CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Mae deunyddiau hyfforddi ar gyfer y gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolion newydd ar gael
Newyddion

Mae deunyddiau hyfforddi ar gyfer y gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolion newydd ar gael

| Bethan Price

Mae cyfres newydd o ddeunyddiau hyfforddi dwyieithog ar orchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion (y Gorchmynion) wedi'i hychwanegu ar yr Hyb.

Mae’r deunyddiau'n cyd-fynd â’r broses o roi’r Gorchmynion ar waith, a gyflwynwyd fel rhan o’r newid mewn arferion diogelu dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gellir defnyddio’r adnoddau i hyfforddi swyddogion newydd ac i atgoffa swyddogion awdurdodedig presennol a swyddogion cyfreithiol neu rolau pwysig eraill am yr wybodaeth.

Nod y modiwl hyfforddiant a’r gweithgareddau yw rhoi dealltwriaeth gadarn i ddysgwyr o’r gyfraith ar roi’r Gorchmynion ar waith, yn ogystal â sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gyson ledled Cymru ac yn unol ag egwyddorion y Ddeddf. Maent yn cynnig modiwl hyfforddiant, dogfen broses swyddog awdurdodedig, gweithgareddau a thaflenni.

Cafodd yr adnoddau eu datblygu gan Ymchwil mewn Ymarfer i Oedolion a’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Oxford Brookes. Ym mis Hydref 2016, rhoddodd Ymchwil mewn Ymarfer hyfforddiant i bedwar deg pedwar o swyddogion awdurdodedig a 22 o swyddogion cyfreithiol o bob cwr o Gymru.

Bydd fersiwn e-ddysgu o’r modiwl hyfforddiant, y bydd yn rhaid i swyddogion awdurdodedig newydd ei gyflawni, ar gael ar y Man Dysgu yn ystod y misoedd nesaf.

Lawrlwythwch y deunyddiau hyfforddi.