CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
​Gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion

Adnoddau hyfforddi – gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion

Cyflwynir gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion o dan Adran 7 y Ddeddf sy’n ymwneud â diogelu. Datblygwyd y deunyddiau dysgu hyn gan Research in Practice for Adults a’r Institute of Public Care ym Mhrifysgol Oxford Brookes, ar gyfer hyfforddi swyddogion awdurdodedig, swyddogion cyfreithiol a rolau allweddol eraill i weithredu gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion.

Mae'r adnoddau, sy’n cynnwys dogfen y broses ar gyfer swyddogion awdurdodedig, modiwl hyfforddi, gweithgareddau a thaflenni, yn addas ar gyfer cyflwyno hyfforddiant i swyddogion newydd ac adnewyddu dysgu swyddogion awdurdodedig presennol a swyddogion cyfreithiol neu rolau allweddol eraill, fel rhan o'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.