CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cwrs newydd am ddim yn helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddysgu Cymraeg
Newyddion

Cwrs newydd am ddim yn helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddysgu Cymraeg

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Gall gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru nawr ddysgu Cymraeg am ddim, diolch i gwrs ar-lein newydd.

Rydyn ni wedi creu’r cwrs Camau mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn arbennig ar gyfer bobl sy’n gweithio o fewn gofal cymdeithasol.

Mae’n cynnig dysgu hyblyg drwy gyrsiau byr sy’n canolbwyntio ar y geiriau a thermau y mae gweithwyr eu hangen fwyaf wrth gyfathrebu gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.

Mae'r modiwl Mynediad yn addas i ddechreuwyr ac mae’n cymryd rhyw 60 awr i’w gwblhau, mewn tri darn o 20 awr.

Mae’n cyfrif tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol a bydd pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn cael tystysgrif.

Dywedodd Liz Parker, ein Swyddog Ymgysylltu a Datblygu: “Rydyn ni’n hynod o falch fod y cwrs newydd yma ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd yn helpu mwy o staff i fagu’r sgiliau a’r hyder i siarad Cymraeg gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.

“Gall defnyddio’r Gymraeg - hyd yn oed ychydig eiriau, helpu pobl i deimlo’n gynwysedig ac yn fwy cyfforddus.”

Archebwch eich lle

Gallwch gofrestru ar gyfer y cwrs Mynediad drwy wefan Dysgu Cymraeg. Mae dau gwrs ar gael, yn defnyddio tafodiaith y gogledd neu’r de.

Cofrestrwch ar gyfer: