CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Pobl cofrestredig sydd wedi eu hatal dros dro

Gweler yr holl bobl cofrestredig sydd wedi’u hatal dros dro o’r Gofrestr.

Gallwn atal person cofrestredig dros dro o’r Gofrestr, wrth i ni ymchwilio i honiadau neu bryderon. Mae’r rhain yn cael eu galw’n orchmynion atal dros dro. Ni all person cofrestredig weithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru o dan orchymyn atal dros dro.

Rhaid i orchmynion dros dro gael eu hadolygu bob chwe mis ac ni allant fod yn hirach na 18 mis oni bai bod y Tribiwnlys Safonau Gofal yn eu hymestyn.