynonellau o dystiolaeth.

Dywedodd pobl eu bod eisiau diwylliant lle mae ymchwil, arloesi a gwella yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ganolog i’r broses gyflawni.

Gweithio gyda phartneriaid

Er mwyn gwireddu gweledigaeth y strategaeth hon ar gyfer pobl sy'n arwain, datblygu a darparu gofal cymdeithasol, bydd angen cydweithio cryf ar draws ystod eang o sefydliadau partner. Gofal Cymdeithasol Cymru fydd yn arwain y strategaeth newydd hon ac yn gweithio gyda phartneriaid i’w chyflawni.

Datblygwyd y strategaeth gyntaf gan Ofal Cymdeithasol Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ar gyfer y strategaeth newydd, mae amrywiaeth ehangach o bartneriaid ar draws ymchwil, arloesi a gwella wedi cydweithio. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gweithio ar gynllun gweithredu a fydd yn amlinellu’r gweithgareddau y bydd pob un ohonom yn ymrwymo iddyn nhw. Rydyn ni eisiau cael ymdeimlad cryf o berchnogaeth ar y cyd ar gyfer y strategaeth a’r ffordd y caiff ei chyflawni.

Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cadw golwg ar y gweithredu, ac yn dod â phartneriaid a rhanddeiliaid at ei gilydd yn rheolaidd i rannu cynnydd ac i gytuno ar ein gwaith yn y dyfodol. Rydyn ni eisiau i hon fod yn strategaeth ‘fyw’, gyda’r hyblygrwydd i ymateb i anghenion gofal cymdeithasol. Mae angen i’r gweithredu fod yn sgwrs barhaus, nid rhywbeth y byddwn yn adrodd arno yn achlysurol.

I wneud hyn, byddwn yn creu dau grŵp o’n sefydliadau partner ac yn cynnwys y bobl ym maes gofal cymdeithasol rydyn ni’n ceisio eu cefnogi. Bydd y grwpiau yn:

  • grŵp goruchwylio o uwch arweinwyr i roi cyngor a helpu i ddadflocio rhwystrau i gynnydd ar draws ein sefydliadau partner
  • cymuned o ‘weithredwyr’ ar draws partneriaid, i greu amgylchedd o rannu, dysgu a gwneud gweithredol.

Rydyn ni mewn lle dda i ysgogi’r gwaith hwn oherwydd ein bod yn arwain ymchwil, datblygu’r gweithlu, gwella, arloesi a rheoleiddio’r gweithlu ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydyn ni eisoes yn gwneud llawer i helpu pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i gysylltu, datblygu sgiliau a gwybodaeth, a chael mynediad at ymchwil a data mewn ffyrdd sy'n gweithio iddyn nhw.

Nod ein strategaeth newydd yw gwneud cyfraniad pob partner yn gliriach o ran cymorth ymchwil, arloesi a gwella. Mae’n gyfle i bob un ohonon ni ‘uno’r dotiau’ i bobl ym maes gofal cymdeithasol ac i wneud y gwaith caled o ddod o hyd i'r cymorth iawn ar eu rhan.

Sut fyddwn ni’n gweithio

Byddwn yn hyrwyddo ac yn gwrando ar yr ystod lawn, gyfoethog ac amrywiol o leisiau sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol, yn enwedig lleisiau pobl sy’n cael mynediad at ofal a chymorth ac nad ydyn nhw’n aml yn cael eu clywed neu’n cael blaenoriaeth. Byddwn yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn eiriol dros systemau, strwythurau ac arferion gwrth-hiliaeth.

Byddwn yn cyd-gynllunio ein cymorth gyda phobl sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol. Ein prif bwyslais yw’r bobl sy’n arwain, datblygu a darparu gwasanaethau oherwydd dyna sut y credwn y gallwn gyflawni ein gweledigaeth ar y cyd. Bydd hyn yn ein helpu i ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad ymarferwyr i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig ac i sicrhau newid sy’n gweithio’n ymarferol i bobl sy’n cael mynediad at ofal a chymorth.

Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau partner i gymryd camau ar y cyd, lle mae eu hangen fwyaf, i gael yr effaith fwyaf. Byddwn yn osgoi dyblygu ac yn ceisio ‘uno’r dotiau’.

Byddwn wastad yn dysgu drwy ein gwaith o ddatblygu a chyflawni’r strategaeth hon. Byddwn yn dysgu gyda’n partneriaid, ac oddi wrthyn nhw, i greu system gymorth sy’n gweithio’n dda ac sy’n gallu addasu i newidiadau. Byddwn hefyd yn dysgu gan bobl sy’n gweithio ym maes gofal a chymorth ac yn eu defnyddio, ac o ymchwil a data.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i wneud y gorau o ddatblygiadau technolegol a digidol i gefnogi gofal cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau. Bydd hyn yn cynnwys archwilio moeseg a phriodoldeb defnyddio technolegau digidol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, i ddatblygu a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Byddwn yn addasu ac yn ymateb i amgylchiadau newidiol, anghenion a gwybodaeth newydd. Byddwn yn ymwybodol o flaenoriaethau a phwysau newidiol a brofir gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau ac yn ymateb iddyn nhw. Byddwn yn gwerthuso’r strategaeth wrth iddi gael ei datblygu a’i rhoi ar waith, a byddwn yn chwilfrydig ac yn agored am ffyrdd newydd a chynaliadwy o wneud pethau.

Beth fyddwn yn ei wneud gyda’n partneriaid

Pennu cyfeiriad

Cysylltu

Galluogi

Cefnogi

Amharu

Crisialu ac adrodd y stori am ein heffaith

Mae ein strategaeth wedi'i chynllunio i gael ei chyflawni ar y cyd â'n partneriaid. Byddwn yn gwybod bod hyn yn wir os yw:

  • partneriaid yn deall eu cyfraniad i'r strategaeth ac yn cymryd perchnogaeth ar y cyd dros gyflawni'r weledigaeth gyffredin
  • partneriaethau newydd a phartneriaethau gwell yn deillio o'r strategaeth drwy rannu gwybodaeth, dysg ac adnoddau
  • pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn cael mynediad at y cymorth sydd ar gael drwy bartneriaid.

Mae angen i’r strategaeth gyfrannu at newid positif ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni eisiau hyrwyddo diwylliant o wneud penderfyniadau sydd wedi’i gyfoethogi gan dystiolaeth, yn ogystal â’r gofod, yr anogaeth, y gwerth a’r cyllid i alluogi twf a gwelliant parhaus, a fydd yn y pen draw yn gwneud gwahaniaeth positif i ofal a chymorth yng Nghymru. Byddwn yn gwybod bod hyn wedi digwydd, ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol os oes:

  • gan bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol fwy o gyfleoedd i rannu, myfyrio a dysgu gyda’i gilydd
  • mentrau arloesol yn cael eu rhannu a phocedi o arferion addawol yn cael eu lledaenu
  • gan bobl sy'n gweithio ac yn arwain gofal cymdeithasol yr hyder a'r sgiliau i:
    • ddefnyddio tystiolaeth wrth ymarfer a gwneud penderfyniadau
    • arwain a chyfrannu at welliannau ac arloesedd mewn arferion bob dydd, datblygu gwasanaethau a newid trawsnewidiol
    • wwerthuso eu cyfraniad a dangos y gwahaniaeth y mae eu gwaith wedi'i wneud
    • arwain diwylliannau sy'n ei gwneud yn bosib cymryd risgiau positif, ystyriol.
  • gan bobl ym maes gofal cymdeithasol y sgiliau digidol sydd eu hangen ar gyfer eu gwaith
  • gennym brosesau hygyrch ac effeithiol i gefnogi arloesi digidol
  • gan bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol y gwybodaeth ymhle i gael gafael ar dystiolaeth ymchwil
  • cynnydd o ran adnabod a mynd i’r afael â’r bylchau mewn data ac ymchwil
  • cynnydd o ran casglu a rhannu tystiolaeth o werthusiad
  • gwell argaeledd a defnydd o ddata gofal cymdeithasol.

Mae angen i ni ddatblygu dealltwriaeth well o effaith ein gwaith. Mae angen i ni hefyd ddysgu’n barhaus ac addasu’r hyn a wnawn i wneud y mwyaf o’r gwahaniaeth positif y gallwn ei wneud i bobl sy’n darparu gofal a chymorth.

Byddwn yn defnyddio dull sy’n cael ei alw’n ddadansoddiad o gyfraniad i grisialu ein heffaith ac i adrodd stori’r hyn rydyn ni’n ei gyflawni gyda’n gilydd drwy’r strategaeth hon. Mae hynny’n golygu edrych ar sut mae’r hyn rydyn ni wedi’i wneud yn cyfrannu at ein nod.

Byddwn yn gwerthuso ein heffaith wrth fynd ymlaen ac yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio. Byddwn yn hyblyg, drwy ddefnyddio’r hyn a ddysgwn i addasu ein ffordd o weithredu lle bo angen.

Rhowch eich barn

Rydyn ni ar hyn o bryd yn gofyn am eich adborth ar y strategaeth ddrafft hon.

Cwblhewch ein ffurflen ar-lein i ddweud eich dweud, neu ewch i'n tudalen ymgynghori am ragor o ffyrdd o ymateb.