CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ynglŷn â llesiant yn y gwaith

Beth yw llesiant yn y gwaith, pam ei fod yn bwysig yn y gwaith, a lle i gael mwy o wybodaeth.

Beth yw llesiant yn y gwaith?

Mae ein llesiant yn y gwaith yn cynnwys pob rhan o'n bywyd gwaith, gan gynnwys yr amgylchedd rydyn ni’n gweithio ynddo, sut rydyn ni'n teimlo am ein gwaith, y sefydliad a'r bobl rydyn ni'n gweithio gyda nhw.

Pethau sy'n gallu gwneud gwahaniaeth i'n llesiant yn y gwaith:

  • diwylliant y gweithle

Gall y diwylliant yn y gwaith effeithio ar sut rydyn ni'n teimlo. Gall diwylliant cadarnhaol ein helpu i deimlo'n ddiogel a bod cefnogaeth ar gael yn ein gwaith.

Mae pethau sy'n effeithio ar ddiwylliant y gweithle yn cynnwys:

  • ein perthynas â'r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw
  • sut rydyn ni’n cael ein rheoli
  • y dull o arwain yn ein sefydliad
  • yr amgylchedd rydyn ni’n gweithio ynddo.

  • bywyd gartref ac yn y gwaith

Bydd sut rydyn ni'n teimlo yn y gwaith a'n gallu i wneud ein gwaith yn cael ei effeithio gan ein bywydau gartref.

Mae gweithle da yn cydnabod anghenion unigol ei weithwyr ac yn eu cefnogi i wneud eu gwaith yn dda.

  • gofalu amdanoch eich hun gystal ag y gallwch

Mae gofalu am eich iechyd personol eich hun yn bwysig er mwyn i chi allu gwneud eich gwaith yn dda.

Pam fod llesiant yn bwysig yn y gwaith

Mae llesiant da yn y gwaith yn bwysig oherwydd:

  • mae'n rhoi ymdeimlad o gyflawni ac o bwrpas i ni yn ein rôl
  • rydyn ni’n perfformio'n well os ydyn ni'n hapusach yn y gwaith ac yn hyderus yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud, sy'n golygu ein bod ni'n cefnogi pobl yn well
  • mae staff sy'n teimlo eu bod yn cael cymorth yn y gwaith yn fwy tebygol o aros gyda sefydliad.

Camau nesaf

Gall meddwl am ffyrdd o gefnogi eich llesiant eich hun neu eraill yn y gwaith ymddangos yn anodd. I ddechrau, darllenwch ein canllawiau ar gefnogi eich llesiant eich hun yn y gwaith, neu reoli llesiant tîm.

Rydyn ni hefyd wedi ysgrifennu fframwaith, sy'n eich helpu i adeiladu ar yr hyn rydych chi eisoes yn ei wneud i greu diwylliannau cadarnhaol yn y gwaith a hyrwyddo llesiant.