CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Dechrau chwilio am weithwyr sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg
Newyddion

Dechrau chwilio am weithwyr sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r enwebiadau nawr ar agor ar gyfer gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2023.

Mae’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wobr, sy’n cael ei noddi gan Gofalwn Cymru, yn agored i unrhyw weithwyr gofal cyflogedig sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar neu ofal plant yng Nghymru sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn hyn, rydyn ni’n gwahodd aelodau o'r cyhoedd, cyflogwyr a phobl sy’n gweithio yn y maes gofal i enwebu gweithiwr ar gyfer y wobr hon.

Gall y gweithiwr fod yn siarad Cymraeg yn rhugl, yn siarad ychydig o’r iaith neu’n dysgu, cyn belled â’i fod yn defnyddio'r iaith wrth ddarparu gofal a chymorth.

Bydd y bobl a gyrhaeddodd y rownd derfynol, yn ogystal â’u henwebwyr, yn cael eu gwahodd i ddod i ddigwyddiad i ddathlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen Llŷn ar 10 Awst.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “I bobl sy’n dewis siarad Cymraeg, mae cael gofal a chymorth gan rywun sy’n siarad eu hiaith yn rhan bwysig o gael gofal o ansawdd da, sy'n llawn urddas.

“Gobeithio y bydd y wobr hon yn rhoi cydnabyddiaeth i’r gweithwyr sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r angen am fwy o bobl sy’n gallu siarad yr iaith i weithio yn y maes gofal.”

Os hoffech chi enwebu gweithiwr, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi ffurflen enwebu, a dweud pam mae’r gweithiwr yn haeddu cael ei gydnabod, yn ogystal â’r gwahaniaeth mae’r gweithiwr yn ei wneud i fywydau’r bobl mae’n eu cefnogi drwy ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd angen i chi wneud yn siŵr bod y gweithiwr yn fodlon cael ei enwebu cyn anfon eich cais atom oherwydd os caiff ei ddewis fel un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, byddwn ni’n defnyddio ei stori i roi cyhoeddusrwydd i’r wobr a hyrwyddo’r pwysigrwydd o ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

26 Mehefin 2023 yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau.