CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Defnydd o dystiolaeth ym maes gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Comisiynwyd y gwaith ymchwil hwn i archwilio sut mae pobl sy’n gweithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn deall a defnyddio ‘tystiolaeth’. Mae ein diffiniad o dystiolaeth yn cynnwys gwaith ymchwil ffurfiol, lleisiau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr, doethineb a gwybodaeth ymarferwyr, sefydliadau a llunwyr polisiau.

Crynodeb gweithredol

Yn 2018, cyhoeddodd Gofal Cymdeithasol Cymru Strategaeth ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol i Gymru 2018−2023 mewn partneriaeth ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Amlinellodd uchelgais i weld tystiolaeth yn cael ei hymsefydlu mewn polisi ac arferion ym maes gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Dylai arferion sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth neu sy’n cael eu llywio gan dystiolaeth arwain at ganlyniadau gwell i bobl sy’n defnyddio gofal a chymorth cymdeithasol. Fodd bynnag, mae heriau’n gysylltiedig â rhoi tystiolaeth ar waith, felly mae’n anodd bod yn sicr pryd a sut mae buddsoddiad mewn ymchwil gofal cymdeithasol yn gwella canlyniadau i bobl.

O waith ymchwil presennol, rydym yn gwybod bod defnyddio tystiolaeth yn gallu bod yn heriol am amryw resymau. Mae’r rhwystrau’n cynnwys:

  • y swm uchel o dystiolaeth ac ymchwil, y mae’n anodd cynnal ymwybyddiaeth ohono
  • diffyg cymorth i roi tystiolaeth ar waith, hyd yn oed pan fydd ar gael mewn fformat cryno a defnyddiadwy
  • canfyddiadau ymchwil sy’n dyddio’n gyflym.

Ar yr un pryd, mae pethau sy’n helpu i ddefnyddio tystiolaeth yn cynnwys:

  • sicrhau bod adroddiadau ymchwil yn cynnwys negeseuon clir i ymarferwyr
  • cyfuno gwaith ymchwil a thystiolaeth ffurfiol â barn broffesiynol a’r cyd-destun lleol
  • cyfle, cymhelliad a sgiliau yn y gweithlu gofal cymdeithasol i ddefnyddio tystiolaeth
  • perthnasoedd cryf rhwng ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisïau.

Canolbwyntiodd yr astudiaeth hon yn benodol ar yr heriau a’r galluogwyr o ran defnyddio tystiolaeth ym maes gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cododd y bobl y siaradasom â nhw rai o’r pwyntiau hyn, gan eu gosod yng nghyd-destun Cymru, ac amlygodd eraill rai a oedd yn benodol i weithio yng Nghymru.

Roedd grŵp llywio, wedi’i ffurfio o gynrychiolwyr o awdurdodau lleol, ymchwil, Llywodraeth Cymru, y trydydd sector a byrddau partneriaeth rhanbarthol, Gofal Cymdeithasol Cymru a SCIE wedi helpu i ffurfio’r gwaith ymchwil hwn.

Trosolwg o’r prosiect

Comisiynodd Gofal Cymdeithasol Cymru y gwaith ymchwil hwn i archwilio sut mae pobl sy’n gweithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn deall a defnyddio ‘tystiolaeth’. Mae ein diffiniad o dystiolaeth yn cynnwys gwaith ymchwil ffurfiol, lleisiau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr, doethineb a gwybodaeth ymarferwyr, sefydliadau a llunwyr polisiau.

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE), ac mae’r canfyddiadau’n helpu Gofal Cymdeithasol Cymru i ffurfio ei strategaeth a’i ymagwedd ar gyfer cefnogi’r defnydd o dystiolaeth.

Casglwyd y rhan fwyaf o’r data trwy grwpiau ffocws wyneb yn wyneb, lled-strwythuredig rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2020, gyda rhywfaint o waith ychwanegol ym mis Medi 2020. Cynhaliwyd y cam hwn o’r gwaith ymchwil gyda staff rheng flaen, rheolwyr, a phobl sy’n gweithio ym maes polisi neu ymchwil. Yn ystod camau nesaf y gwaith ymchwil, byddwn yn siarad â sefydliadau darparu a sefydliadau a arweinir gan bobl a gofalwyr sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.

Canfyddiadau allweddol

Ffactorau sy’n dylanwadu ar ddefnyddio tystiolaeth

Disgrifiodd y cyfranogwyr rwystrau a hwyluswyr o ran defnyddio tystiolaeth:

  • Amser: roedd diffyg amser a ‘lle i feddwl’ yn thema gyson, ac yn rhwystr penodol i staff rheng flaen. Teimlai llunwyr polisïau a phobl eraill a oedd yn gwneud penderfyniadau y gallai’r diffyg amser i fyfyrio ar ganfyddiadau, gan gynnwys gwaith ymchwil yr oeddent wedi’i gomisiynu, ei rwystro rhag cael ei weithredu.
  • Mynediad: rhwystr allweddol a amlygwyd oedd diffyg mynediad at gyfnodolion, cronfeydd data a storfeydd eraill o ganlyniad i waliau talu.
  • Defnyddioldeb: roedd pobl yn galw am dystiolaeth gryno, gyda negeseuon ar gyfer ymarfer wedi’u pwysleisio. Mae hyn yn berthnasol i amryw fathau o dystiolaeth, gan gynnwys canllawiau ymarfer, ymchwil a gwybodaeth ddeddfwriaethol.
  • Perthnasedd: dywedwyd bod tystiolaeth yn fwy defnyddiol o lawer ac yn cael effaith fwy o lawer os oedd yn berthnasol i waith beunyddiol. Amlygwyd diffyg tystiolaeth penodol i Gymru hefyd.
  • Tystiolaeth ddibynadwy: yn aml, roedd yn anodd i bobl gael gwybod neu benderfynu p’un a oedd gwaith ymchwil yn ddibynadwy ac yn briodol i’w nodau. Amlygodd ymchwilwyr y gallai cyllid a graddfeydd amser cyfyngedig leihau ansawdd tystiolaeth.
  • Sgiliau a chymwysterau: roedd diffyg sgiliau a hyder i ddod o hyd i dystiolaeth a’i defnyddio, a chynnal gwaith ymchwil, yn thema gyson.
  • Cymhelliad, cefnogaeth a ffordd o feddwl: gallai ‘ymchwilfrydedd’ sefydliad gael ei ffurfio gan unigolion, ac roedd y ddibyniaeth ar gymhelliad unigol yn golygu diffyg strwythur ffurfiol i ddefnyddio gwaith ymchwil mewn sefydliadau.
  • Perthnasoedd a rhannu gwybodaeth: ystyriwyd bod perthnasoedd yn hollbwysig – ystyriwyd bod trafod gyda chydweithwyr yn allweddol i ymarferwyr rheng flaen. Gwelwyd bod perthnasoedd parhaus rhwng ymchwilwyr a llunwyr polisïau/ymarferwyr yn hyrwyddo gwaith ymchwil wedi’i gynllunio’n dda a oedd yn fwy tebygol o gael effaith.
  • Cyd-destun deddfwriaethol a pholisi: mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth a pholisïau yn ganolog i staff awdurdod lleol sy’n cyflawni swyddogaeth statudol yn bennaf. Fodd bynnag, roedd llawer yn nerfus ynghylch cael eu herio ynglŷn â’r dystiolaeth ymchwil a ddewiswyd ganddynt, yn enwedig mewn amgylchedd llys.
  • Gwerthoedd a phrofiad bywyd: mae gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn hyrwyddo’r defnydd o ‘lais defnyddwyr gwasanaeth’ fel math o dystiolaeth. Er bod deddfwriaeth a pholisïau’n pwysleisio safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, roedd gwerthoedd parch a grymuso yn bwysig hefyd wrth gynnwys safbwyntiau pobl â phrofiad bywyd.
  • Arweinyddiaeth a diwylliant: ystyriwyd bod hyn yn bwysig ac yn allweddol i sbarduno ymchwilfrydedd mewn sefydliadau a ph’un a oedd amser yn cael ei neilltuo i ymwneud â thystiolaeth.
  • Cyllid: yn aml, ystyriwyd bod hyn yn rhwystr rhag cynhyrchu a gwerthuso ymchwil a thystiolaeth – cael gafael arni, chwilio amdani, gwirio ei hansawdd a’i deall, yn ogystal â rhoi tystiolaeth ar waith yn ymarferol.

Mentrau a syniadau i gefnogi’r defnydd o dystiolaeth

Archwiliodd y cyfranogwyr ba fentrau sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd i gefnogi’r defnydd o dystiolaeth yng Nghymru, yn ogystal â syniadau ar gyfer y dyfodol i gynyddu’r defnydd o dystiolaeth ymhellach.

Arweinyddiaeth a diwylliant

Dywedodd rhai fod angen i weithgarwch ym maes ‘tystiolaeth gofal cymdeithasol’ yng Nghymru gael ei arwain a’i oruchwylio. Gallai hyn gyfuno gwaith cysylltiedig, sicrhau’r effaith fwyaf a lleihau dyblygu.

Trafododd y cyfranogwyr hefyd sut i ddatblygu diwylliant ‘ymchwilfrydedd’ mewn sefydliadau fel awdurdodau lleol, ar lefel tîm a sefydliad. Roedd syniadau’n cynnwys trafod gwaith ymchwil a thystiolaeth yn ystod goruchwyliaeth, cefnogi presenoldeb mewn digwyddiadau a chynadleddau, a neilltuo amser i ymwneud â thystiolaeth a myfyrio.

Dulliau o gael at dystiolaeth a’i harchwilio

Adnodd ar-lein oedd un o’r awgrymiadau cryfaf ar draws grwpiau rhanddeiliaid. Byddai’n adnodd canolog, cyfunol a hygyrch sy’n crynhoi tystiolaeth berthnasol, gyfredol a dibynadwy. Galwodd rhai hefyd am adnodd chwiliadwy o’r holl brosiectau ymchwil cyfredol, a gwblhawyd ac a gynlluniwyd er mwyn osgoi dyblygu a chynyddu cyfleoedd i ffurfio cysylltiadau. Nodwyd heriau hefyd yn ymwneud ag adnoddau canolog a’r swm uchel o wybodaeth sydd ar gael.

Hyfforddiant wyneb yn wyneb: Thema gref ymhlith rhanddeiliaid awdurdodau lleol oedd bod hyfforddiant yn gweithio orau pan oedd ganddo gymhwysiad ymarferol a phan oedd yn rhoi offer i’w defnyddio’n ymarferol.

Mentrau awdurdod lleol neu ryng-asiantaeth: Rhoddodd llawer o randdeiliaid awdurdodau lleol enghreifftiau o ddigwyddiadau mewnol a rhyng-asiantaeth, gan gynnwys cynadleddau, diwrnodau rhyng-dîm/ diwrnodau cwrdd i ffwrdd, goruchwylio grwpiau a sesiynau myfyriol. Yn ogystal, galwodd rhai aelodau staff nad oeddent yn gweithio ar y rheng flaen am rannu data’n well rhwng asiantaethau, i goladu gwybodaeth ac osgoi dyblygu, weithiau’n seiliedig ar achosion. Roedd y mentrau hyn yn gofyn am berthnasoedd da ac arweinyddiaeth gefnogol.

Digwyddiadau a chydweithio ar draws ymarfer, polisi ac ymchwil

Roedd enghreifftiau ac awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau a chydweithio yn cynnwys:

  • ExChange – ystyriwyd bod y fforwm presennol hwn yn ddefnyddiol, gan gynnwys y cyfleoedd i ofyn cwestiynau i ymchwilwyr ac amlygu cysylltiadau ag ymarfer.
  • Cymunedau Ymholi – roedd y rhain yn cael eu gwerthfawrogi, yn enwedig natur ryngweithiol a chefnogol y digwyddiadau hyn, lle’r oedd pobl yn archwilio tystiolaeth.
  • Rhwydweithiau ymarfer – ystyriwyd bod y rhain yn gyfleoedd defnyddiol i rannu arfer gorau.
  • Ymsefydlu gwaith ymchwil mewn rhwydweithiau a rhaglenni gwaith presennol – awgrymwyd hyn fel ffordd o annog pobl newydd i ymwneud â gwaith ymchwil a rhannu gwybodaeth.
  • Cydweithredu a chydweithio’n barhaus – awgrymwyd hyn gan ymchwilwyr fel modd o gynyddu cyd-ddealltwriaeth a chryfhau cysylltiadau, yn enwedig gan fod rhwydweithio’n cael ei ystyried yn annigonol. Er enghraifft, gallai ymchwilwyr dreulio diwrnod yr wythnos mewn lleoliadau polisi neu ymarfer, neu fel arall.

Ymchwil ymarfer a chydgynhyrchu

Galwodd llawer o’r cyfranogwyr am strwythur a strategaeth ynglŷn â gwaith ymchwil mewn awdurdodau lleol, a fyddai’n galluogi mwy o ymchwil ymarfer. Galwodd rhai am efelychu’r cynlluniau, y strwythur a’r cyllid sydd ar gael yn y sector iechyd.

Arbenigo a datblygiad

Roedd llawer o’r awgrymiadau ynglŷn â galluogi a chynyddu’r defnydd o dystiolaeth ymhlith ymarferwyr a thimau yn canolbwyntio ar unigolion yn uwchsgilio a datblygu arbenigedd. Ystyriwyd bod hynny’n fodd o fynd i’r afael â diffyg hyder a chymhelliad. Argymhellwyd cysylltu hyn â phrosesau arfarnu a datblygiad proffesiynol parhaus presennol.

Cyllid a mynediad at gronfeydd data

Roedd materion strwythurol cyllid yn berthnasol i lawer o’r syniadau a’r mentrau hyn. Roedd awgrymiadau penodol yn cynnwys cyllido arweinwyr tystiolaeth neu ymchwil mewn awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, mwy o gyfleoedd wedi’u cyllido i staff awdurdodau lleol astudio, cyllido gwasanaethau arloesol yn y tymor hir, ac adnoddau a chapasiti ymhlith llunwyr polisïau i weithredu canfyddiadau ymchwil trwy seilwaith gweithredu wedi’i gryfhau. Roedd pobl o’r holl grwpiau rhanddeiliaid eisiau i ymarferwyr a llunwyr polisïau gael mynediad at gyfnodolion a chronfeydd data eraill yn ymwneud â thystiolaeth. Fodd bynnag, dywedodd llawer hefyd nad oedd erthyglau cyfnodolion yn ddigon defnyddiadwy a chryno i ymarferwyr.

Egwyddorion arweiniol ac argymhellion

Daeth grŵp llywio’r gwaith ymchwil, sef Gofal Cymdeithasol Cymru, y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE), cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, ymchwil, y llywodraeth, y trydydd sector a byrddau partneriaeth rhanbarthol, at ei gilydd i drafod y canfyddiadau allweddol ac awgrymu mentrau ar gyfer gwella. Gyda’i gilydd, datblygodd y grŵp hwn chwe argymhelliad a phedair egwyddor arweiniol sy’n sail iddynt.

Yr egwyddorion arweiniol sy’n sail i’r holl argymhellion:

  • Natur ganolog perthnasoedd: mae perthnasoedd rhyngbersonol a gweithio ar y cyd yn bwysig er mwyn galluogi pobl i gael at dystiolaeth, ei deall a’i defnyddio.
  • Ffurfio partneriaeth a chydweithio: cynyddu cydweithio i’r eithaf rhwng ymarfer, polisi, ymchwil a phobl sydd â phrofiad bywyd, wrth ddylunio gwasanaethau, cynnal gwaith ymchwil a datblygu a rhannu tystiolaeth.
  • Ymarferol a gweladwy: dylai tystiolaeth, p’un a gaiff ei chyfleu trwy hyfforddiant, crynodebau ysgrifenedig neu ddulliau eraill, ddarparu gwybodaeth a/ neu offer ymarferol a pherthnasol i helpu staff gofal cymdeithasol i’w defnyddio.
  • Defnyddio ymagwedd system gyfan: cydnabod rhwystrau a hwyluswyr ar draws y system, gan gynnwys arweinyddiaeth, diwylliant a ffactorau ymarferol/ strwythurol. Gwneud cysylltiadau rhwng lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Chwe argymhelliad:

  • Amlygu cyfleoedd i hwyluso cydweithio, rhwydweithio a rhannu gwybodaeth ar draws ymchwil, polisi ac ymarfer. Ychwanegu at rwydweithiau a modelau presennol.
  • Archwilio cyfleoedd ar gyfer adnodd digidol canolog sy’n darparu mynediad at dystiolaeth berthnasol, gyfredol a dibynadwy mewn fformat clir a chryno. Yn gyntaf, archwilio p’un a fyddai mynediad at adnoddau digidol presennol yn bodloni’r angen hwn. Yn ogystal, mynd i’r afael â mynediad at gyfnodolion.
  • Ystyried datblygu adnodd chwiliadwy o’r holl brosiectau ymchwil cyfredol, a gwblhawyd ac a gynlluniwyd yng Nghymru. Yn ogystal, ystyried datblygu strategaeth a strwythur ynglŷn â chyfleoedd ar gyfer ymchwil ymarfer o fewn awdurdodau lleol.
  • Galluogi ymarferwyr i gael gwybodaeth arbenigol, trwy gymwysterau, ôl-gymhwyso a hyfforddiant a datblygiad parhaus.
  • Defnyddio ymagwedd system gyfan trwy gynorthwyo arweinwyr i sefydlu diwylliannau dysgu.
  • Ymchwilio i ddatrysiadau i fynd i’r afael â’r rhwystrau strwythurol rhag cynhyrchu a defnyddio tystiolaeth mewn awdurdodau lleol, a’u hamlygu – digon o amser a chyllid priodol.

Adroddiad llawn - Defnyddio tystiolaeth ym maes gwasanaethau cymdeithasol a gofal

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn