CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ein cynnig tystiolaeth

Yn 2018, cyhoeddwyd Strategaeth ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol i Gymru 2018-2023 gennym, a amlinellodd ein uchelgais i weld tystiolaeth yn cael ei hymgorffori ym meysydd ymarfer, cynllunio a llunio polisïau mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gwyddom y gall hyn fod yn heriol. Felly, rydym wedi datblygu ein cynnig tystiolaeth i gefnogi pobl sy’n darparu, sy’n arwain ac yn dylunio gofal a chymorth i leihau’r heriau hyn a dod o hyd i ffyrdd o gyfoethogi meysydd ymarfer, cynllunio a llunio polisïau gyda thystiolaeth.

Beth rydyn ni’n ei feddwl wrth sôn am dystiolaeth

Pan fyddwn ni’n sôn am ymarfer, cynllunio a llunio polisïau sydd wedi’u cyfoethogi gan dystiolaeth, rydym ni’n cyfeirio at benderfyniadau ynghylch sut i ddarparu gofal a chymorth wedi’u llywio gan ddealltwriaeth o’r canlynol:

  • y dystiolaeth orau sydd ar gael am yr hyn sy’n effeithiol, gan fanteisio ar ymchwil a data
  • doethineb a phrofiad ymarferwyr
  • doethineb, profiad a barn pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth a’u gofalwyr.
Diagram sy'n dangos beth sy'n arwain at bolisi ac ymarfer wedi'u cyfoethogi gan dystiolaeth, sef: data a deallusrwydd, gwybodaeth a doethineb gan ymarferwyr, ymchwil a phrofiad a doethineb y pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth a'u gofalwyr.Llun gan Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi ei addasu o lun gan Research in Practice

Pam wnaethom ni ddatblygu cynnig tystiolaeth

Nod y cynnig tystiolaeth yw datblygu sgiliau, galluoedd a chysylltiadau pobl sy’n darparu, arwain a dylunio gofal a chymorth yng Nghymru, i gael gafael ar dystiolaeth o ansawdd uchel a’i defnyddio.

Bydd hyn yn helpu i wneud y canlynol:

  • cefnogi awdurdodau lleol i weithredu Fframwaith Perfformiad a Gwella Llywodraeth Cymru
  • cefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr i gyflawni’r Cod Ymarfer Proffesiynol
  • crynhoi gweithgarwch sy’n gysylltiedig ag ymchwil a thystiolaeth yng Nghymru yn un cynnig cydlynol
  • gwella canlyniadau i bobl sy’n defnyddio gofal a chymorth a’r gweithlu.

Sut aethom ni ati i ddatblygu’r cynnig tystiolaeth

Er mwyn ein helpu ni i adeiladu’r cynnig tystiolaeth hwn, aethom ati i ymgynghori â staff awdurdodau lleol, llunwyr polisi ac, ymchwilwyr. Hefyd, fe wnaethom ni gomisiynu ymchwil i archwilio sut mae pobl sy’n darparu, arwain a dylunio gofal a chymorth yn deall ac yn defnyddio tystiolaeth. Roeddem am ddarganfod beth sy’n atal a beth sy’n cefnogi pobl i ddefnyddio tystiolaeth, i’n helpu ni i ddeall y ffordd orau o ddarparu cymorth.

Clywsom sawl ffactor allweddol sy’n dylanwadu ar y defnydd o dystiolaeth:

  • amser: roedd diffyg amser a ‘llonydd i feddwl’ yn thema gref a chyson
  • sgiliau a chymwysterau: roedd diffyg hyder a sgiliau wrth ddod o hyd i dystiolaeth a’i defnyddio ac ymgymryd ag ymchwil yn thema gyson
  • mynediad: diffyg mynediad at gyfnodolion, cronfeydd data a ffynonellau ymchwil a gwybodaeth eraill
  • cymhelliant a meddylfryd: mae’r ffordd mae sefydliadau’n defnyddio tystiolaeth
    yn aml yn cael ei llywio gan bobl benodol. Mae dibynnu ar unigolion yn aml yn arwain at ddiffyg strwythur clir ar gyfer cynhyrchu a defnyddio tystiolaeth
  • defnyddioldeb: galwodd pobl am dystiolaeth gryno mewn iaith glir, mewn un lle, gyda negeseuon ymarfer wedi’u hesbonio’n glir
  • perthnasoedd a chydweithio: mae trafodaeth â chydweithwyr yn hanfodol i ymarferwyr rheng flaen. Mae perthnasoedd da a pharhaus rhwng ymchwilwyr a llunwyr polisi/ymarferwyr yn helpu i hyrwyddo ymchwil sydd wedi’i chynllunio’n dda sy’n fwy tebygol o gael effaith
  • cymhwysedd: dywedodd pobl y byddai tystiolaeth yn cael mwy o effaith pe gellid ei chymhwyso’n hawdd i’w gwaith ac os yw’n berthnasol yng Nghymru
  • cyd-destun deddfwriaethol a pholisi: ystyrir bod gwybodaeth am ddeddfwriaeth a pholisi yn hanfodol i staff awdurdodau lleol
  • tystiolaeth ddibynadwy: mae pobl yn ei chael hi’n anodd canfod a yw ymchwil yn ddibynadwy ac a ellir ei chymhwyso i’w gwaith
  • arweinyddiaeth a diwylliant: fe’u hystyrir yn sbardun allweddol i ‘feddylfryd ymchwil’ o fewn sefydliadau ac a neilltuir amser i weithio gyda thystiolaeth
  • tystiolaeth amserol: rhaid i dystiolaeth fod ar gael ar yr adeg iawn, pan ofynnir y
    cwestiynau

Ar gyfer pwy mae’r cynnig tystiolaeth?

Eiconau o dri person ar ffurf cartwn

Rydym wedi datblygu ein cynnig tystiolaeth i gefnogi pobl a sefydliadau sy’n defnyddio tystiolaeth.

Er enghraifft, awdurdodau lleol (gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr, arweinwyr a chomisiynwyr), darparwyr a llunwyr polisïau.

Bydd hefyd yn cefnogi pobl a sefydliadau sy’n cynhyrchu ac yn rhannu tystiolaeth. Er enghraifft, partneriaid cyfnewid gwybodaeth, ymchwilwyr a llunwyr polisi.

Rheolwr hyfforddi a datblygu:

"Mae angen arnom enghreifftiau pendant o ymchwil gyda chysylltiadau clir a chryf ag ymarfer – bydd hyn yn ein helpu ni i ddatblygu ein defnydd o ymchwil a thystiolaeth ac ennyn diddordeb ac ymrwymiad gan dimau."

Gweithiwr cymdeithasol:

"Mae angen amser arnom ni... a chyfleoedd dysgu a chysgodi i’n cefnogi. Rydw i eisiau rhywle i ddod o hyd i adnoddau ymchwil."

Ymchwilydd:

"Rydw i am rannu fy ymchwil er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn."

Gweithiwr gofal:

"Mae fy swydd fel gweithiwr gofal yn werth chweil ond yn ddwys – mae angen canllawiau arna’i a chyfle i fyfyrio ar yr hyn rwy’n ei wneud."

Comisiynydd:

"Gyda llai o adnoddau, mae angen i mi ddod o hyd i atebion effeithiol i’r argyfwng ym maes gofal cymdeithasol i oedolion i wneud fy ngwaith."

Rheolwr ar gyfer darparwr gofal annibynnol:

"Rwy’n rheoli gwasanaeth lle rydyn ni’n jyglo go iawn – rydw i am wybod pa dystiolaeth sydd y tu ôl i’r hyn y dylem neu y gallem ei wneud."

Ein dull gweithredu: ysgogi gwybodaeth

Cylch yn dangos sut i ddatblygu galluoedd, drwy lledaenu, cyfnewid, broceru a chyd-greu
Rydyn ni'n ysgogi gwybodaeth drwy gyfnewid, broceru, cyd-greu a lledaenu.
Ysgogi gwybodaeth

Rydym yn ystyried ysgogi gwybodaeth fel pum maes gweithgaredd sy’n fframwaith ar gyfer ein cynnig tystiolaeth:

Lledaenu

Byddwn yn:

  • gweithio ag eraill i flaenoriaethu pynciau a darganfod neu chynhyrchu crynodebau o dystiolaeth ac adroddiadau ymchwil ar gyfer materion sy’n dod i’r amlwg
  • hyrwyddo ymchwil o ansawdd da ar gyfer pynciau â blaenoriaeth
  • gweithio gyda sefydliadau i sicrhau mynediad at gyfrolion
  • cyd-ddylunio a chyflwyno platfform digidol i greu pwynt mynediad ar gyfer ymchwil a thystiolaeth.

Cyfnewid

Byddwn yn:

  • hyrwyddo cyfleoedd ac adnoddau dysgu gan bartneriaid
  • adeiladu rhwydweithiau ogwmpas pynciau â blaenoriaeth
  • cydweithio â phartneriaid cyfnewid gwybodaeth.

Broceru

Byddwn yn:

  • mapio strwythurau ymchwil a thystiolaeth o fewn awdurdodau lleol, canolfannau ymchwil a’r trydydd sector
  • hwyluso cysylltiadau a chydweithio rhwng awdurdodau lleol, ymchwilwyr
    ac eraill
  • creu map rhyngweithiol o ymchwil
  • cyd-ddylunio a chyflwyno platfform digidol sy’n cefnogi
    rhwydweithiau a chydweithio.

Cyd-greu

Byddwn yn:

  • ymgysylltu ag awdurdodau lleol i adnabod bylchau yn y dystiolaeth
  • hwyluso defnydd ymchwil i ddatblygu offer ac adnoddau ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  • cytuno a datblygu adnoddau i gefnogi cyd-greu.

Meithrin gallu a sgiliau

Byddwn yn cefnogi pobl i:

  • ganfod, cyrchu, defnyddio, cymhwyso a chynhyrchu tystiolaeth
  • creu amgylcheddau ar gyfer dysgu lle mae tystiolaeth yn cael ei gwerthfawrogi
  • datblygu eu sgiliau tystiolaeth drwy gynnwys dulliau meithrin gallu a sgiliau mewn cyfleoedd dysgu a datblygu presennol.

Gwyddom fod rhoi tystiolaeth ar waith yn gallu bod yn heriol. Dydy helpu pobl i gael gafael ar dystiolaeth, hyd yn oed pan fydd wedi’i chrynhoi a’i dosbarthu, ddim yn gwarantu y bydd yn cael ei rhoi ar waith yn y byd go iawn!

Dyna pam mae ein cynnig tystiolaeth yn seiliedig ar ddulliau ysgogi gwybodaeth. Mae ysgogi gwybodaeth yn broses fwy gweithredol sy’n canolbwyntio ar wneud tystiolaeth a gwybodaeth yn fwy hygyrch, a chysylltu a meithrin perthynas er mwyn helpu pobl i wneud synnwyr o dystiolaeth a’i chymhwyso i’w bydoedd eu hunain. Mae hyn yn gwella cynllunio, ymarfer, llunio polisïau a chanlyniadau i bawb.

Datblygu galluoedd

Datblygu galluoedd pobl i ddeall, defnyddio, syntheseisio a chynhyrchu ymchwil.

Lledaenu

  • gwefan
  • cyflwyniadau
  • papurau neu adroddiadau ymchwil
  • fideos ac animeiddiadau
  • darlledu

Cyfnewid

  • gweithdai
  • cynadleddau
  • gweminarau
  • trafod ar y cyfryngau cymdeithasol
  • rhannu.

Broceru

  • hysbysu
  • cysylltiadau
  • mentora
  • paru
  • cysylltu.

Cyd-greu

  • deialog
  • ymchwil weithredu
  • cyd-gynhyrchu offer ac adnoddau
  • nodi bylchau
  • gwneud ar y cyd.

Mae ein hymgynghoriad, ein hymchwil a’n profiad yn dweud wrthym fod angen cynorthwyo a galluogi’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru ym mhob un o’r pum maes gweithgarwch, ond ceir yr effaith wirioneddol drwy froceru a chyd-greu.

Bydd ein cynnig tystiolaeth ffurfiol yn cael ei wireddu dros gyfnod o dair blynedd, ym mhob un o’r pum maes, ond gyda phwyslais cynnar ar froceru a gweithio gyda phartneriaid ar gyd-greu.

Lledaenu - darlledu

Byddwn yn cefnogi awdurdodau lleol i flaenoriaethu pynciau, gan eu helpu i benderfynu ble mae angen tystiolaeth arnynt i’w hysbysu ar faterion cyfredol, neu gynllunio ar gyfer materion newydd a rhai sy’n dod i’r fei. Byddwn yn comisiynu crynodebau o dystiolaeth ac adroddiadau ymchwil lle ceir bylchau yn y dystiolaeth ac yn sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael arnynt. Byddwn hefyd yn hyrwyddo ymchwil o safon uchel sy’n berthnasol i ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym yn datblygu gwefan i gefnogi pobl sy’n darparu gofal cymdeithasol a chymorth i gael gafael ar ymchwil, data a thystiolaeth o ansawdd uchel a’u defnyddio.

Rydym yn gweithio ar sicrhau mynediad i ymarferwyr at gyfnodolion ac ar ddod o hyd i ateb o ran atgyfeirio i ymchwil gofal cymdeithasol a dogfennau polisi ar gyfer Cymru. Ynghyd â’r porth data gofal cymdeithasol, bydd hyn yn rhan annatod o’r agweddau digidol ar ein cynnig tystiolaeth.

Cyfnewid - rhannu

Byddwn yn canolbwyntio ar gydweithio, fel y gallwn hyrwyddo cyfleoedd dysgu a rhannu gwybodaeth gan bartneriaid fel ExChange, Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) a Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP).

Byddwn yn meithrin ein cysylltiadau â sefydliadau ar draws y gwledydd eraill sy’n cynnig adnoddau a digwyddiadau gwybodaeth, megis y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE), Making Research Count, Iriss a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), gan sicrhau eu perthnasedd i Gymru bob amser.

Byddwn yn datblygu ac yn cynllunio digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth gyda phartneriaid ac yn cefnogi’r gwaith o gynllunio a chyflwyno eu digwyddiadau.

Byddwn yn mynd ati’n ddyfal i ddefnyddio ein rhwydweithiau, ein gwefan
a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu i sicrhau bod cyfleoedd
dysgu yn hysbys ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn hytrach nag
i rai pobl wybodus yn unig.

Broceru – cysylltu pobl

Mae hwyluso cysylltiadau rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr yn flaenoriaeth bwysig i ni. Rydym wedi dechrau creu perthnasau drwy estyn allan at bob awdurdod lleol i greu darlun o’r strwythurau a’r prosesau sydd eisoes ar waith, i helpu i nodi’r hyn y gallwn ni ei wneud i gefnogi a galluogi datblygiad pellach a phartneriaethau. Rydym hefyd yn estyn allan at academyddion ac ymchwilwyr ledled Cymru, i wneud a chynnal cysylltiadau.

Mae’r prosiect hwn hefyd wedi cynnwys nodi hyrwyddwyr tystiolaeth ym mhob awdurdod fel y gallwn ni hwyluso rhwydwaith tystiolaeth. Bydd hyn yn dwyn ynghyd ymarferwyr ac arweinwyr ymchwil i rannu gwybodaeth a syniadau ac i hyrwyddo ac annog arferion a gyfoethogir gan dystiolaeth.

Byddwn hefyd yn datblygu cynnig cymorth ymchwil, gan hwyluso cymorth rhwng cyfoedion i ymarferwyr sy’n dechrau ar ymchwil academaidd neu’n ymgymryd ag ymchwil ymarfer yn eu lleoliadau gwaith.

Byddwn yn cyd-ddylunio ac yn cynnwys map ymchwil rhyngweithiol ar ein gwefan i helpu i gysylltu ymarferwyr yng Nghymru ag ymchwilwyr, gyda’r wefan yn cyfrannu at gefnogi’r cysylltiadau a’r rhwydweithiau hyn drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a thrafod ar-lein.

Cyd-greu – gwneud gyda’n gilydd

Byddwn yn cynnal ymarferion pennu blaenoriaethau gydag awdurdodau lleol i nodi lle mae angen tystiolaeth arnynt, gan ddefnyddio gwybodaeth ac adborth o’n rhwydweithiau a’n prosiect Mapio a Chysylltu. Byddwn yn hwyluso prosiectau ymchwil i ddatblygu offer ac adnoddau ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd ein pwyslais ar offer ac adnoddau sy’n hyrwyddo cyd-greu, megis cymunedau ymarfer, setiau dysgu gweithredol a dulliau gweithredu’r Rhaglen DEEP.

Rydym yn gweithio gyda’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth i sicrhau bod ein cynnig tystiolaeth yn gweithio’n dda i ddarparwyr gofal. I wneud hyn, byddwn yn defnyddio dull cadarnhaol sy’n seiliedig ar gryfderau i wrando ar leisiau gweithwyr gofal rheng flaen ac yn cydweithio â phartneriaid gan gynnwys ENRICH (‘Enabling Research in Care Homes’) Cymru a DEEP.

Byddwn yn ymgysylltu â sefydliadau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a gofalwyr i ‘brofi’ ein cynnig tystiolaeth gyda phobl sydd â phrofiad bywyd, gan adeiladu ar y gwaith rydym wedi’i wneud gyda gofalwyr i glywed eu barn ar y defnydd o ymchwil a data.

Capasiti a gallu - meithrin sgiliau

Mae meithrin y capasiti a’r gallu iawn yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn sail i’n dull o ysgogi gwybodaeth ac yn ymateb i’r hyn a glywsom gan bobl heb fawr o hyder yn eu gallu i gael gafael ar dystiolaeth, ei chymhwyso a’i chynhyrchu.

Byddwn yn datblygu ffyrdd o helpu i uwchsgilio ymarferwyr i’w hannog i deimlo’n hyderus wrth wneud ymchwil. Un o’r ffyrdd y byddwn yn gwneud hyn yw drwy ddatblygu cwricwlwm ar gyfer DEEP. Bydd hyn yn cynnwys:

  • meithrin sgiliau ar gyfer casglu, asesu a chyflwyno tystiolaeth
  • siarad a dysgu gyda’i gilydd gan ddefnyddio tystiolaeth
  • rhoi dysgu ar waith
  • galluogi arweinwyr i greu amgylcheddau ar gyfer dysgu.

Rydym yn edrych ar sut y gellir cynnwys y cwricwlwm hwn, yn ogystal â mentrau meithrin gallu eraill, mewn cyfleoedd dysgu sy’n bodoli eisoes, yn enwedig y fframwaith ôl-gymhwyso gwaith cymdeithasol newydd.

Byddwn yn egluro’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi’r defnydd o dystiolaeth fel y gallwn ni nodi lle mae bylchau a mynd i’r afael â’r rhai sydd â chyfleoedd datblygu. Byddwn hefyd yn hyrwyddo mentrau meithrin capasiti sydd eisoes ar gael i ofal cymdeithasol, gan gynnwys yr hyn a gynigir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a CASCADE.

Ein cynnig ar waith

Byddwn yn cynnal ymarfer pennu blaenoriaethau ffurfiol gydag awdurdodau lleol bob tair blynedd, gan adolygu a dilysu’r rhestr flaenoriaethau bob blwyddyn i gadarnhau’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Byddwn hefyd yn nodi themâu sy’n dod i’r fei drwy:

  • edrych ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’i Gweinidogion
  • dadansoddi ein data cofrestru ac addasrwydd i ymarfer
  • ystyried yr adborth rydym yn ei dderbyn drwy ein rhwydwaith tystiolaeth a’n partneriaid.
Sut mae'n gweithio
  1. Cytuno ar y gofyniad am bwnc newydd
  2. Cyfnewid gwybodaeth arbenigwyr/ymarferwyr
  3. Adolygu a syntheseiddio tystiolaeth
  4. Cytuno ar adnoddau a’u dylunio
  5. Cynhyrchu adnoddau ffisegol/rhyngweithiol
  6. Cyflwyno digwyddiadau, gweithdai a chyrsiau wyneb yn wyneb a/neu yn rhithwir
  7. Darparu cymorth datblygu i grwpiau cwsmeriaid
  8. Cynnal gwerthusiad effaith.
Ein cynnig tystiolaeth ar waith

Adnoddau eraill

Dysgwch fwy am yr ymchwil y gwnaethom gomisiynu SCIE i’w wneud a lywiodd ein cynnig tystiolaeth: Using evidence in social services and social care in Wales.

Nod ein cynnig tystiolaeth yw cefnogi awdurdodau lleol i weithredu Fframwaith Perfformiad a Gwella Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 21 Medi 2022
Diweddariad olaf: 23 Tachwedd 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (47.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch