CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gwobr Gofalu trwy'r Gymraeg 2023

Dysgwch fwy am y wobr sy’n dathlu’r rhai sy’n darparu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg

Beth yw’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg?

Mae’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn wobr flynyddol sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith y rhai sydd wedi gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl trwy ddarparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wobr yn cydnabod y rhai sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Gallant gael unrhyw lefel o Gymraeg – rhugl, rhywfaint neu ddysgwr. Y peth pwysig yw eu bod yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith gyda’r bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt.

Yr enillydd a'r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2023

Cafodd seremoni wobrwyo’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2023 ei gynnal yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, Pen Llŷn ar 10 Awst 2023.

Dewiswyd pum gweithiwr o bob rhan o’r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar i gyrraedd rownd derfynol y wobr Gofalu trwy'r Gymraeg.

Enillydd:

Ross Dingle, Rheolwr ac Arweinydd Chwarae Clwb Carco Limited, Caerdydd

Cafodd Ross ei enwebu gan Jane O’Toole, Prif Weithredwraig Clybiau Plant Cymru.

Yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae Ross wedi datblygu ansawdd chwarae ac ethos Clwb Carco, sy'n rhedeg saith clwb gofal plant cyfrwng Cymraeg y tu allan i oriau ysgol yn ne Cymru.

Mae Ross wedi dod o hyd i gyllid gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaethau Chwarae Caerdydd i gynnal sesiynau chwarae Cymraeg ar gyfer dros 80 o blant bob dydd, i helpu i gefnogi llesiant, gwytnwch ac adferiad y plant. Daw nifer o'r plant o gartrefi
di-Gymraeg ac mae’r sesiynau chwarae hyn yn cefnogi ac yn annog y plant i barhau i ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r diwrnod ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol.

Yr haf hwn, bydd Ross yn rhedeg y Pentref Plant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnig cyfleoedd chwarae Cymraeg i blant sy’n mynychu’r ŵyl gelfyddydol flynyddol.

Siaradwr Cymraeg ail iaith yw Ross sy’n gweithio’n rhan amser fel tiwtor i fentora ac adeiladu gweithlu gwaith chwarae cyfrwng Cymraeg a Saesneg yng Nghymru. 

Mae Ross yn mynychu diwrnodau gyrfaoedd i ddisgyblion chweched dosbarth i’w hannog i ystyried gyrfa mewn gwaith chwarae. Mae hefyd yn mentora ac yn annog myfyrwyr o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg i hyfforddi fel gweithwyr chwarae. Drwy gynnig lleoliadau yn y clybiau, mae'n eu cefnogi i fod y genhedlaeth nesaf o weithwyr chwarae sy’n siarad Cymraeg.


Ross Dingle, Enillydd Gwobr Gofalu trwy'r Gymraeg 2023

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a derbyn cymeradwyaeth uchel:

Nikki Taylor, Ymarferydd Cyn Oed Ysgol, Cyn-ysgol Rydal Penrhos, Conwy

Cafodd Nikki ei henwebu gan ei rheolwr, Lucy Davies, sy’n Ddirprwy Bennaeth Cyn-ysgol Rydal Penrhos.

Er nad yw’n dod o gefndir Cymraeg, mae Nikki wedi gwneud ymdrech enfawr i ddysgu Cymraeg er mwyn helpu’r plant yn y cyn-ysgol lle mae’n gweithio i wella eu Cymraeg. Mae Nikki yn deall pwysigrwydd siarad Cymraeg a Saesneg o oedran cynnar, felly mae hi a'r plant yn ymarfer Cymraeg gyda'i gilydd i'w helpu i deimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio'r iaith.

Bob wythnos, mae yna ddosbarth sgwrsio Cymraeg yn y cyn-ysgol, ac mae athro sy’n siarad Cymraeg yn dweud bod brwdfrydedd a chyfraniad Nikki yn y dosbarthiadau hyn wedi helpu i wella Cymraeg y disgyblion yn gyflym.

Mae Nikki hefyd yn annog ei chydweithwyr i siarad Cymraeg, ac mae wedi dangos i’w chydweithwyr nad oes rhaid i chi fod yn berffaith wrth siarad Cymraeg, ond mae'n rhaid i chi roi cynnig arni ac ymarfer pan allwch chi. O ganlyniad, mae staff bellach yn fwy hyderus wrth ddefnyddio Cymraeg.

Gan nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ystyried bellach fel un Saesneg yn unig, mae nifer y teuluoedd Cymraeg sy’n anfon eu plant i’r cyn-ysgol yn cynyddu. Mae
Cyn-ysgol Rydal Penrhos hefyd yn gweithio tuag at wobr efydd Addewid Cymraeg Cwlwm, sy’n cael ei dyfarnu ar ôl adeiladu sylfeini a gweithredu'r Gymraeg mewn lleoliad a’r Cynnig Cymraeg.

Dywedodd Lucy fod “brwdfrydedd a chariad amlwg Nikki at ddysgu Cymraeg yn sail i’r newidiadau positif” yn y cyn-ysgol, a’i fod yn “bleser enwebu rhywun sydd wedi cael cymaint o effaith bositif ar fywydau eraill. Da iawn Nikki!

Ffion Hughes, Gweithiwr Cymdeithasol yn Young Lives vs Cancer, Caerdydd

Cafodd Ffion ei henwebu gan ei rheolwraig Rachel Driver, gweithwraig gymdeithasol yn Young Lives vs Cancer.

Elusen yw Young Lives vs Cancer sy’n arbenigo mewn darparu cymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o ganser neu gyflwr mêr esgyrn.

Diolch i Ffion, mae Young Lives vs Cancer wedi gallu cynnig gwasanaeth dwyieithog. Oherwydd nad oes ysbyty plant yng ngogledd Cymru, mae plant o’r ardal yn gorfod teithio i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl am driniaeth. Felly mae rhai plant, y mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddyn nhw, yn gorfod derbyn gwybodaeth am eu triniaeth yn eu hail iaith.

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae Ffion wedi cynnig cysur, sicrwydd a chymorth i blant Cymraeg sydd wedi cael diagnosis o ganser a’u teuluoedd drwy eu helpu i ddeall y siwrnai canser yn eu hiaith eu hunain. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r plant a’u teuluoedd ofyn cwestiynau ac i fynegi eu hunain yn eu dewis iaith.

Mae nyrsys sydd wedi gweithio gyda Ffion wedi dweud ei bod hi'n helpu'r plant “deimlo cymaint yn fwy cyfforddus a chartrefol pan fydd hi yno”, a bod ei hymdrechion “wedi bod o fudd mawr i'r plant”.

Mae cydweithwyr Ffion hefyd wedi dweud “yn ystod cyfnodau ansicr lle mae'r plant yn cael triniaethau sy’n aml yn boenus ac yn frawychus, mae’n gysur enfawr i’r plentyn gael siarad â rhywun yn eu hiaith gyntaf.”

Menna Evans, Gweithiwr Cymorth yng Nghartref Preswyl Min y Môr, Ceredigion

Cafodd Menna ei henwebu gan ei chydweithwraig, Nerys Lewis, Rheolwraig Gorfforaethol Porth Gofal, Cyngor Sir Ceredigion.

Fel arfer, mae Menna yn gweithio yng ngwasanaeth anableddau dysgu Ceredigion, ond ers y pandemig Covid mae hi wedi bod yn gyswllt allweddol i deuluoedd yng Nghartref Preswyl Min y Môr, drwy sicrhau bod ymweliadau â'r cartref yn cael eu cynnal yn ddiogel.

Ar frig y pandemig, sylweddolodd Menna fod rhai preswylwyr, yn enwedig y rheini a oedd yn siarad Cymraeg, yn ei chael hi’n anodd rhyngweithio â’u teuluoedd. Felly cyflwynodd Menna weithgareddau i helpu, fel darllen y papurau bro yn uchel, adrodd barddoniaeth Gymraeg a helpu un ferch i chwarae a chanu caneuon Cymraeg gyda’i mam.

Yn ogystal, cyflwynodd Menna ‘Llyfrau Atgofion Oes’ ar gyfer pob preswylydd yn eu dewis iaith, i helpu teuluoedd a gofalwyr ysgogi emosiynau gyda'r preswylydd wrth iddyn nhw ddwyn eu hatgofion i gof.

Mae'r llyfrau hyn wedi cael effaith bositif ar breswylwyr a'u teuluoedd. Disgrifiodd un aelod o'r teulu y llyfrau atgofion fel “a blessing during the Covid lockdown as it awoke Aunty’s memories and helped to bring her comfort during a difficult time for everyone.

A dywedodd un preswylydd: “I love creating my memory book. It’s wonderful to have pleasant memories and an opportunity to document them.”

Jenny Thomas, Gweithiwr Cymorth yn Nhyddyn Môn, elusen sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu yn Ynys Môn

Cafodd Jenny ei henwebu gan Yasmin Moore, Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith yn Busnes@ Grŵp Llandrillo Menai.

Daw Jenny o’r Alban ac mae’n dysgu Cymraeg. Ers symud i ogledd Cymru a dechrau dysgu’r iaith, mae Jenny wastad wedi bod yn rhagweithiol wrth wella ei sgiliau Cymraeg.

Mae Jenny yn defnyddio’r Gymraeg a ddysgodd yn y gwaith i gyfathrebu’n well â’r preswylwyr y mae hi'n darparu gofal a chymorth ar eu cyfer. Mae Jenny yn aml yn cyfarch preswylwyr yn Gymraeg ac yn darparu amrywiaeth o weithgareddau ar eu cyfer y gellir eu deall drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Jenny yn gynhwysol yn ei gwaith ac yn defnyddio ei sgiliau gwrando gweithredol i ymateb i’r sgyrsiau amrywiol y mae’n eu cael yn Gymraeg gyda’r preswylwyr y mae hi'n darparu gofal a chymorth ar eu cyfer. Mae hi hefyd yn grymuso'r preswylwyr i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg lle bo’n bosib.

Dywedodd Yasmin fod Jenny “wastad yn hybu’r Gymraeg” a’i fod yn “braf gweld pa mor ymroddedig yw hi i ddysgu'r iaith a’i haddasu i'w gwaith”.

Cafodd Jenny ei disgrifio gan Yasmin fel “dysgwr a gweithiwr brwdfrydig, penderfynol a rhyfeddol sy'n grymuso eraill i ddysgu a siarad Cymraeg yn ei gweithle. Da iawn chdi Jenny”.