Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer a eisteddodd ar 18 Tachwedd 2021 wedi canfod honiad a brofwyd yn erbyn Thomas Pedder, gweithiwr gofal cartref cofrestredig. Yn benodol, ar 06 Ebrill 2021 cafodd enw Thomas Pedder ei gynnwys mewn rhestr a gedwir o dan adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed 2006 sef Rhestr Gwahardd Oedolion.
Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd presennol i ymarfer Thomas Pedder a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na all weithio mwyach mewn rôl gofal cymdeithasol rheoledig yng Nghymru.
Mae gan Thomas Pedder yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru