CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Arweinydd chwarae Caerdydd wedi ei enwi yn enillydd gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2023
Newyddion

Arweinydd chwarae Caerdydd wedi ei enwi yn enillydd gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2023

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Heddiw, mae Ross Dingle, rheolwr ac arweinydd chwarae Clwb Carco Limited yng Nghaerdydd, wedi ennill gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2023 mewn digwyddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Mae'r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith y rhai sydd wedi gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl trwy ddarparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r wobr flynyddol yn cydnabod y rhai sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Gallant gael unrhyw lefel o Gymraeg – rhugl, rhywfaint neu ddysgwr. Y peth pwysig yw eu bod yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith gyda’r bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt.

Eleni, dewiswyd pum unigolyn o bob rhan o Gymru ar gyfer rownd derfynol y wobr gan banel o feirniaid arbenigol a dewiswyd yr enillydd drwy bleidlais gyhoeddus, gyda mwy na 2,250 o bobl yn pleidleisio.

Enwebwyd Ross ar gyfer y wobr gan Jane O'Toole, Prif Weithredwr Clwb Plant Cymru Kids' Club, am ei waith yn datblygu ansawdd chwarae ac ethos Clwb Carco, sy'n rhedeg saith clwb gofal plant cyfrwng Cymraeg y tu allan i'r ysgol yn y De.

Cyhoeddwyd mai Ross oedd yr enillydd mewn digwyddiad amser cinio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan gan Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a chyflwynwyd y tlws gan ein Cadeirydd Mick Giannasi.

Meddai Sue Evans, ein Prif Weithredwr: "Llongyfarchiadau mawr i Ross a'n holl fuddugwyr clodwiw.

"Mae gallu derbyn gofal a chefnogaeth gan rywun sy'n gallu siarad eich iaith yn rhan bwysig o dderbyn gofal urddasol, o ansawdd uchel.

"Mae'r wobr eleni wedi rhoi enghreifftiau gwych i ni o weithwyr ysbrydoledig ac ymroddedig sy'n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac maen nhw’n adlewyrchu'r gwahaniaeth gwerthfawr a chadarnhaol y gall darparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg ei wneud i fywydau pobl."

Darganfyddwch mwy

Rhagor o wybodaeth am waith yr enillydd a’r pedwar gwych a gyrhaeddodd y rownd derfynol