CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
​Plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya

Deunyddiau lefel A

Nod yr adnoddau hyn yw rhoi trosolwg o Ran 6 y Ddeddf, Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n cael eu Lletya, yn ogystal ag agweddau perthnasol o Ran 11 sy’n ymwneud â phlant ag unigolion mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth. Maent yn cynnwys crynodebau o'r negeseuon allweddol ac maen nhw'n addas ar gyfer pob rôl ar draws y sector i roi trosolwg iddyn nhw o'r newidiadau allweddol.

Deunyddiau lefel B

Mae'r deunyddiau dysgu mwy manwl yma ar gyfer y rhai bydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Eu nod yw helpu nhw i weithredu'r newid.

Deunyddiau cefnogol

Mae'r astudiaethau achos, senarios a thaflenni yma yn cefnogi'r modiwl hyfforddi Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n cael eu Lletya.

Deunyddiau ychwanegol

Mae'r canllaw i hyfforddwyr a'r rhestr termau isod yn cefnogi'r holl fodiwlau hyfforddi craidd.