CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
‘Sgyrsiau Gwell’ mewn Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Newyddion

‘Sgyrsiau Gwell’ mewn Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

| Charmine Smikle

Mae'r adnoddau newydd wedi'u datblygu i ateb gofyn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) am weld y cyflwyno Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth wrth wraidd yr agenda ataliol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn gweithio gyda chynghorau i gefnogi datblygu arferion gwaith cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Y nod yw cynnig profiad ac ymagwedd gyson at y rhai sy'n gofyn am gymorth gan wasanaethau ar draws gofal cymdeithasol.

Nid yw'r rhaglenni hyn yn rhaglen hyfforddi, ond mae set gynhwysfawr o sleidiau a nodiadau y bydd angen i chi eu haddasu ar gyfer eich lleoliad penodol. Mae yna ddau becyn; y cyntaf i'w ddefnyddio gyda rheolwyr tîm a thimau rheng flaen Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a'r ail ar gyfer sefydliadau, uwch reolwyr ac aelodau etholedig i ddeall yn well y rhan y mae'n rhaid iddynt ei chwarae wrth gefnogi'r dull newydd hwn.

Bydd yr adnoddau hyn yn rhan o Fframwaith Cymhwysedd Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Ewch i dudalen Adnoddau dysgu Gwybodaeth, cyngor a chymorth