CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gofalu am lesiant eich tîm

Adnoddau i gefnogi lesiant aelodau'ch tîm.

Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu

Mae gan ein fframwaith adnoddau i helpu sefydliadau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant i greu gweithleoedd sy'n cefnogi llesiant i'r bobl sy'n gweithio iddynt.

Camau tuag at weithleoedd positif

Gall gweithleoedd positif alluogi staff i deimlo eu bod yn cymryd rhan, yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod eraill yn ymddiried ynddynt fel eu bod yn hapusach ac yn iachach yn y gwaith.

Mae'r rhain yn bethau y gallwch eu gwneud nawr i ddechrau adeiladu gweithle positif i'ch timau.

Bod yn arweinydd positif a chefnogol

Arweinyddiaeth dosturiol

Mae arweinyddiaeth dosturiol yn ffordd o arwain pobl. Mae’n canolbwyntio ar ddeall a gwrando ar bobl eraill, eu cefnogi a dangos empathi tuag atynt.

Mae'n ffordd dda o weithio, gan ei bod helpu'r bobl rydyn ni'n eu harwain i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu ac y gofelir amdanynt, fel y gallant gyrraedd eu potensial a gwneud y gorau yn eu gwaith.

Cewch fwy o wybodaeth am sut a pham mae'n gweithio ar y dudalen arweinyddiaeth dosturiol i reolwyr ar ein gwefan

Mae adnoddau gwych ar gael i'ch helpu i ddeall mwy am arweinydd tosturiol.

Efallai na fydd yr adnoddau hyn yn ddwyieithog nac mewn gwahanol ffurfiau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys sefydliadau eraill.

Cael sgyrsiau cefnogol yn y gwaith

Mae cyfathrebu da gydag unigolion a thimau yn allweddol i greu gweithle positif. Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i gael sgyrsiau cefnogol am waith neu lesiant.

Efallai na fydd yr adnoddau hyn yn ddwyieithog nac mewn gwahanol ffurfiau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys sefydliadau eraill.

  • Canllaw sgwrs am lesiant (i reolwyr) – Learning@Wales
    Mae hwn yn adnodd ar-lein ar gyfer gweithwyr y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae'n gyfres o gwestiynau i'ch helpu i wybod pa gymorth sydd ei angen ar yr unigolyn arall. Rydyn ni wedi gweithio gyda chyflogwyr y GIG, partneriaid undebau llafur a Llywodraeth Cymru i'w ddatblygu.

Cefnogaeth cyfoedion

Mae cysylltu â phobl eraill yn un ffordd o ofalu am eich llesiant.

Fel rheolwr, efallai y bydd angen cymorth arnoch i reoli'ch tîm yn well, neu efallai y bydd eich tîm yn elwa o siarad â phobl mewn rolau tebyg mewn man diogel. Mae cefnogaeth gan gyfoedion yn ffordd wych o wneud hyn.

Trwy feithrin perthynas dda â'ch cyfoedion gallwch gael:

  • syniadau neu ddysgu i'ch helpu chi i wneud eich swydd
  • cyfle i leisio eich profiadau mewn man diogel
  • cyfle i gael cyngor gan bobl sy'n mynd trwy brofiadau tebyg

Rydyn ni’n cynnal ein sesiynau cymorth gan gyfoedion ein hunain a gallwn eich hyfforddi i sefydlu eich grŵp cymorth gan gyfoedion eich hun.

Cadwch lygad am ein sesiynau nesaf ar ein tudalen digwyddiadau.

Angen help nawr

Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl a bod angen siarad arnoch, mae rhywun bob amser ar gael i wrando. Gall y llinellau cymorth am ddim hyn gynnig gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth i chi.

  • Samariaid
    Gallwch ffonio'r Samariaid am ddim 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ar 116 123. Os oes arnoch angen rhywun i siarad â nhw, byddan nhw'n gwrando. Ni fyddant yn barnu nac yn dweud wrthych beth i'w wneud.

    Os hoffech chi gael cefnogaeth emosiynol yn Gymraeg, gallwch ffonio'r llinell Gymraeg am ddim ar 0808 164 0123. Mae ar gael bob dydd, o 7pm tan 11pm.

  • Llinell gymorth C.A.L.L.
    Llinell gymorth sy’n cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol a chefnogaeth os oes angen i chi siarad â rhywun am eich iechyd meddwl. Mae ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
    Ffôn: 0800 132 737
    Tecstiwch ‘help’ i 81066

  • National bullying helpline
    Llinell gymorth i helpu chi ddarganfod pa gamau gallwch chi gymryd er mwyn delio gyda bwlio yn y gweithle. Mae ar gael yn Saesneg yn unig, dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.
    Ffôn: 0300 323 0169
  • SHOUT
    Gwasanaeth testun 24/7, am ddim ar bob prif rwydwaith ffôn symudol i unrhyw un mewn argyfwng, unrhyw bryd, unrhyw le.
    I gysylltu â SHOUT, tecstiwch ‘FRONTLINE’ i 85258
  • Childline
    Os ydych chi o dan 19 oed, gallwch ffonio 0800 1111 i gael cymorth iechyd meddwl.
  • GIG Cymru Gwasanaeth cyngor a gwybodaeth am iechyd yw GIG Cymru. Ffoniwch 111, mae ar gael 24 awr y dydd, bob dydd.

Rhwydwaith 'mae eich llesiant yn bwysig'

Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau a sesiynau rheolaidd am lesiant i reolwyr. Cadwch olwg ar ein tudalennau digwyddiadau.

Os hoffech ymuno â'n cymuned llesiant ar-lein, e-bostiwch ni ar lles@gofalcymdeithasol.cymru i gael gwybod mwy.