CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cydweithredu i Ofalu yn lansio pecyn cymorth arlein rhyngweithiol newydd
Newyddion

Cydweithredu i Ofalu yn lansio pecyn cymorth arlein rhyngweithiol newydd

| Charmine Smikle

Mae’r pecyn cymorth wedi rhannu’r broses gynllunio yn bynciau hwylus wedi’u hanimeiddio sy’n trafod popeth sydd angen i chi ei wybod am ddatblygu gwasanaeth cydweithredol.

Mae’r pecyn cymorth yn eich tywys drwy bum maes allweddol y gallwch chi eu cyflawni yn eich amser eich hun. Mae’r pynciau’n cynnwys:

Mae pob pwnc yn cynnwys gwybodaeth, cwisiau a gweithgareddau i i wneud eich ‘taith gydweithredu’ yn un hwyliog a difyr. Ar ôl i chi gwblhau’r pynciau, bydd y tîm 'Cydweithredu i Ofalu’ wrth law i ddarparu cymorth a chyngor ychwanegol.

Bydd y pecyn cymorth yn eich ysbrydoli chi a’ch ffrindiau, teulu a’r gymuned leol i gael mwy o lais a rheolaeth dros eich gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth.

Meddai Aelod Gorwelion Newydd “Roedd y pecyn cymorth yn ddefnyddiol iawn. Roedd yn hawdd ei ddeall ac fe wnaeth fi’n ymwybodol o hyd a lled cydweithredu”

Mae’r pecyn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gemma Murphy drwy e-bostio Gemma.murphy@wales.coop