CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Yr hyn y gall data a thystiolaeth ei ddweud wrthym am ofal cymdeithasol yng Nghymru
Newyddion

Yr hyn y gall data a thystiolaeth ei ddweud wrthym am ofal cymdeithasol yng Nghymru

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Yng ngholofn y mis hwn, rwy’n canolbwyntio ar un arall o’r targedau cenedlaethol rydyn ni eisiau ei gyflawni trwy ein cynllun pum mlynedd.

Hynny yw, ein nod i sicrhau bod ymchwil, data a thystiolaeth o ansawdd uchel yn cael eu defnyddio gan bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a chan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau am ofal cymdeithasol.

Un o’r prif adroddiadau rydyn ni’n ei gyhoeddi bob blwyddyn yw ein hadroddiad data blynyddol am y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r adroddiad hwn yn casglu data gan awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn rhoi ciplun defnyddiol i ni o’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a chyflwr y sector.

Mae adroddiad eleni’n dangos bod bron i 85,000 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gofal preswyl i oedolion yw’r rhan fwyaf o’r sector, sy’n cyflogi tua 29,100 o bobl.

Menywod yw mwyafrif helaeth y rhai sy’n gweithio yn y sector, sy’n cynrychioli 82 y cant o’r gweithlu, ac mae 95 y cant yn Wyn.

Rydyn ni’n gwybod bod y sector gofal cymdeithasol wedi bod yn wynebu heriau sylweddol ers cryn amser ac mae’r adroddiad yn amlygu rhai o’r anawsterau hynny.

Mae’n dangos bod mwy na 5,000 o swyddi gwag ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru, sef tua naw y cant o’r gweithlu.

Mae lefelau salwch yn uchel ar draws y sector hefyd, a chollwyd mwy na 200,000 o ddiwrnodau oherwydd salwch yn 2022.

Mae’r materion recriwtio a staffio hyn yn rhoi mwy o bwysau ar sector sydd eisoes mewn trafferthion oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau gofal cymdeithasol.

Ac mae hyn, yn ei dro, yn golygu bod y bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth yn gorfod aros yn hirach am gyngor, asesiadau a chymorth.

Er nad yw rhai o’r heriau hyn yn annisgwyl, efallai, mae’r data’n golygu y gallwn ddefnyddio’r dystiolaeth hon i’n helpu i benderfynu ar y ffordd orau o gefnogi’r sector.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod gan bron draean o’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol rywfaint o allu yn y Gymraeg.

Mae hyn yn newyddion calonogol, ond os ydyn ni am sicrhau bod ein dinasyddion yn gallu derbyn gofal a chymorth yn eu dewis iaith, mae angen i ni barhau â’n hymdrechion i gynorthwyo’r rhai sy’n gweithio yn y sector i ddysgu Cymraeg a theimlo’n hyderus yn siarad yr iaith, ac i ddenu mwy o siaradwyr Cymraeg i’r sector.

Yn gynharach eleni, cyflwynom gwrs ar-lein i helpu’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ddysgu Cymraeg. Mae’r cwrs byr, rhad ac am ddim yn addysgu geiriau ac ymadroddion defnyddiol y gall gweithwyr eu defnyddio gyda’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt.

Dyma’r cyntaf o ddau gwrs Cymraeg rydyn ni’n eu cyflwyno gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol eleni, a byddwn ni’n lansio’r ail yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr haf.

Yn yr Eisteddfod, byddwn ni hefyd yn cyhoeddi enillydd ein gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg, sef ein gwobr flynyddol sy’n cydnabod a dathlu pobl sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Eleni, byddwn ni’n gofyn i aelodau’r cyhoedd bleidleisio dros yr enillydd. Felly, cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddarach y mis hwn os hoffech gymryd rhan a phleidleisio dros ein henillydd.

Yn olaf, ond nid lleiaf, bydd ein tîm Gofalwn Cymru yn yr Eisteddfod ar 10 Awst i siarad ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal.

Os byddwch yn yr Eisteddfod y diwrnod hwnnw ac eisiau cael gwybod mwy, chwiliwch am y tîm yn eu crysau T a’u hwdis gwyrddlas.