CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ein camau nesaf

Rydyn ni’n cynnwys datgarboneiddio a chynaliadwyedd amgylcheddol yn ein cynlluniau gwaith. Dyma rai o'n cynlluniau ar gyfer 2023 i 2024:

Ein defnydd o ynni a gofod swyddfa

O fis Gorffennaf 2023, bydd 100 y cant o’n holl drydan yn dod o dariffau ynni adnewyddadwy.

O fis Ebrill 2024, byddwn ni’n lleihau gofod ein swyddfa 50 y cant gan adlewyrchu llwyddiant ein polisi gweithio hybrid.

Ein teithio a gwrthbwyso carbon

O fis Gorffennaf 2023, bydd ein polisi teithio staff newydd yn blaenoriaethu dulliau teithio mwy gwyrdd. Bydd ein hôl troed carbon teithio a chynhaliaeth anochel yn cael eu gwrthbwyso drwy brynu credydau carbon i gefnogi coetiroedd Cymru.

Ym mis Medi 2023, byddwn ni’n lansio cynllun prydlesu ceir di-garbon ar gyfer staff.

Ein cadwyn gyflenwi

Byddwn ni’n gorffen symud ein holl systemau TGCh i'r cwmwl ac yn lleihau ein defnydd o gynghorwyr proffesiynol allanol.

Ein gwaith ymchwil

Er mwyn cefnogi'r sector gofal cymdeithasol gyda datgarboneiddio a darparu tystiolaeth a data ynghylch sut mae'r sector yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd, rydyn ni’n edrych ar bynciau ymchwil posibl yn y maes hwn.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • addasu hinsawdd mewn gofal cymdeithasol
  • sut mae gofal cymdeithasol yn ymateb i heriau newid hinsawdd.
Cyhoeddwyd gyntaf: 28 Tachwedd 2023
Diweddariad olaf: 4 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd y gyfres: 4 Rhagfyr 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (27.8 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (67.8 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch