CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Pam mae’n hollbwysig ein bod yn dangos i’n gweithlu gofal cymdeithasol gymaint rydyn ni’n eu gwerthfawrogi
Newyddion

Pam mae’n hollbwysig ein bod yn dangos i’n gweithlu gofal cymdeithasol gymaint rydyn ni’n eu gwerthfawrogi

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddom ni ganlyniadau ein harolwg cyntaf erioed o’r gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.

Cymerodd mwy na 3,100 o weithwyr o ystod o rolau ran yn yr arolwg, a gynhaliwyd gennym ni gydag Opinion Research Services rhwng mis Mawrth a mis Mai eleni.

Gofynnodd yr arolwg i’r gweithlu roi eu barn i ni am bynciau fel iechyd a llesiant, cyflog ac amodau, a’r hyn maen nhw’n ei hoffi am weithio yn y sector.

Datgelodd y canlyniadau fod 63 y cant wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Dywedodd 76 y cant o weithwyr wrthym ni eu bod yn teimlo bod y bobl a’r teuluoedd maen nhw’n eu cefnogi yn eu gwerthfawrogi, ond dim ond 44 y cant a ddywedodd yr un peth am y cyhoedd.

Mae hyn yn arwydd clir fod angen i ni i gyd wneud mwy i gefnogi ein gweithlu ymroddedig a dangos iddynt gymaint rydyn ni’n gwerthfawrogi eu rôl hollbwysig a gwerthfawr wrth gefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed a’u teuluoedd yng Nghymru.

Dim ond 26 y cant o weithwyr a ddywedodd wrthym ni eu bod yn fodlon ar eu cyflog presennol, a dywedodd 33 y cant eu bod yn cael trafferth ymdopi’n ariannol.

Rydyn ni, Llywodraeth Cymru ac eraill yn gwneud llawer i gefnogi ein gweithwyr gofal cymdeithasol rhyfeddol, ond mae’r canlyniadau’n dangos bod angen i ni wneud mwy.

Un o’r ffyrdd rydyn ni’n ceisio cefnogi gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru yw trwy ddod â nhw at ei gilydd ar gyfer dwy gynhadledd yn yr hydref.

Bydd y cynadleddau, a drefnwyd gennym ni gyda BASW Cymru, yn dathlu gwaith ysbrydoledig gweithwyr cymdeithasol a’r effaith gadarnhaol maen nhw’n ei chael ar fywydau’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.

Nod y cynadleddau yw cyfleu neges glir i’n gweithwyr cymdeithasol ein bod ni, Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, cyflogwyr a’r cyhoedd yn gwerthfawrogi eu proffesiwn.

Byddwn ni’n defnyddio’r cynadleddau fel cyfle i amlygu’r ystod o adnoddau a chymorth sydd ar gael i ymarferwyr gwaith cymdeithasol a’u helpu i ofalu am eu llesiant yn effeithiol.

Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid i archwilio’r trefniadau hyfforddiant a chymorth sydd ar gael i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yng Nghymru, ac adolygu ein canllawiau i weithwyr cymdeithasol yn ystod eu tair blynedd cyntaf o ymarfer.

Fis diwethaf, gwnaethom ni lansio Gwobrau 2024, sef ein gwobrau blynyddol sy’n cydnabod, dathlu a rhannu gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar rhagorol yng Nghymru.

Nawr, mae’n bwysicach nag erioed i ni neilltuo amser i ddathlu’r gwaith gwych rydyn ni’n gwybod ei fod yn digwydd ar draws y sector gofal a dweud diolch i’n gweithlu ymroddedig ac ymrwymedig.

Rydyn ni’n awyddus i gael cynifer o geisiadau ac enwebiadau â phosibl ar gyfer gwobrau eleni i’n helpu i rannu’r enghreifftiau cadarnhaol hynny o wasanaethau a gweithwyr sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i fywydau pobl yng Nghymru.

Felly, os ydych chi’n dîm, yn brosiect neu’n sefydliad sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol, rwy’n eich annog i ymgeisio ar gyfer Gwobrau eleni fel y gellir cydnabod eich cyflawniadau.

Neu, os ydych chi’n gwybod am rywun sy’n gwneud bywydau pobl yn well trwy’r gofal a’r cymorth maen nhw’n eu darparu, beth am ei enwebu ar gyfer un o’n gwobrau i weithwyr a gwirfoddolwyr?

Dysgwch fwy am y Gwobrau 2024 a sut i ymgeisio neu enwebu gweithiwr