CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Camau bach i gefnogi diwylliannau cadarnhaol: cyflwyno ein tudalennau llesiant newydd
Newyddion

Camau bach i gefnogi diwylliannau cadarnhaol: cyflwyno ein tudalennau llesiant newydd

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gennym dudalennau gwe newydd i gefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant i weithio tuag at lesiant gwell yn y gwaith.

Mae'r tudalennau gwe yn canolbwyntio ar y pethau bach y gallwch eu gwneud i reoli eich llesiant eich hun yn y gwaith. Mae cyngor i reolwyr hefyd, i’w helpu i ofalu am lesiant tîm.

Mae awgrymiadau ymarferol i'ch rhoi ar ben ffordd, a’ch cyfeirio at sefydliadau a all eich cefnogi gyda'r camau nesaf.

Mae'r tudalennau hyn yn ategu ein fframwaith llesiant, a lansiwyd gennym fis Hydref diwethaf.

"Lle gwych i ddechrau"

Meddai Rebecca Cicero, Rheolwr Gwella a Datblygu ar gyfer Llesiant:

"Dyw hi ddim bob amser yn bosib – nac yn ymarferol – i geisio newid diwylliant gweithle cyfan dros nos i fod yn fwy cadarnhaol, yn enwedig wrth i ni symud i gyfnod heriol o'r flwyddyn i'r sector gofal cymdeithasol.

"Ond rydyn ni'n gwybod bod llesiant gwell y staff yn arwain at well gofal, cyfraddau cadw uwch a sefydliad mwy effeithlon.

"Mae'r tudalennau hyn yn lle gwych i ddechrau meddwl am y pethau bach y gallwch chi eu gwneud i ddechrau'r daith honno."

Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu

I’r sefydliadau hynny sydd eisoes wedi cychwyn ar eu taith i greu diwylliannau cadarnhaol yn y gwaith, mae ein fframwaith llesiant yn ddefnyddiol fel cam ymlaen.

Bellach, mae ar gael mewn fformat mwy hygyrch ac mae'n cynnwys adnoddau i'ch helpu i wneud newidiadau parhaol, cadarnhaol i gefnogi gwell llesiant.