CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Pobl cofrestredig ag amodau dros dro

Gweler yr holl bobl cofrestredig sydd ag amod dros dro ar eu cofrestriad.

Gall person cofrestredig gael amod dros dro ar eu cofrestriad os oes angen i ddiogelu’r cyhoedd, os yw er budd y cyhoedd neu er budd y person cofrestredig.

Gelwir yr amodau dros dro hyn yn orchmynion cofrestru amodol dros dro.

Gall person cofrestredig barhau i weithio yn eu rôl gofrestredig tra bod amod yn ei le. Ni all gorchmynion cofrestru amodol dros dro fod yn hirach na 18 mis, a byddan nhw’n cael eu hadolygu bob chwe mis tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Mae’r rhestr yn ymddangos yn nhrefn yr wyddor.