CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gwobrau 2024

Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth gyffredinol am y Gwobrau 2024

Beth yw'r Gwobrau?

Mae'r Gwobrau yn wobrau sy'n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae'r gwobrau'n cydnabod gwaith grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal â gweithwyr gofal unigol o bob rhan o'r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac enwebiadau y Gwobrau 2024 wedi mynd heibio.

Beth yw'r categorïau ar gyfer 2024?

Mae gan y Gwobrau 2024 chwe chategori:

  • tri ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau
  • tri ar gyfer gweithwyr.

Categorïau ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau

Ym mhob categori, bydd ein beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o waith sy'n newydd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol gwirioneddol i fywydau'r plant, teuluoedd ac oedolion y maen nhw’n eu cefnogi.

Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd

Mae'r categori hwn yn dathlu sefydliadau, lleoliadau neu brosiectau sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i'w helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau o bob rhan o feysydd gofal plant, chwarae, y blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol sy'n darparu gofal o ansawdd uchel ac yn helpu plant a phobl ifanc i ddisgleirio.  

Gallai ceisiadau fod gan leoliadau gofal cymdeithasol preswyl, gwasanaethau cymunedol neu statudol. Er enghraifft, y rhai sy'n cefnogi pobl ifanc sydd wedi gadael gofal yn ddiweddar, cartrefi preswyl, neu wasanaethau maethu neu fabwysiadu. Neu allai fod yn lleoliad blynyddoedd cynnar, chwarae neu ofal plant sy'n cefnogi plant i gael dechrau rhagorol mewn bywyd.

Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu

Yn y categori hwn, rydyn ni’n chwilio am enghreifftiau rhagorol o bob rhan o ofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar o:

  • sut mae cyflogwyr wedi cefnogi llesiant eu gweithwyr a’u gwirfoddolwyr ac wedi creu gweithleoedd lle mae llesiant staff yn ffynnu, yn unol ag unrhyw un o’r pedwar ymrwymiad yn ein fframwaith iechyd a llesiant  
  • y camau tymor hwy y mae cyflogwyr yn eu cymryd i ofalu am lesiant eu gweithwyr a'u gwella.

Gallai'r camau hyn gynnwys cyflwyno ffyrdd newydd o wneud pethau sy'n dangos sut mae staff a gwirfoddolwyr yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, fel newid y ffordd y maen nhw’n gweithio a chynnig cymorth arbenigol pan fo angen.

Gweithio mewn partneriaeth

Rydyn ni’n chwilio am brosiectau neu sefydliadau ar draws gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar sy'n gweithio mewn partneriaeth i wella canlyniadau llesiant i blant, teuluoedd ac oedolion. Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • ymchwilwyr sy'n gweithio gyda darparwyr gofal ac awdurdodau lleol i helpu i gael ymchwil ar waith
  • awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda gofal iechyd, tai, y trydydd sector a/neu grwpiau cymunedol i gefnogi gofal sy’n seiliedig ar le
  • timau gofal cymdeithasol neu sefydliadau sy'n gweithio gydag ysgolion a cholegau i ddenu, recriwtio a chadw gweithlu medrus
  • grwpiau sy'n cydweithio i gyd-gynhyrchu ffyrdd newydd a gwahanol o weithio.

Dim ond enghreifftiau yw'r rhain. Mae gennym ni ddiddordeb mewn unrhyw gydweithredu sy'n canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.

Categorïau ar gyfer gweithwyr unigol

Ym mhob categori, bydd ein beirniaid yn chwilio am weithwyr gofal eithriadol ar draws y meysydd gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar sy'n mynd y tu hwnt i ofynion arferol eu rôl o ddydd i ddydd ac sy'n helpu plant, teuluoedd ac oedolion i gyflawni'r hyn sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw.

Gwobr arweinyddiaeth effeithiol   

Mae arweinyddiaeth effeithiol a thosturiol yn allweddol er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd da i bobl sydd angen ein cefnogaeth. Darperir gwasanaethau o ansawdd gan weithlu sy'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, ac sy'n cael cyfarwyddyd clir.   

Rydyn ni’n chwilio am weithwyr, gwirfoddolwyr neu dimau ar unrhyw lefel yn y sector cyhoeddus, gwirfoddol neu breifat o bob rhan o feysydd gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sy'n ysbrydoli cydweithwyr neu sy'n datrys problemau gan sicrhau canlyniadau gwell i'r bobl sydd angen ein cefnogaeth.

Gwobr Gofalwn Cymru

Rydyn ni’n chwilio am bobl i enwebu gweithwyr neu wirfoddolwyr rhagorol sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar, sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i fywydau plant a phobl.  

Gall y gweithwyr fod mewn unrhyw rôl yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, gan gynnwys gwirfoddolwyr. Gallant hefyd fod yn brentisiaid, gofalwyr di-dâl neu'n bobl sy'n astudio ar gyfer cymwysterau wrth weithio.

Gweithio yn unol ag egwyddorion ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau  

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn disgwyl i ni roi'r bobl rydyn ni’n eu cefnogi wrth wraidd ein hymarfer.    

Mae ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn adeiladu ar yr egwyddor, pan fo hynny’n bosibl, ein bod yn helpu oedolion, plant a theuluoedd i ddeall sut y gallan nhw ymateb yn fwy effeithiol i'r agweddau ar eu bywydau sy'n achosi pryder iddyn nhw eu hunain neu i’w gweithwyr proffesiynol. Mae gweithio ochr yn ochr gyda phobl, cynnig cymorth a bod yn glir am yr hyn sydd angen digwydd yn arwain at newid cadarnhaol yn y tymor hwy.

I wneud hyn, mae angen i weithwyr, timau a systemau addasu i adlewyrchu ac ymateb i anghenion pobl sydd angen ein cymorth, yn ogystal â deall yr angen am chwilfrydedd proffesiynol.

Os ydych chi'n gwybod am dîm gofal cymdeithasol neu waith cymdeithasol, arweinydd tîm neu bennaeth adran sy'n gweithio i hyrwyddo'r dull hwn, hoffem glywed gennych.

Y seremoni wobrwyo

Bydd seremoni wobrwyo Gwobrau 2024 yn cael ei chynnal ar 25 Ebrill 2024. Byddwn ni’n diweddaru'r dudalen hon gyda mwy o wybodaeth amdani yn agosach at yr amser.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig