CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Pleidleisiwch dros enillydd gwobr Gofalu trwy'r Gymraeg 2023
Newyddion

Pleidleisiwch dros enillydd gwobr Gofalu trwy'r Gymraeg 2023

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae pleidleisio nawr ar agor i ddewis enillydd ar gyfer Gofalu trwy'r Gymraeg 2023.

Mae’r wobr yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr gofal cyflogedig ym maes gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae pum gweithiwr o bob rhan o’r sectorau wedi’u dewis gan banel arbenigol o feirniaid i gyrraedd rownd derfynol gwobr eleni. Y pump sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw:

  • Ffion Hughes, gweithiwr cymdeithasol gyda Young Lives vs Cancer, Caerdydd
  • Jenny Thomas, gweithiwr cymorth yn Nhyddyn Môn, elusen sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu yn Ynys Môn
  • Menna Evans, gweithiwr cymorth yng Nghartref Preswyl Min y Môr, Ceredigion
  • Nikki Taylor, ymarferydd cyn oed ysgol, Cyn-ysgol Rydal Penrhos, Conwy
  • Ross Dingle, rheolwr ac arweinydd Chwarae Clwb Carco Limited, Caerdydd.

Rydyn ni nawr yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i bleidleisio dros y person maen nhw’n meddwl dylai gael ei goroni’n enillydd gwobr Gofalu trwy'r Gymraeg 2023.

Mae’r pleidleisio ar agor tan 5pm ar 31 Gorffennaf 2023 a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad i ddathlu yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan ar 10 Awst 2023.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Rydyn ni'n falch o gyhoeddi’r pump sydd wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Gofalu trwy'r Gymraeg 2023.

“Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol a diolch i bawb a enwebodd weithiwr gofal.

“Cawsom safon uchel o geisiadau ac mae'r pump sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dangos ehangder y gofal rhagorol sy’n cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru.

“Hoffwn annog pawb i ddangos eich cefnogaeth i wobr Gofalu trwy'r Gymraeg a’n pum cystadleuydd gwych yn y rownd derfynol drwy bleidleisio dros y gweithiwr gofal y credwch y dylid ei enwi’n enillydd.”