CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Datganiad argyfwng hinsawdd ein Bwrdd

Rydyn ni, Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cydnabod bod yr argyfwng hinsawdd yn achosi bygythiad sylweddol i iechyd, llesiant, diogelwch a ffyniant ein cymunedau. Rydyn ni’n poeni’n fawr am ei effaith drychinebus bosibl ar ddyfodol ein pobl a’n planed.

Fel sefydliad sy’n ymroi i hyrwyddo gofal cymdeithasol yng Nghymru, rydyn ni’n cydnabod ein cyfrifoldeb i fynd i’r afael â her frys yr argyfwng hinsawdd.

Rydyn ni’n ymrwymo i gymryd camau pendant ar unwaith i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr a chefnogi Addewid Sero Net 2030 Llywodraeth Cymru ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus.

Wrth gyhoeddi argyfwng hinsawdd, byddwn ni’n:

  • datblygu ‘Cynllun gweithredu ar yr hinsawdd’ cynhwysfawr sy’n amlinellu targedau uchelgeisiol a mesuradwy i leihau ein hôl troed carbon ac yn meithrin diwylliant o gynaliadwyedd ar draws ein sefydliad
  • rhoi arferion gorau ar waith fel y gallwn fod mor effeithlon â phosibl â’n hadnoddau, lleihau ein gwastraff a bod â chaffaeliad cynaliadwy ar draws ein holl weithrediadau, gan gynnwys ein cadwyn gyflenwi
  • annog ac yn cefnogi ein staff, partneriaid a rhanddeiliaid i fabwysiadu arferion mwy cynaliadwy yn eu bywydau personol a phroffesiynol
  • cydweithio â sefydliadau eraill, arbenigwyr ac arweinwyr i hyrwyddo mabwysiadau camau gweithredu ar yr hinsawdd trwy rannu gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau, a chynyddu ein heffaith
  • siarad o blaid newidiadau polisi ar lefel leol a chenedlaethol i gyflymu’r trawsnewid i ddyfodol carbon isel, cynaliadwy a chydnerth ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • cydnabod effaith yr argyfwng hinsawdd yn ein cynlluniau a’n polisïau, ac yn cynllunio ar gyfer ymaddasu i newid hinsawdd, yn ogystal ag atal a lleihau ein hallyriadau carbon, er mwyn cydnabod y rhagamcanion cyfredol ar gyfer yr hinsawdd.

Rydyn ni’n cydnabod y bydd cyflawni ein nodau yn ymwneud â’r hinsawdd yn mynnu ymroddiad, arloesi a dyfalbarhad. Ond rydyn ni’n ymrwymo i chwarae ein rhan mewn creu dyfodol cynaliadwy a theg i bawb.

Cyhoeddwyd gyntaf: 28 Tachwedd 2023
Diweddariad olaf: 4 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd y gyfres: 4 Rhagfyr 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (29.0 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (67.8 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch